Yr Hawl i Streicio

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:11, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw drwy drafod a chytuno. Ni chaiff ei wneud drwy ddeddfwriaeth ddisynnwyr a fydd yn gwneud niwed parhaol i gysylltiadau diwydiannol ledled y DU ac yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.