Pont y Borth

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:07, 11 Ionawr 2023

Diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig, wrth gwrs, i gadw at yr amserlen yna. Mi allwn ni i gyd gytuno, gobeithio, fod profiad y misoedd diwethaf wedi profi mor fregus ydy'r isadeiledd o ran croesiadau y Fenai. Mae cau Pont y Borth a'r tagfeydd wedyn ar y Britannia wedi creu anghyfleustra mawr ac wedi effeithio ar fusnes yn drwm iawn, nid yn unig yn ardal y Fenai ond ar draws yr ynys. Ac mi wnaf i dynnu sylw'r Dirprwy Weinidog at y ffaith bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi yn y dyddiau diwethaf yn gofyn am ragor o help i fusnes—rhywbeth dwi wedi ei alw amdano fo, a dwi'n hapus iawn i'w hategu eto. Ond, yn wyneb mor fregus ydy'r croesiad, mae'n amlwg bod rhaid adeiladu croesiad mwy gwydn. Yr ateb ydy deuoli croesiad Britannia neu godi trydedd pont. Fe gytunwyd i wneud hynny yn 2016, a dwi'n sylweddoli wrth gwrs bod eisiau gwneud yn siŵr o'r angen am ddatblygiadau ffyrdd newydd cyn bwrw ymlaen, ond mae'r angen yna wedi cael ei brofi rŵan. Gaf i ofyn i'r Gweinidog i wneud penderfyniad buan i fwrw ymlaen er mwyn sicrhau'r gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol?