Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fis Awst diwethaf, fe wnes i lansio comisiwn i ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg. Fe wnes i gymeradwyo hefyd gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg pob un o’r 22 awdurdod lleol, sy’n nodi sut mae’r awdurdodau lleol yn bwriadu gwella addysg cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.