Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 10 Ionawr 2023.
Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma. Nawr, heb os, mae technoleg yn datblygu'n gyflym iawn, gyda chwmnïau'n cyflwyno datblygiadau mawr i wella canlyniadau iechyd. Felly, byddai gen i ddiddordeb gwybod, Gweinidog, pa ddyfeisiau technoleg, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio iddynt i leddfu'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd y gaeaf yma ac wrth symud ymlaen? Y rheswm pam fy mod i'n gofyn y cwestiwn hwn yn benodol yw oherwydd i mi fynd i CES, sef cynhadledd dechnoleg fwyaf y byd, a llwyddais i weld rhai o'r datblygiadau enfawr hyn yn digwydd mewn technoleg feddygol. Nawr, heb swnio fel cynrychiolydd meddygol sydd wedi dod yn ôl o'r Unol Daleithiau, un cwmni a oedd wir yn sefyll allan oddi wrth y gweddill oedd cwmni o'r enw MedWand Solutions, sydd wedi lansio ei ddyfais MedWand yn ddiweddar, dim mwy na maint llygoden, sydd wedi'i chysylltu â'ch cyfrifiadur. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, mae'r ddyfais ddefnyddiol hon yn darparu system barod ei defnyddio, sy'n cynnwys teclyn sy'n eich galluogi i gysylltu gliniadur â, mewn gwirionedd, dyfais fach, gyda synwyryddion a all wrando ar eich calon, mesur cyfradd curiad y galon, perfformio electrocardiogram, gwrando ar eich ysgyfaint, mesur pwysedd gwaed, lefelau ocsigen, cadarnhau tymheredd, a hyd yn oed gwrando ar eich abdomen. Gall hyd yn oed edrych i mewn i'ch trwyn, eich gwddf, eich ceg a'ch clustiau, yn ogystal ag archwilio'ch croen. Nawr, dim ond yr un ddyfais hon yn unig, Gweinidog, sydd â'r potensial i newid y dirwedd o ddifrif o ran darparu gofal iechyd yn agos ac yn bell, yn ogystal â lleddfu'r pwysau ar ein staff sy'n gweithio'n galed ar draws y sector, gan gynnwys mewn ysbytai, meddygfeydd, a hyd yn oed gwneud bywyd yn haws i barafeddygon hefyd.
Nawr, byddai hwn wir o fudd i gleifion sydd â phroblemau iechyd lluosog, yr henoed, y rhai sydd ag anableddau, ochr yn ochr â'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd mynd allan. Rwy'n siŵr ei fod yn amlwg yn llawer mwy cywrain na'r hyn rydw i wedi'i ddisgrifio yma o'ch blaen chi i gyd heddiw, ond y prif bwynt rwy'n ceisio ei wneud, Gweinidog—. Ac efallai fy mod i'n swnio, fel dwedais i, fel cynrychiolydd meddygol nawr, ond byddai dyfeisiau tebyg i hyn nid yn unig yn gwella canlyniadau i gleifion ledled Cymru, ond hefyd yn lleddfu'r pwysau ar ein GIG, sy'n rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud ac rydyn ni eisiau ei weld hefyd, nid dim ond ar gyfer y gaeaf, ond drwy gydol y flwyddyn hefyd.
Fel rydych chi wedi dweud, Gweinidog, mae ein staff iechyd o dan bwysau aruthrol, ac mae'n mynd i barhau i fod yn fwy heriol i bob un ohonom. Felly, gallai fod yn broses hir a chymhleth i gyflwyno rhywbeth o'r fath yma yng Nghymru, ond, Gweinidog, a fyddwch chi'n ymrwymo i ymchwilio i'r cynnyrch hwn a chynnyrch tebyg? Ac fel y gofynnais ynghynt, fyddech chi mor garedig ag amlinellu pa ddyfeisiau neu atebion technolegol eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i leddfu'r pwysau ar y GIG? A byddwn i wir yn croesawu'r cyfle i siarad â chi eto am hyn yn fanylach a rhoi manylion cyswllt i chi, os ydych chi'n dymuno hynny. Diolch.