Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 11 Ionawr 2023.
Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud yno, felly byddai'n wych pe baech yn ymuno â ni nos Fawrth, oherwydd mae Cefin a minnau, Jane Dodds a Joyce Watson yn cynnal derbyniad nos Fawrth yma yn y Senedd o'r enw 'Derbyniad Clwstwr Ynni'r Dyfodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau', i ganolbwyntio ar ynni gwynt arnofiol ar y môr a'r cyfleoedd sydd ar gael i ni yn sir Benfro, yn benodol yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau.
Wrth gytuno â'r hyn rydych chi wedi'i ddweud hyd yma, ac o ystyried bod angen seilwaith ychwanegol arnom, hoffwn wybod pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda CNC ac awdurdodau lleol ynglŷn â gwaith cynllunio ar gyfer y seilwaith hwn ar y tir, a bod ganddynt yr arian ar gael, yr adnoddau ar gael, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwneud mewn modd amserol. Diolch.