7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:29 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:29, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch yn fawr, Carolyn. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod â diddordeb ynddo ers amser maith ac rwy'n cydnabod eich diddordeb chi ynddo hefyd. Bydd yn rhaid i hyn fod yn rhan o'r adolygiad, oherwydd yn sicr mae angen cyflwyno afancod, mae'n debyg, mewn rhai afonydd. Ond bydd yna rai eraill, lle nad oes angen eu cyflwyno, ac mae angen i ni ddeall sut olwg sydd ar yr ecosystem nawr. Felly, dyma un o'r problemau mawr o ymyrryd ag ecosystemau, onid e? Dydyn ni ddim yn gwybod sut beth yw ecwilibriwm ar gyfer llawer o'n llefydd a dydyn ni ddim wir yn deall beth fydd yn digwydd. Felly, mae'n ddiddorol gweld a cheisio rheoli rhywfaint ar sut rydyn ni'n cyflwyno'r rhaglenni hyn.

Felly, mae'r rhaglen barcud coch, rwyf wedi sôn amdano o'r blaen, wedi bod yn llwyddiant hollol ddi-ddiwedd yng Nghymru. Pan o'n i'n tyfu, doedd dim barcutiaid coch yng Nghymru a nawr rydych chi’n eu gweld nhw ym mhobman, ac onid ydy hynny’n wych? Ond, roedd llawer o bryder pan gawson nhw eu cyflwyno gyntaf bod eu hysglyfaeth naturiol wedi mynd ac y bydden nhw'n mynd ag ŵyn ac ati. Nid yw hynny wedi profi'n wir. Mae'r un peth yn digwydd gydag afancod; mae pobl yn poeni'n fawr am y peth. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei ddeall yw beth mae’r cwrs dŵr penodol hwnnw ei angen i’w gael yn ôl i statws cadwraeth da a beth fydd yr afancod yn ei gyfrannu neu ddim yn ei gyfrannu at hynny. Ac rydyn ni'n gwybod nawr mai ail-naturioli afonydd yw un o'r pethau mwyaf y gallwn ni ei wneud.

Agorais y prosiect Four Rivers for LIFE i lawr yn sir Gaerfyrddin—un ohonynt yn etholaeth y Llywydd, mewn gwirionedd—a'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'r prosiect hwnnw yw ail-greu pedair afon i lawr yn y gorllewin. Beth rwy'n ei olygu gyda hynny yw bod bodau dynol, dros lawer o flynyddoedd, wedi sythu'r afonydd a gosod ategion ar eu glannau a gwneud iddynt lifo'n gyflymach ac nid yw hynny'n ffafriol iawn i fywyd gwyllt, ond mae hefyd yn achosi llifogydd a phob math o broblemau eraill. Felly, yn y bôn, rydyn ni'n rhoi'r ystum yn ôl i'r Cleddau ac amryw o afonydd eraill. Mae'n ddigon posib y bydd afancod yn ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw, ond mewn amgylchedd lle mae'r afon wedi'i hamgáu ac yn rhedeg yn gyflym, yn sicr ni fyddant yn gwneud hynny. Felly, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn cael y cynllun cywir yn y lle iawn gyda'r ddealltwriaeth gywir ohono.

Bydd ariannu pethau fel y prosiect Four Rivers for LIFE—sef y prosiect olaf a ariennir gan Ewrop a fydd yn digwydd yng Nghymru, yr oeddwn i ychydig yn dorcalonnus amdano, fe wnaf i gyfaddef— yn rhannol, yn bwysig iawn, oherwydd byddwn yn cael y data o hynny i ddeall beth sydd ei angen ar yr ecosystem honno mewn gwirionedd er mwyn mynd yn ôl i ecwilibriwm. Rwy'n gwbl sicr y bydd hynny'n cynnwys afancod ac anifeiliaid eraill o'r fath sydd wedi diflannu o Gymru.