Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r argyfwng ynni—sydd wedi cael ei waethygu, wrth gwrs, gan y rhyfel yn Wcráin—wedi pwysleisio’r angen yng Nghymru i fod yn llawer mwy gwydn o ran cynhyrchu ein hynni ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynhyrchu 70 y cant o drydan Cymru drwy ddulliau adnewyddol erbyn 2030, ac dwi'n croesawu hynny’n fawr iawn, a'r pwyslais a roddir ar berchnogaeth leol fel rhan o hyn, ac mae gan canolbarth a gorllewin Cymru botensial anhygoel i gyfrannu at gyrraedd y targed hwn. Fodd bynnag, fel sydd wedi cael ei nodi mewn adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cymreig, mae capasiti'r grid cenedlaethol yng Nghymru—a dwi'n dyfynnu, 'wedi'i gyfyngu'n sylweddol'. Mae hyn yn rhwystredig iawn, wrth gwrs. Er enghraifft, mae’n rhwystr i ffermwyr yn ardal yr Elenydd i symud ymlaen gyda chynlluniau datgarboneiddio, a pheryglu datblygiadau mwy sylweddol yn y môr Celtaidd. Felly, pa drafodaethau ŷch chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wella capasiti’r grid fel y gall cymunedau a busnesau yng Nghymru symud ymlaen gyda'u prosiectau ynni adnewyddol?