Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:31, 11 Ionawr 2023

Cwestiwn pwysig gan yr Aelod, os caf i ddweud. Dwi'n credu, yng nghyd-destun Pen-y-bont yn benodol, un o'r heriau yw bod dim digon o gynnydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r cyd-destun y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn. Ond rwy'n glir yn fy nhrafodaethau i gyda'r arweinyddiaeth bresennol eu bod nhw'n deall hynny a bod ymrwymiad i wneud cynnydd ar yr hyn sydd gyda nhw yn eu cynlluniau strategol. Mae hynny'n cynnwys pedwar hyb gofal plant newydd—mae dau eisoes wedi agor—a hefyd cynyddu'r nifer o lefydd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion meithrin, ynghyd â'r cynlluniau o ran Ysgol Bro Ogwr, Ysgol y Ferch o Sgêr ac edrych ar ehangu Ysgol Gyfun Llangynwyd hefyd. Felly, os digwyddiff hynny fel y mae'r cynllun yn dangos sydd angen digwydd, bydd cynnydd sylweddol yn niferoedd y llefydd plant cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu.

Ar y cwestiwn ehangach, rwy wedi bod yn glir gyda phob awdurdod rwy wedi siarad â nhw fy mod yn ddiolchgar am y lefel o uchelgais ym mhob cynllun. Mae pob un sir wedi derbyn yr her rŷn ni wedi'i gosod fel Llywodraeth—ac mae hyn am y tro cyntaf gyda llaw—ac wedi derbyn yr ystod o gynnydd sydd ei angen ym mhob sir. Ac os bydd pob cyngor yn perfformio i ganol yr hyn y maen nhw wedi darogan y byddan nhw, byddwn ni'n sicr yn llwyddo i gyrraedd y nod sydd gennym ni yn 'Cymraeg 2050'. Ond un peth yw cytuno ar beth y mae'r ddogfen yn ei ddweud; peth arall yw delifro ar hynny, ac mae angen sicrhau bod hynny'n digwydd. Ac er mai cynllun 10 mlynedd yw hyn, mae angen cynnydd ym mhob blwyddyn, nid jest dros y ddegawd.