1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2023.
5. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella effeithlonrwydd ynni'r stoc dai yn Arfon? OQ58899
Diolch, Siân Gwenllian. Mae nifer o raglenni wedi'u cynllunio i helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ledled Cymru, gan gynnwys yn Arfon. Mae'r rhain yn cynnwys y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a rhaglen Cartrefi Clyd.
Fel y gwyddoch chi, dydy'r problemau a brofwyd gan rai o fy etholwyr i efo mesurau arbed ynni o dan gynllun Arbed 2 dal heb gael eu datrys. Dwi yn ddiolchgar bod eich swyddogion chi'n delio efo achosion yn ymwneud â dau gontractwr penodol, ac mi fyddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallaf ddisgwyl diweddariad am hyn.
Wrth inni edrych at gynlluniau i'r dyfodol, mae'n ofnadwy o bwysig, onid ydy, fod sicrwydd ansawdd o ran y gwaith sy'n cael ei wneud yn cael ei ddiogelu. Un ffordd o wneud hynny fyddai creu gweithlu sgilgar yn lleol, a dyna ydy un nod tu ôl i fenter newydd sbon Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, sef canolfan datgarboneiddio newydd, arloesol y bûm i yn ymweld â hi yn ddiweddar. Dyma'r ganolfan gyntaf o'i fath yng Nghymru, ac, yn wir, ym Mhrydain, sy'n dwyn llawer o bartneriaid ynghyd o dan arweiniad cwmni tai Adra, ar safle ffatri a oedd wedi cau rhai blynyddoedd yn ôl, sef Northwood Hygiene.
Dwi yn gyffrous iawn am y prosiect yma a'r gwaith pwysig y gall gael ei gyflawni yno i daclo tlodi ynni a newid hinsawdd yn ogystal â chreu gweithlu sgilgar a chadwyni cyflenwi lleol ar gyfer yr agenda ddatgarboneiddio. Felly, hoffwn i, ar ran y partneriaid—partneriaid Tŷ Gwyrddfai—estyn gwahoddiad cynnes i chi ymweld â'r ganolfan, ac mi fyddai yna groeso mawr ichi yno.
Diolch, Siân. Rwy'n awyddus iawn i ymweld, a gobeithio y byddwch chi'n fy ngwahodd yn ffurfiol ac y gallaf wneud hynny'n fuan iawn. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae'r hyb datgarboneiddio yn gweithio. Fe wnaethoch chi nodi hanes y ffatri a gaeodd ac ati yn y fan honno. Roeddem yn falch iawn o allu rhoi gwerth £239,000 o grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi i alluogi'r broses o drosglwyddo i'r hyb—yn falch iawn o fod wedi gwneud hynny.
Rydym yn gwybod bod contractwr mewnol Adra yn mynd i ôl-osod cartrefi cymdeithasol sy'n eiddo i Adra a bydd ganddo ei ofod ei hun yn yr hyb. Fel y dywedwch yn gywir, rydym yn gobeithio y bydd yr holl raglenni rydym yn eu cefnogi—y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglenni hyn—yn golygu y byddwn yn rhoi digon o sgiliau i'r gweithlu i gynhyrchu'r gweithlu medrus roeddech chi'n siarad amdano nawr—ac mae gwir angen inni wneud hynny—ac y byddwn yn gallu nodi beth yw'r sgiliau a lle mae prinder, er mwyn imi allu gweithio gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Addysg a fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr economi i wneud yn siŵr fod ein colegau addysg bellach yn darparu'r math cywir o ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr y dyfodol ym maes ôl-osod, ac yn dysgu'r gwersi sydd mor angenrheidiol i sicrhau nad ydym yn cael y problemau a nodwyd gennych ac a gawsom gyda chynlluniau blaenorol, nad oedd bob amser yn gwneud yr hyn roeddent yn ei ddweud, ac nad oedd gwarantau ar gyfer y gwaith ac yn y blaen yn dod gyda hwy, felly rydym yn sicr wedi dysgu'r gwersi hynny. Nid ydym eisiau bod yn y sefyllfa honno yn y dyfodol. Felly, byddwn wrth fy modd yn dod i ymweld. Rwy'n credu ei fod yn gynllun enghreifftiol da iawn o'i fath, a dyma'r union ffordd yr awn ati i gyflwyno'r pethau iawn, y dechnoleg gywir ar gyfer y cartref cywir, ar draws Cymru, yn hytrach na'r un ateb i bawb sydd wedi arwain at y problemau yn eich etholaeth chi ac un Huw Irranca ac eraill, gyda'r diflastod sy'n deillio o hynny i'r perchnogion tai, ac rydym yn sicr yn awyddus i osgoi hynny yn y dyfodol.
Wrth ymateb fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni i'ch datganiad ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru ar 8 Tachwedd, cyfeiriais at argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y rhaglen Cartrefi Clyd yn ymgorffori dull adeiladwaith a 'gwaethaf yn gyntaf' o fynd ati i ôl-osod, yn ogystal â thargedu'r aelwydydd tlotaf a'r cartrefi lleiaf effeithlon, a gofynnais sut y byddwch yn sicrhau bod y rhaglen yn ymgorffori hyn. Daeth eich ateb i'r casgliad
'rydym ni'n ystyried trwy'r amser a yw hi'n well helpu mwy o bobl i wneud un peth nag yw hi i helpu llawer iawn llai o bobl i wneud pob dim, ac mae gennyf i ofn mai dyna un enghraifft o lawer o frwydro i gael y cydbwysedd yn iawn.'
Diolch am gytuno wedyn i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar hyn, ac i fynychu ein cyfarfod nesaf ar 13 Chwefror. Ond yn y cyfamser, sut rydych chi'n ymateb i'r pryder a godwyd gan swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ym mis Tachwedd, fod yna lefelau uchel o stoc nad yw'n cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru yng Ngwynedd?
Fe fyddwn i'n ymateb gyda rhywfaint o syndod, Mark, gan fod pob awdurdod wedi cyrraedd y safon ansawdd tai Cymru, sef EPC D, ar wahân i'r hyn a elwir yn 'fethiannau derbyniol'. Felly, os oes gennych chi fanylion pam ei fod yn pryderu nad yw'r stoc yn cyrraedd y safon, byddwn yn sicr yn awyddus i'w gweld. Mae ei gyngor ei hun wedi cyflwyno ffurflenni i ni sy'n dweud eu bod yn fodlon eu bod wedi cyflwyno safon ansawdd tai Cymru, felly, byddwn yn wirioneddol awyddus i weld yr hyn y cyfeirir ato yn y fan honno. Felly, hoffwn ddeall hynny.
Rydym yn y broses o drafod iteriad nesaf safon ansawdd tai Cymru gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau sy'n dal stoc dai ledled Cymru ac i ba lefel y disgwyliwn i gartrefi gael eu hôl-osod unwaith eto. Felly, rydym yn mynd i'w codi o'r EPC D sydd gennym ar hyn o bryd, ac os caf eich atgoffa y dywedwyd wrthym na allem ei wneud o fewn yr amser, ond rydym wedi llwyddo i'w wneud mewn gwirionedd. Rydym mewn trafodaethau datblygedig ynglŷn â lle fydd y cam nesaf—EPC B, A—i ba safon y gallwn godi cartrefi iddi ac am faint o arian, a dros ba gyfnod o amser. Felly, bydd yn bwysig iawn deall unrhyw anawsterau yn yr iteriad blaenorol, a byddwn yn awyddus iawn i weld y dystiolaeth a roddwyd i chi, fel y gallwn edrych arni. Ond rwy'n eich sicrhau mai ein safon aur yw gwneud yn siŵr fod pob cartref y gellir eu codi i safon ansawdd tai Cymru yn cyrraedd y safon honno, ac mae ymchwiliad trylwyr ar y gweill i weld pam na allai unrhyw gartref gyrraedd y safon honno, a bod cyn lleied â phosibl o fethiannau derbyniol a'n bod yn deall y rheswm amdanynt, yn hytrach na pheidio â gwneud dim i'r eiddo y credwn na allai gyrraedd y safon yn llawn. Felly, dyna'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.