Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 10 Ionawr 2023.
Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd da o ran hyblygrwydd drwy'r Ddeddf llywodraeth leol ac etholiadau. Gwnaeth hynny ddileu rhai o'r rhwystrau hynny drwy gyflwyno'r gallu i gael y cyfarfodydd hybrid hynny, yr ydym ni'n gwybod eu bod wedi bod yn bwysig iawn i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, cyfrifoldebau teuluol, ymrwymiadau cyflogaeth sy'n golygu bod yr amseroedd y maen nhw ar gael yn fwy cyfyngedig. Mae perchnogion busnesau bach yn ogystal yn ei weld yn adnodd defnyddiol iawn.
Rwy'n cytuno y dylem ni ddisgwyl yr un ymddygiad gan bobl yn yr amgylchedd rhithwir ag yr ydym ni mewn bywyd go iawn, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi'i fabwysiadu yma yn y Senedd. Rwy'n credu bod gennym ni fodel da o ran sut yr ydym ni'n ymwneud â phobl a'u trin yn gyfartal, p'un a ydyn nhw yma yn bersonol neu beidio. A dim ond i gydnabod hefyd bod cyfarfodydd ffurfiol gosodedig pwyllgorau, o'r cyngor llawn, cyfarfodydd ein cynghorau tref a chymuned, yn hanfodol bwysig, ond dim ond rhan o'r swydd y mae cynghorwyr yn ei chyflawni ydyn nhw. Rwy'n gwybod bod llawer o gynghorwyr yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw allan yn eu cymunedau—bob dydd, yn aml—yn cysylltu wyneb yn wyneb â phobl. Felly, rwy'n credu bod ffyrdd o gynnal y cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw o hyd, hyd yn oed wrth gyfarfod mewn amgylchedd hybrid. Ond os oes mwy o gyngor ac arweiniad y gallwn eu rhoi, yna fe geisiwn ni wneud hynny.
Rwy'n credu bod y pwynt am ymgysylltu â chyflogwyr wedi'i wneud yn dda iawn. Ysgrifennais i at arweinwyr pob un o'n sefydliadau sector cyhoeddus yn weddol ddiweddar, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cynghorwyr a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae yn ein cymunedau, a hefyd gofyn iddyn nhw ystyried ffyrdd y gallen nhw gefnogi eu gweithwyr i fod yn gynghorwyr, a nodi'r manteision, o bosibl, i'r sefydliad o gael cynghorwyr yn gweithio yno hefyd. Ond rwy'n credu, mwy na thebyg, fod mwy y gallwn ni ei wneud. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd drwy amrywiol fforymau gwahanol gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ac rwy'n credu bod cyfleoedd yna i mi gyfleu iddyn nhw bwysigrwydd cefnogi pobl i fod yn gynghorwyr. Felly, yn sicr, fe wnaf i gymryd hyn fel gweithred yn deillio o'n trafodaethau yn y Siambr y prynhawn yma.
Mae'r pwyntiau am gamdriniaeth, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Gwnaethom ni ganfod yn yr arolwg cynghorwyr fod hwn yn rhywbeth yr oedd llawer o gynghorwyr yn hynod bryderus yn ei gylch ac wedi ei hwynebu naill ai'n bersonol neu wedi'i gweld yn digwydd, ac roedden nhw'n ategu'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud, mewn gwirionedd, sef bod hyn o bosibl yn rhwystro pobl. Rwy'n credu mai dyna pam y mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud drwy ganllawiau'r cynghorydd da mor bwysig, ond wedyn hefyd y gwaith mae CLlLC yn ei arwain hefyd gyda Debate Not Hate. Roedd hynny wir yn ymwneud â cheisio meithrin y math cywir o ddiwylliant ac amgylchedd o fewn lleoliad llywodraeth leol hefyd. Ond rwy'n credu bod y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud drwy'r arolwg wedi ein helpu ni i ddeall bwlio'n well, a deall diwylliannau amharchus yn well, felly rwy'n credu y bydd y gwaith y byddwn ni'n parhau i'w wneud gyda CLlLC, ac wrth gwrs gydag Un Llais Cymru, sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, yn gynyddol bwysig yn y dyfodol hefyd.
Mae'r hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl oddi wrth gynghorwyr yn enfawr—62 y cant o bobl yn credu y bydd eu cynghorwyr ar gael iddyn nhw 24/7 sy'n anhygoel. Mae'r ffaith bod cymaint o gynghorwyr—bron i ddwy ran o dair ohonyn nhw—ar gael 24/7 i'w hetholwyr yn dangos yr ymrwymiad sydd gan bobl i'r swyddogaeth hon, ond hefyd, rwy'n credu ei bod yn rhwystro pobl hefyd, efallai yn ormod o faich i rai cynghorwyr da a allai benderfynu nad yw'n rhywbeth y maen nhw eisiau'i wneud dros y tymor hwy. Felly, rwy'n credu bod llawer i ni ei ystyried yn yr arolwg yn y maes hwnnw hefyd.
Mae'r pwynt cyffredinol ynghylch sicrhau bod gan gynghorwyr y canllawiau cywir, rwy'n credu, yn bwysig. Rydym ni'n ymgynghori ynghylch a ddylai fod hyfforddiant gorfodol i gynghorwyr ai peidio, o ystyried yr hyn y mae cynghorwyr wedi dweud wrthym ni am y ffaith y bydden nhw'n aml, yn enwedig mewn cynghorau tref a chymuned, yn gwerthfawrogi hyfforddiant ac arweiniad, yn enwedig ym meysydd cydraddoldeb. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. O bosibl, gallem ni gysylltu'r gwahanol bethau hyn o ran helpu pobl i ddeall yr hyn a ddisgwylir oddi wrthyn nhw a'r hyn sy'n rhesymol pan fyddan nhw'n dechrau'r swyddogaethau hyn, ond yna hefyd beth sy'n gyfystyr â diwylliant democrataidd iach o fewn sefydliadau. Felly, rwy'n credu bod yr arolwg wedi ein helpu ni i hogi ein ffordd o feddwl, mewn gwirionedd, am y pethau y mae angen i ni fod yn gweithio arnyn nhw ochr yn ochr, a gyda'n cydweithwyr.