Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 11 Ionawr 2023.
I gefnogi byrddau iechyd yn ystod yr amser hynod brysur hwn, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ffurf fframwaith opsiynau lleol diwygiedig, sy'n rhoi hyblygrwydd a chymorth iddynt ymateb i'r risgiau lluosog a wynebir ar hyn o bryd. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr clinigol i'w hannog i beidio â derbyn pobl i'r ysbyty oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, ac i helpu cleifion sy'n ffit yn feddygol i ddychwelyd adref, neu i le diogel arall, cyn gynted ag y gallant. Bydd hyn yn creu capasiti mawr ei angen yn ein hysbytai a'r gwasanaeth ambiwlans, er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu gofal i bobl â salwch ac anafiadau difrifol.
Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth o wasanaethau integredig, di-dor, gyda ffocws ar driniaeth yn y gymuned, a gwn fod Peter Fox wedi tynnu sylw at hynny yn ei gyfraniad. Ein nod bob amser yw sicrhau na fydd pobl yn mynd i'r ysbyty ac eithrio pan nad oes modd darparu triniaeth ddiogel mewn mannau eraill, a lleihau'r amser y mae pobl yn ei dreulio yn yr ysbyty pan fydd yn rhaid iddynt fynd. Ac mae'r weledigaeth yn fwy perthnasol heddiw nag erioed. Rydym wedi parhau i adeiladu ar sylfeini 'Cymru Iachach', gan greu amgylchedd lle mae ein partneriaid a'n gweithlu wedi cefnogi ac wedi mynd ati i drawsnewid gwasanaethau'n gyflym. Mae ein rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, chwe nod ar gyfer gofal brys ac argyfwng, a'r gronfa integreiddio rhanbarthol oll yn gweithio tuag at y weledigaeth hon yng nghyd-destun y pwysau presennol.
Ym mis Rhagfyr, lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y fframwaith ar gyfer gwella llif cleifion drwy ysbytai, sy'n gosod disgwyliad clir i fyrddau iechyd a byrddau partneriaeth rhanbarthol sicrhau mai cyhyd ag y bo angen iddynt fod yn unig y bydd pobl yn yr ysbyty.
Rydym wedi sicrhau dros 500 o welyau cymunedol ychwanegol ar gyfer gofal cam-i-lawr, a byddwn yn parhau i weithio i geisio cynyddu'r capasiti hwn. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn opsiynau amgen yn lle mynd i adrannau brys, gan gynnwys canolfannau gofal sylfaenol brys a gwasanaethau ar yr un diwrnod. Mae'r rhaglen barhaus o ddiwygio contractau sydd ar y gweill ar draws gofal sylfaenol yn parhau i ganolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau a chontractau i gefnogi gwell mynediad i gleifion a chynaliadwyedd gwasanaethau yn fwy hirdymor. Mae camau ar y gweill ar lefel leol a chenedlaethol i gyflymu gweithio mewn clwstwr, gan gynnwys ar draws y proffesiynau gofal sylfaenol a chymunedol, yn ogystal â gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill. Mae'r trawsnewid, o'i ddarparu ar raddfa fwy, a'r dull cydweithredol o gynllunio a darparu gwasanaethau yn ganolog i'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a'n nod ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal integredig sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant.
Mae cydweithredfeydd proffesiynol o feddygon teulu, fferyllwyr, optometryddion, deintyddion, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a nyrsys yn ymsefydlu ledled Cymru i wella'r modd y caiff gwasanaethau amlbroffesiynol eu darparu yn y gymuned. Mae cryfhau ansawdd y swyddi a galluogi gweithwyr proffesiynol i weithio ar frig eu trwydded yn ffocws ar gyfer y maes hwn, ac yn un y byddwn yn ei weld yn dod at ei gilydd fel rhan o'r gwaith o gynllunio'r gweithlu.
Darparwyd cronfeydd sylweddol drwy fyrddau partneriaethau rhanbarthol i gynorthwyo partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i weithio'n agosach gyda'i gilydd a datblygu modelau cenedlaethol o ofal integredig a fydd yn cynnig gwasanaethau ataliol, di-dor i bobl yn y gymuned. Nawr, mae'r adnoddau hyn yn cynnwys y gronfa integreiddio rhanbarthol bum mlynedd, sy'n darparu £144 miliwn y flwyddyn i gefnogi trawsnewid, a'r gronfa integreiddio ac ailgydbwyso cyfalaf gwerth £50 miliwn sydd newydd ei sefydlu, sy'n cefnogi'n uniongyrchol ein huchelgais i sefydlu 50 o hybiau iechyd a gofal integredig ledled Cymru. Ac mae tri o'r modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol wedi'u hanelu'n benodol at greu capasiti cymunedol. Rydym wedi cyflwyno gwasanaethau newydd gartref o'r ysbyty, wedi ei gwneud hi'n bosibl darparu gofal cymhleth yn nes at adref, rydym wedi buddsoddi mewn presgripsiynu cymdeithasol, ac wedi gwneud cynnydd gyda gwasanaethau cymorth teleofal. Mae llawer o'r pethau y soniodd Peter Fox amdanynt yn ei gyflwyniad i'r ddadl yn bethau rydym yn eu gwneud ac rydym yn awyddus i wneud mwy ohonynt.
Mae clystyrau a byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gyrru'r agenda hon yn ei blaen, ond gwyddom fod angen inni fynd ymhellach ac yn gyflymach gyda'r diwygiadau hyn. Yn 2023, rydym am wneud cynnydd tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ledled Cymru. Nid sefydliad newydd ydyw, ond yn hytrach agenda uchelgeisiol i lywio ac integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddwfn a'u cyfeirio i adeiladu gwe leol gryfach o gefnogaeth. Yn ei gyfraniad, rwy'n credu bod Peter Fox wedi disgrifio'r math o gefnogaeth gymunedol y gellir ei hadeiladu ar lefel leol, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn dyheu am ei wneud.
Mae fframwaith cynllunio'r GIG ar gyfer 2023-24 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG ddatblygu perthynas agosach gyda llywodraeth leol i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Wrth wneud dyraniadau ariannol i'r byrddau iechyd lleol, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn glir ynghylch y gofyniad iddynt weithio'n llawer agosach gydag awdurdodau lleol i ddarparu ymateb gofal cymunedol integredig. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwaith integredig hwn yn digwydd. Ac rydym yn gweld cyfleoedd go iawn yma. Mae gofal cymdeithasol yn gwybod wrth iddynt gael eu derbyn am 26 y cant o'r cleifion cymhleth a fydd yn aros i gael eu rhyddhau, felly rydym eisiau datblygu model o gymorth graddedig, gan gynnwys harneisio'r trydydd sector ac ymdrech wirfoddol—oherwydd credwn fod rôl glir i'r trydydd sector—i alluogi pobl i gynnal lefel o annibyniaeth ac ansawdd bywyd ac i gryfhau gwasanaethau lleol er mwyn osgoi gorfod derbyn pobl i'r ysbyty. Felly, rydym am wneud popeth sy'n bosibl i fuddsoddi yn y trydydd sector a gwirfoddolwyr er mwyn cadw pobl gartref a'u helpu gartref, a datblygu'r gwasanaethau ysbyty yn y cartref y ceir rhai enghreifftiau ohonynt yma yng Nghymru wrth gwrs.
Rydym hefyd eisiau cynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned am nad oes angen gofal hirdymor pellach ar 70 y cant o'r bobl sy'n cael eu hailalluogi pan fyddant yn gadael yr ysbyty, neu bydd galw am becyn gofal llawer llai na phe baent heb dderbyn gwasanaeth ailalluogi. Mae pobl yn nodi canlyniadau ansawdd bywyd gwell ar ôl ailalluogi ac yn byw'n annibynnol am gyfnod hirach yn eu cartrefi eu hunain.
Ac wrth gwrs, rydym angen pob cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi pobl a gweithwyr gofal, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei yrru'n gryf iawn. Mae camau breision wedi'u gwneud drwy ddefnyddio teleofal, ac ochr yn ochr â cheisio darparu mwy o dâl a gyrfa ddeniadol i weithwyr gofal, mae'n fwy allweddol nag erioed mewn marchnad lafur dynn iawn ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y defnydd o dechnoleg yn y gymuned.
Byddwn yn parhau i weithio ar y cyfleoedd hyn a byddwn yn darparu diweddariadau pellach, ond rydym yn disgwyl y bydd gennym we gref o gefnogaeth ar gael yn lleol cyn y gaeaf nesaf, a dros y tymor canolig, byddwn yn gweld gwasanaeth gofal cymunedol integredig yn dod i'r amlwg yng Nghymru. Felly, hoffwn ddod i ben drwy ddiolch i Peter Fox am gyflwyno'r ddadl hon mewn ffordd mor adeiladol, ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl awgrymiadau y mae wedi'u gwneud. Ac wrth gwrs, byddwn yn edrych yn ofalus arnynt—mae llawer ohonynt yn bethau sy'n agos iawn at ein calonnau ni ein hunain. Felly, diolch yn fawr iawn.