Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 10 Ionawr 2023.
Os yw'r cyfrifoldeb yn llwyr arnom ni ac mae yna ddisgwyl inni ofalu am bopeth, heb fod pobl yn cymryd cyfrifoldeb drostyn nhw eu hunain, dŷn ni ddim yn mynd i ymdopi. Os ŷch chi'n edrych ar y sefyllfa—[Torri ar draws.] Os ŷch chi'n edrych ar y sefyllfa o ran heneiddio yn y boblogaeth, fydd hi ddim yn bosibl yn y dyfodol inni roi'r ddarpariaeth sydd ei hangen. Felly, mae'n rhaid i ni ofyn i bobl Cymru i'n helpu ni yn fan hyn.
Ac rŷn ni wedi rhoi pethau mewn lle, fel yr help rŷn ni'n ei roi gyda Help us Help you, fel yr help rŷn ni wedi ei roi trwy 'Healthy Weight: Healthy Wales'. Mae lot o arian wedi mynd i mewn i'r rhain, fel yr arian pre-diabetes rŷn ni wedi ei roi i mewn i'r system, sydd yn gwneud gwahaniaeth. Felly, rŷn ni yn ceisio sicrhau ein bod ni'n rhoi'r help lle rŷn ni'n gallu. Rŷn ni'n deall bod y problemau costau byw yn mynd i effeithio ar bobl, ac rŷn ni'n ymwybodol mai'r bobl sy'n mynd i dalu'r pris mwyaf yw'r bobl tlotaf yn ein cymdeithas. Dyna pam rŷn ni wedi bod yn anelu ein harian ni tuag at y rheini. Rŷn ni wedi rhoi lot fawr o arian mewn lle i helpu pobl trwy'r cresis yma ac, mewn gwirionedd, cyfrifoldeb San Steffan yw hi i roi'r arian yna, ac i gynnig yr arian, ond rŷn ni wedi camu i mewn i'r twll yna achos bod y Llywodraeth yn San Steffan heb wneud eu gwaith nhw.