Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 11 Ionawr 2023.
Fel y gwyddoch chi, dydy'r problemau a brofwyd gan rai o fy etholwyr i efo mesurau arbed ynni o dan gynllun Arbed 2 dal heb gael eu datrys. Dwi yn ddiolchgar bod eich swyddogion chi'n delio efo achosion yn ymwneud â dau gontractwr penodol, ac mi fyddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallaf ddisgwyl diweddariad am hyn.
Wrth inni edrych at gynlluniau i'r dyfodol, mae'n ofnadwy o bwysig, onid ydy, fod sicrwydd ansawdd o ran y gwaith sy'n cael ei wneud yn cael ei ddiogelu. Un ffordd o wneud hynny fyddai creu gweithlu sgilgar yn lleol, a dyna ydy un nod tu ôl i fenter newydd sbon Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, sef canolfan datgarboneiddio newydd, arloesol y bûm i yn ymweld â hi yn ddiweddar. Dyma'r ganolfan gyntaf o'i fath yng Nghymru, ac, yn wir, ym Mhrydain, sy'n dwyn llawer o bartneriaid ynghyd o dan arweiniad cwmni tai Adra, ar safle ffatri a oedd wedi cau rhai blynyddoedd yn ôl, sef Northwood Hygiene.
Dwi yn gyffrous iawn am y prosiect yma a'r gwaith pwysig y gall gael ei gyflawni yno i daclo tlodi ynni a newid hinsawdd yn ogystal â chreu gweithlu sgilgar a chadwyni cyflenwi lleol ar gyfer yr agenda ddatgarboneiddio. Felly, hoffwn i, ar ran y partneriaid—partneriaid Tŷ Gwyrddfai—estyn gwahoddiad cynnes i chi ymweld â'r ganolfan, ac mi fyddai yna groeso mawr ichi yno.