Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi'n meddwl mai diolch yw'r hyn sydd angen inni ei wneud ar y cychwyn, sef diolch, wrth gwrs, i'r unigolion hynny sydd wedi rhoi eu hunain ymlaen i fod yn lladmeryddion dros eu cymunedau, er dwi'n siŵr efallai nad ydyn nhw'n teimlo mai dyna yw e yn aml iawn, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni o orfod torri gwasanaethau ac yn y blaen. Yn sicr, does neb yn mynd i mewn i lywodraeth leol er mwyn gwneud hynny. Ond mae yn cyfrannu, wrth gwrs, at y teimlad negyddol, efallai, sydd o gwmpas y rolau yma yn anffodus, a'r modd y mae'r gymuned ehangach—y canfyddiad sydd yna, efallai, o'r hyn y mae rhai o'r cynghorwyr yma'n ei wneud. Ond boed ein bod ni'n cytuno neu beidio â'i gwleidyddiaeth nhw, mae'n rhaid inni gyd gydnabod eu bod nhw wedi bod yn barod i gamu lan ac i gymryd y cyfrifoldeb yna a'u bod nhw'n ei wneud e am y rhesymau gorau, boed ein bod ni'n cytuno, wrth gwrs, fel roeddwn i'n dweud, neu beidio â'r penderfyniadau terfynol.
Ond mae'r disgwyl yma o fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gallwn ni uniaethu â hynny, gallwn, ond rydyn ni'n broffesiynol, rŷn ni'n cael ein talu'n dda i wneud hyn fel swydd llawn amser. Fel rŷch chi'n dweud, mae disgwyl i bobl i wneud hyn ar ben ymrwymiadau gwaith, ar ben ymrwymiadau teuluol. Rŷn ni dal â rhai cynghorau sy'n cwrdd yn ystod adegau o'r dydd sydd ddim yn addas i bobl i allu cyfrannu fel y buasem ni'n dymuno. Felly, mae yna ffordd bell i fynd; mae yna lawer i fynd i'r afael ag e. Ac mae ystyried y sefyllfa o ran cydnabyddiaeth ariannol, ie, yn rhywbeth sydd angen ei wneud, fel rŷch chi'n dweud yn y datganiad. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn derbyn bydd ryw £100 neu £200 yn ychwanegol ddim yn datrys y broblem, ac mae hynny'n dod â fi i ganolbwynt fy neges i, mewn gwirionedd. Dwi yn credu bod yn rhaid inni edrych ar faterion tipyn mwy strwythurol o safbwynt llywodraeth leol—cynghorau sir a chynghorau bro a thref—na jest edrych ar ambell i ymyriad i drio gwella'r amrywiaeth a'r gynrychiolaeth sydd gennym ni.
Mae yna ddiffyg eglurder o ran rôl y cynghorau—cynghorau bro a thref yn enwedig—rŷch chi'n ei ddweud. Yn sicr, mae hwnna'n awgrymu i fi bod y gyfundrefn ddim yn gweithio. Mae methu 'connect-io' gyda'r cyngor bro a thref lleol, mae'r ffaith bod yna gymaint o seddi gwag, gymaint o seddi wedi mynd heb etholiad, mae hwnna'n sgrechian i fi yr angen i fynd i'r afael go iawn â'r haen yna yn enwedig o lywodraeth leol yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn i yw: faint o barodrwydd sydd yna o safbwynt y Llywodraeth i edrych ar ymyriadau mwy strwythurol o safbwynt llywodraeth leol yng Nghymru, yn enwedig efallai y lefel yna o gynghorau bro a thref? Oes angen inni edrych ar rymuso cynghorau bro a thref er mwyn denu mwy o bobl i gyfrannu, i ehangu'r rheini sydd â diddordeb, i rannu'r baich ychydig ar draws y gwahanol haenau o awdurdodau lleol? Nawr, gallaf glywed cynghorau sir efallai'n cwyno am hynny, ond mae angen cael y drafodaeth, dwi'n teimlo, am le mae nifer o'r cyfrifoldebau yma'n eistedd.
Does dim cysondeb ar draws Cymru o ran cynghorau bro a thref. Mae gennym ni 70, 80 o gynghorau bro a thref mewn rhai siroedd, ac wedyn does dim un o gwbl mewn rhai siroedd eraill. Mae rhai ohonyn nhw â precept efallai o £1,000 neu £2,000 y flwyddyn, ac wedyn mae rhywle fel cyngor Barri, dwi'n credu, yn cynrychioli poblogaeth sydd bron mor fawr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae angen, dwi'n meddwl, o ddifrif ystyried rhyw fath o reset ar yr haen yna. Ac wrth gwrs, fel rhan o'r broses yna wedyn, mi allwn ni fod tipyn mwy rhagweithiol yn cyflwyno ymyriadau bwriadol wedyn. Rydyn ni wedi derbyn yr egwyddor o safbwynt y Senedd a diwygio'r Senedd yn fan hyn—ein bod ni eisiau symud, os gallwn ni, at system etholiadol sydd yn sicrhau cynrychiolaeth fwy hafal o safbwynt dynion a merched. Wel, os ydy'r egwyddor yna'n ddilys ar gyfer y Senedd, onid yw'r un egwyddor yn ddilys ar gyfer llywodraeth leol? Ydy'r Llywodraeth yn barod i ystyried rhyw fath o gamau tebyg i hynny? Mi fuaswn i'n falch i glywed hynny gennych chi.
Rydych chi'n sôn am y grŵp tasg a gorffen ar iechyd democratiaeth, ac wrth gwrs gwnawn ni gefnogi gwaith grŵp felly, ond a allwch chi ehangu ychydig ar remit y grŵp yna? I ba raddau y maen nhw'n mynd i fod yn edrych ar rai o'r cwestiynau ehangach yma? Neu, ydyn nhw jest yn mynd i ffocysu ar greu neu annog un neu ddau o ymyriadau in isolation? A dwi ddim yn teimlo bod hwnna, yn ei hanfod, yn mynd i chwildroi'r sefyllfa efallai yn y modd y buaswn i'n dymuno ei weld. Mae angen, wrth gwrs, herio unrhyw agweddau sy'n normaleiddio bwlio ac aflonyddu cynghorwyr—misogyny, hiliaeth, homoffobia; maen nhw i gyd yn elfennau y mae’n rhaid inni weithredu i gyfyngu arnyn nhw. Mi oedd hi'n hynod o siomedig gweld peth o’r dystiolaeth yn dweud bod rhai pobl yn teimlo ei bod hi'n anodd codi’r materion yma, ei bod hi'n anodd sicrhau eu bod nhw'n cael eu hymchwilio. Mae hynny, i fi, yn canu clychau o safbwynt yr angen i fynd i'r afael â hynny. Ond, mi gefnogwn ni'r Llywodraeth, ond mi fydden ni yn licio gweld ymrwymiad ehangach, mwy strwythurol i fynd i'r afael â rhai o'r problemau yma, yn hytrach, efallai, na jest trio delio gydag un neu ddau o issues ar y tro. Diolch.