Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch. Fel cynrychiolwyr etholedig, rydym ni mewn sefyllfa freintiedig. Mae'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu yn ymddiried ynom ni i wneud ein gorau glas drostynt. Ac er fy mod i'n sôn am lywodraeth leol heddiw, mae'r materion yn berthnasol i bob rhan o'n democratiaeth.
Mae'r penderfyniadau y mae ein cynghorwyr yn eu gwneud yn cael effeithiau gwirioneddol ar ein cymunedau ledled Cymru. Mae ein cymunedau'n cynnwys pobl sy'n wahanol—cefndiroedd gwahanol, diwylliannau gwahanol a dyheadau gwahanol. Ac mae gwahanol genedlaethau'n cael eu llunio gan newidiadau yn yr amgylchedd, gan ddatblygiadau technolegol, a gan eu profiadau beunyddiol. A dyna pam mae amrywiaeth mewn democratiaeth mor bwysig. Rhaid i unigolion fod yn hyderus bod y penderfyniadau sy'n cael eu cymryd, a bod yr effaith ar eu bywydau bob dydd a'u dyfodol, yn cael eu llunio drwy ystyried pob barn a safbwynt yn eu cymunedau.
Yn ôl canlyniadau diweddaraf y cyfrifiad, rhwng 2011 a 2021, cynyddodd cyfran y bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru o 4.4 y cant i 6.3 y cant. Fodd bynnag, dangosodd arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol 2017 mai dim ond 1.8 y cant o'r prif gynghorwyr etholedig, a 1.2 y cant o gynghorwyr tref a chymuned etholedig, a oedd yn dod o grŵp ethnig lleiafrifol, a bydd gennyf i ddiddordeb gweld canlyniadau arolwg llywodraeth leol 2022, a fydd ar gael yn fuan.
Rydym ni eisoes wedi cymryd camau i gefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth yng Nghymru. Rydym ni wedi gostwng yr oedran ar gyfer pleidleisio yn y Senedd ac etholiadau llywodraeth leol i 16. Rydym ni wedi cyflwyno mwy o hyblygrwydd i gyfarfodydd y cyngor gael eu cynnal drwy amrywiaeth o wahanol ddulliau, gan gynnwys yn gwbl o bell a hybrid. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno absenoldeb teuluol i brif gynghorwyr. Ac rydym ni'n cydnabod y costau ychwanegol y gall ymgeiswyr anabl eu talu ac rydym ni wedi treialu mynediad at gronfa swyddfa etholedig, ac mae chwech o'r unigolion sy'n cael eu cefnogi drwy'r gronfa nawr yn gynghorwyr cymuned. Rydym ni wedi cyflwyno trefniadau rhannu swyddi ar gyfer swyddi gweithredol, ac mae gan bedwar cyngor y trefniadau hyn ar waith ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, rydym ni'n credu bod rhagor i'w wneud, a dyna pam yr ydym ni wedi comisiynu nifer o ddarnau ymchwil, gan gynnwys adolygu tystiolaeth o sut mae taliadau cydnabyddiaeth cynghorwyr yng Nghymru yn cymharu â gwledydd eraill; arolwg o agweddau'r cyhoedd; ac arolwg ar-lein o gynghorwyr yng Nghymru. Cafwyd dros 1,600 o ymatebion gan brif gynghorwyr a chynghorwyr tref a chymuned i'r arolwg ar-lein, ac mae cyfoeth o wybodaeth wedi'i chasglu ar bynciau fel dylanwad canfyddedig cynghorwyr, llwyth gwaith, tâl cydnabyddiaeth, ac ymddygiad ac agweddau tuag at gynghorwyr. Cafodd canfyddiadau'r arolwg hwn, a'r darnau eraill o ymchwil eu cyhoeddi'r llynedd. Yn ogystal, cafodd dau weithdy eu cynnal i ymchwilio'n ddyfnach i ganfyddiadau'r ymchwil gyda rhanddeiliaid, ac mae gweithdy ar-lein arall wedi'i drefnu ar gyfer 17 Ionawr.
Rwyf i wedi gwneud trefniadau i swyddogion sy'n gweithio yn y maes polisi hwn fod ar gael i Aelodau'r Senedd mewn sesiwn galw heibio, a bydd Aelodau'n cael gwybod am ddyddiad y sesiwn cyn gynted ag y bydd wedi'i gadarnhau. Bydd hyn yn galluogi Aelodau'r Senedd i drafod yr ymchwil a rhannu unrhyw farn a phrofiadau y maen nhw'n teimlo y bydd yn ddefnyddiol wrth lunio ein dull gweithredu yn y dyfodol.
Un o'r prif faterion sydd wedi deillio o'r gwaith ymchwil yw'r disgwyliad sydd gan y cyhoedd ynglŷn â llwyth gwaith cynghorwyr a pha mor aml y maen nhw ar gael. Mae hyn yn arwain at gwestiynau ynghylch a yw'r disgwyliadau hyn yn deg a sut mae cynghorwyr yn ymateb i hyn. Roedd canlyniadau'r arolwg cyhoeddus yn nodi bod bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr yn teimlo y dylai cynghorwyr
'fod ar gael i'r gymuned unrhyw bryd'.
O ran cynghorwyr, nododd 63 y cant eu bod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn dangos y lefel uchel o ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ymhlith ein haelodau etholedig lleol, ond mae hefyd yn codi pryder, gan fod y pwysau amser hyn yn creu anawsterau i lawer o bobl a allai fod ag ymrwymiadau gofalu, teulu, cyflogaeth neu fusnes, ac felly gallai achosi rhwystr posibl rhag cynyddu amrywiaeth.
Gwnaeth yr ymchwil hefyd archwilio'r gefnogaeth bresennol i gynghorwyr a pha gefnogaeth arall a allai fod o gymorth, yn ogystal ag a ddylai hyfforddiant gorfodol craidd fod ar gael i gynghorwyr, a yw'r model taliadau ar gyfer cynghorwyr yn parhau i fod yn ddilys, a sut y gallwn ni fod yn glir ynghylch y rhan y mae cynghorwyr yn ei chwarae yn y gymdeithas. Er nad oedd canlyniad clir ar fater hyfforddiant gorfodol, roedd nifer o gynghorwyr tref a chymuned yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant, yn enwedig ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
Roedd amrywiaeth eang o safbwyntiau ynghylch y trefniadau taliadau cydnabyddiaeth presennol, y byddwn ni eisiau eu harchwilio'n ehangach. Roedd yn ymddangos bod gan ymatebwyr i arolwg omnibws Cymru ym mis Mawrth 2021 ddealltwriaeth dda o ran cynghorwyr llywodraeth leol yng Nghymru, ac roedden nhw'n cynnig amrywiaeth o safbwyntiau am eu gwaith o ddydd i ddydd. Gan edrych ymlaen, mae gennym ni raglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau'r diffyg democrataidd ac ymestyn y gronfa mynediad i swyddi etholedig.
Mae amrywiaeth ein cynrychiolwyr etholedig lleol yn hanfodol i'n hiechyd democrataidd fel cenedl. Mae cefnogi ac annog ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol yn rhan annatod o annog pobl i ymgysylltu â'n democratiaeth ni. Byddwn ni felly'n defnyddio'r dystiolaeth o'r ymchwil hon, a'r gwaith arall yr ydym ni wedi'i gomisiynu o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, i ddatblygu'r camau nesaf i gyflawni'r ymrwymiadau hyn.
Cyn bo hir, byddaf i'n cyhoeddi'r canlyniadau o arolwg ymgeiswyr mis Mai 2022. Ond, hyd yn oed heb y canlyniadau, rydym ni'n gwybod bod cynnydd yn nifer y seddi gwag a diymgeisydd yn ein cynghorau tref a chymuned. Roedd ychydig dros 60 y cant o seddi cynghorau tref a chymuned â dim ond un ymgeisydd, ac roedd ychydig dros 20 y cant yn wag. Roedd 29 o gynghorau heb gworwm i ddechrau
Mae dau fater allweddol i ni weithio arnyn nhw. Yn gyntaf, sicrhau bod cymunedau'n teimlo cysylltiad â'u cyngor cymuned ac eisiau ymgysylltu â'u cyngor cymuned. Yn ail, gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo wedi'u hymgysylltu digon i fod eisiau cynnig eu hunain i gael eu hethol i gynghorau cymuned. Er mwyn ymdrin â'r materion hyn, rwy'n sefydlu gweithgor gweinidogol, grŵp gorchwyl a gorffen iechyd democrataidd. Rwy'n awyddus iawn bod hwn yn adolygiad cyflym, pragmatig o'r rhwystrau a'r cyfleoedd a fydd yn cyflwyno ffordd newydd o feddwl ynghylch sut yr ydym yn cynyddu cyfranogiad.
Yn olaf, er bod peth tystiolaeth o'r arolwg cenedlaethol sy'n awgrymu bod mwy o bobl yn teimlo'u bod yn rhan o benderfyniadau lleol ac yn teimlo fod ganddyn nhw berthynas gyda chynghorwyr, mae yna hefyd fwy o negyddiaeth tuag at gynghorwyr. Tynnodd arolwg y cynghorwyr sylw at bryderon penodol am y lefelau cynyddol o bolareiddio yn y ddadl gyhoeddus. Roedd llawer yn teimlo bod yr agwedd negyddol hon wedi dwysáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi'u hysgogi gan y dadleuon ynghylch Brexit a'i effaith, sut yr ymdrinwyd â COVID-19, a lefelau ymddiriedaeth yn dirywio'n gyffredinol mewn gwleidyddion. Dangosodd canfyddiadau fod tua hanner yr ymatebwyr wedi wynebu neu wedi bod yn dyst i ymddygiad amhriodol gan aelodau'r cyhoedd tuag at gynghorwyr. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol.
Rwyf i hefyd wedi cael fy siomi fod rhywfaint o'r gamdriniaeth y mae cynghorwyr wedi'i hwynebu wedi dod oddi wrth gynghorwyr eraill. Roedd dau o bob pum ymatebwr wedi bod yn dyst, neu wedi wynebu ymddygiad amhriodol gan gynghorwyr eraill. Mae risg bod camdriniaeth yn cael ei normaleiddio a'i gweld fel rhan o'r swydd, ond yn amlwg, nid ydyw. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sefydlu dim goddefgarwch a nodi camau y gallwn ni eu cymryd i ymdrin â chamdriniaeth ac aflonyddu yn y dyfodol. Rwy'n cefnogi gwaith CLlLC yn y maes hwn, ac yn gofyn i'r Aelodau amlygu camdriniaeth ar bob cyfle.
Diolch i'r Aelodau am eu diddordeb parhaus yn yr agenda hon, ac rwy'n annog cyd-Aelodau i ddod i'r sesiwn galw heibio. Bydd Aelodau'n cael gwybod am y dyddiad cyn gynted ag y bydd yn cael ei gadarnhau.