Addysg a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:34, 11 Ionawr 2023

Wel, rwy'n cael y cyfle i fynd i ysgolion cynradd ledled Cymru, fel y mae'r Aelod yn sôn, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn deimlad cyffredin i fi hefyd—bod yr ysgolion llawer yn llai—felly, dwi'n rhannu'r pryder hwnnw efallai gydag e hefyd.

Beth rwy'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau fy mod i'n mynnu bod cynnydd yn digwydd yn ôl beth y mae'r cynllun strategol yn ei ddweud. Bydd ganddyn nhw bartner yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw wrthym ni i wneud hynny, ond mae hefyd disgwyliad arnyn nhw eu bod yn cyflawni'r hyn sydd yn y cynllun, a dwi'n ffyddiog ar sail y sgwrs rwyf i wedi'i chael eu bod nhw'n bwriadu gwneud hynny.