Lefelau Ffosffad

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffosffad yn afonydd Cymru? OQ58928

Photo of Julie James Julie James Labour 2:22, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Ie. Diolch, Ken. Ar 9 Chwefror, bydd y Prif Weinidog yn ailymgynnull uwchgynhadledd o bartneriaid allweddol i fynd i'r afael â lefelau gormodol o ffosffadau yn afonydd Cymru, er mwyn trafod y cynnydd presennol a sefydlu'r camau nesaf. Byddaf yn nodi canlyniadau'r drafodaeth honno, ynghyd â chynllun gweithredu, mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddir yn fuan ar ôl yr uwchgynhadledd.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae'n dda gwybod hynny. Fe gyfarfûm â busnesau bach yn y diwydiant adeiladu tai yn ddiweddar, ac roeddent yn bryderus ynglŷn â'r mater hwn. A fydd y diwydiant tai yn bresennol yn y cyfarfod ar 9 Chwefror, ac a fyddwch chi'n gallu rhoi sicrwydd fod eu pryderon wedi cael sylw?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:23, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Gallaf, yn bendant. Fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Huw Irranca-Davies yn gynharach yn y sesiwn hon. Rydym wedi gofyn i bob sector edrych i weld beth y gallant ei gynnig i helpu i ddatrys eu rhan hwy o'r broblem. Felly, ar gyfer adeiladu tai, rydym yn gwybod bod systemau draenio dŵr wyneb, systemau draenio cynaliadwy, SDCau, yn rhan o'r ateb; bydd yna atebion eraill. Rydym wedi gofyn i bob sector ddod yn ôl atom, ac rydym wedi bod yn gweithio'r holl ffordd drwodd. Nid un digwyddiad ar ei ben ei hun ym mis Gorffennaf a digwyddiad arall ym mis Chwefror yw hyn. Cawsom gyfres gyfan o gyfarfodydd, o dan gadeiryddiaeth swyddogion, o dan gadeiryddiaeth CNC. Mae ystod gyfan o bethau wedi bod yn digwydd. Ond gofynnwyd i bob sector edrych ar eu meysydd eu hunain i weld beth y gallant ei wneud. 

Yn sicr, mae adeiladwyr y tai wedi bod yn rhan o hynny. Maent yn rhan o'r broblem. Mae angen iddynt fod yn rhan o'r ateb. Byddwn yn dweud hynny am ba sector bynnag y byddech chi'n gofyn. Felly, yn hytrach na phawb yn dweud mai bai rhywun arall yw hyn, ceisiwch roi eich tŷ eich hun mewn trefn a chynnig atebion ymarferol, cynaliadwy y gallwn helpu i'w gweithredu a'u hariannu. Yna, gyda'n gilydd, gallwn wneud yn siŵr fod ein hafonydd yn dychwelyd i'r cyflwr y byddem i gyd yn hoffi ei weld. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:24, 11 Ionawr 2023

Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.