Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 11 Ionawr 2023.
Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw, ac rwy'n croesawu'r ffordd adeiladol y mae Peter Fox wedi cyflwyno'r ddadl hon a'r cynigion y mae wedi'u gwneud. Rydym i gyd yn ymwybodol fod ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu pwysau eithriadol y gaeaf hwn, ac fel y dywedodd Peter, dyma'r sefyllfa ar draws y DU gyfan.
Yn ogystal â pharhau i ymdrin â chleifion COVID-19, gyda mwy na 500 ohonynt mewn ysbytai ledled Cymru ar hyn o bryd, rydym yn gweld niferoedd sylweddol o feirysau anadlol eraill, a chynnydd yn nifer y bobl sydd â salwch difrifol yn dod i gael diagnosis a thriniaeth, ac rwy'n gwybod ein bod yn parhau i ofyn llawer gan ein staff iechyd a gofal. Maent wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig, ac mae'r pwysau presennol yn golygu nad ydynt bob amser yn gallu darparu'r lefel o ofal yr hoffent ei wneud. Mae ein gweithlu hefyd yn parhau i gael ei effeithio gan absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig â COVID a gofynion hunanynysu.
Mae ein gwasanaethau ambiwlans ac 111 yn gweld lefelau digynsail o alw, ac rwy'n credu ei bod hi'n debygol eich bod chi wedi clywed yr enghreifftiau hyn o'r blaen, ond maent yn werth eu hailadrodd. Ar un diwrnod yn unig, 27 Rhagfyr, gwnaed 8,500 o alwadau i'r gwasanaeth ffôn 111—y nifer uchaf erioed o alwadau mewn diwrnod. Derbyniodd y gwasanaeth ambiwlans 210 o alwadau lle roedd bywyd yn yn y fantol. Cafodd dros 550 o bobl eu derbyn i'r ysbyty; roedd 551 o gleifion COVID mewn gwelyau ysbyty acíwt, sef dros 5 y cant o gyfanswm ein capasiti gwelyau, a chleifion ffliw oedd mewn dros 3 y cant o'r gwelyau; a phobl a oedd yn disgwyl cael eu rhyddhau oedd mewn 12 y cant o'r gwelyau.
Mae ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn profi lefelau tebyg o gynnydd yn y galw. Roedd cyfanswm y cysylltiadau â meddygon teulu yr wythnos diwethaf dros 12 y cant yn uwch na'r adeg hon y llynedd. Ac ynghyd â'r niferoedd cynyddol o gleifion sydd eisiau gofal meddygol, un o'n heriau mwyaf yw sicrhau bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty cyn gynted ag y mae'n ddiogel iddynt wneud hynny. Ac mae pwysau yn y system gofal cymdeithasol, fel sydd wedi'i ddarlunio'n barod, yn gwneud hyn yn anodd iawn ar hyn o bryd.
Mae cyni a'r pwysau dilynol ar gyllidebau wedi arwain at ostwng cyflogau'r gweithlu gofal cymdeithasol o'i gymharu â sectorau eraill, ac wedi gwaethygu heriau recriwtio. Rydym wedi cyhoeddi cyllid o £70 miliwn er mwyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd allu gweithredu'r codiad cyflog byw go iawn, ac rwy'n cydnabod bod Gareth Davies wedi croesawu'r cynnig hwn, ac rydym yn ymdrechu i wella telerau ac amodau cyflogaeth i'r sector, oherwydd nid y cyflog yn unig sydd dan sylw, ond y telerau a'r amodau hefyd, ac rydym yn sicr yn rhannu eich gweledigaeth chi, Peter, o gydraddoldeb rhwng staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ein poblogaeth yn heneiddio, ac mae hyn yn dyst, wrth gwrs, i effeithiolrwydd ein GIG dros flynyddoedd lawer. Mae'n wych fod cymaint o bobl yn byw cymaint yn hŷn, ond yn amlwg mae'n creu heriau yn ei sgil. Cleifion 55 oed a hŷn yw dros 90 y cant o'n dyddiau gwely i gleifion mewnol brys. Mae dros hanner yr holl ddyddiau gwely ar gyfer cleifion 75 oed a hŷn, ac rydym yn gwybod, i'r garfan hon, fod cael eu rhyddhau cyn gynted ag y maent yn ffit yn feddygol yn allweddol i'w hadferiad. Maent yn llai tebygol o gael haint gan eraill. Byddant yn cysgu'n well yn eu gwelyau eu hunain ac yn cael y gorffwys sydd ei angen arnynt, a byddant yn fwy hyderus i symud o gwmpas yn eu hamgylchfyd eu hunain, felly byddant yn magu eu cryfder yn gynt nag yn yr ysbyty. Felly, mae'n gwbl allweddol ein bod yn cael pobl allan o'r ysbyty cyn gynted ag y gallwn.