Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 11 Ionawr 2023.
Wrth gwrs rwy'n croesawu'r datblygiadau ynglŷn â Phorthcawl ac Ysgol Bro Ogwr—fy hen ysgol gynradd i. Roedd yn bleser i fynd yn ôl i Fro Ogwr i weld sut oedden nhw'n darparu prydau ysgol am ddim. Roedd yr ystafelloedd yn teimlo lot yn llai nag oedden nhw pan oeddwn i'n ddisgybl fanna, ond dwi ddim yn gwybod beth mae hynny'n ei feddwl—efallai rwy wedi rhoi bach o bwysau ymlaen ers hynny.
Ond mae sôn bod hen safle Bro Ogwr yn mynd i gael ei droi i mewn i ysgol Saesneg. Mae hyn wrth gwrs yn achosi pryder i nifer o bobl, yn enwedig i'r rheini sy'n ymgyrchu am fwy o addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn gallu cadarnhau y bydd yn cysylltu â chyngor Pen-y-bont i sicrhau bod hen safle Bro Ogwr yn aros fel ysgol Gymraeg a ddim yn cael ei droi i mewn i ysgol Saesneg?