Pont y Borth

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:10, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, nid yw tref Porthaethwy wedi bod ar gau o gwbl, a'r hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn yw bod y data, yn hytrach na'r pryderon a'r honiadau, wedi dangos lefel o weithgaredd sy'n dal i fod yn sylweddol drwy brosiect Patrwm gan ddefnyddio rhwydwaith ardal eang cyrhaeddiad hir y buom yn falch o'i chefnogi. Felly, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig rhoi ffeithiau ochr yn ochr â phryderon. Nodaf fod yr Aelod Seneddol y soniodd amdano wedi bod yn ddiwyd yn hyrwyddo'r pryderon. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r data'n adlewyrchu hynny'n llawn, ac mae natur masnachu, a phobl yn aros yn hirach ynghanol y dref mewn gwirionedd, wedi bod yn eithaf trawiadol.

Ond fe gafwyd effaith, wrth gwrs, nid ydym yn gwadu hynny, ac mae mesurau lliniaru wedi'u rhoi ar waith, gan gynnwys parcio am ddim, a fydd yn parhau yn nhref Porthaethwy a'r ddau safle parcio a rhannu drwy gydol mis Ionawr. Hefyd, i gynorthwyo gyda cholli gwasanaethau bws ar yr ynys, mae'r cyngor wedi darparu mannau aros ychwanegol yn nes at bont Menai ei hun, a bu hynny'n llwyddiant. Roeddwn yn falch fod Ynys Môn wedi gwneud hynny. Nid wyf yn credu bod Gwynedd wedi cyflawni'r lefel honno o weithgaredd ar eu hochr hwy o'r bont eto, ac rwy'n credu y dylid eu hannog i wneud hynny. Ac mae peth newid ymddygiad eisoes wedi dechrau digwydd gyda mwy o bobl yn cerdded ar draws y bont ac yn mynd ymhellach oherwydd ei bod wedi cau. Ond wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor i weld beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod yr ardal yn cael ei hyrwyddo, a'n bod yn gallu adfer hyder yn yr ardal cyn gynted â phosibl.