Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch, Darren Millar. Rwyf wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ym mhob rhan o Gymru. Fel y gwelwyd yn ein hadroddiad cynnydd ar ymaddasu i newid hinsawdd, a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr, ar draws Llywodraeth Cymru rydym yn parhau i ddatblygu tystiolaeth a pholisi i fynd i’r afael â’r risgiau newydd i’n hiechyd, ein cymunedau, ein seilwaith a’n hamgylchedd naturiol.