3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2023.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyfyngu ar yr hawl i streicio yn ei chael ar weithwyr yng Nghymru? TQ704
Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw drwy drafod a chytuno. Ni chaiff ei wneud drwy ddeddfwriaeth ddisynnwyr a fydd yn gwneud niwed parhaol i gysylltiadau diwydiannol ledled y DU ac yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Lywydd, rwyf am ddatgan diddordeb fel aelod undeb llafur balch o Unite the Union a Community. Gadewch inni fod yn glir yma; mae penderfyniad Torïaid y DU i gyflwyno Bil gyda'r nod o ddiswyddo gweithwyr allweddol yn sarhad ar ddemocratiaeth. Lywydd, bydd y ddeddfwriaeth Dorïaidd hon yn golygu, pan fydd gweithwyr yn pleidleisio'n ddemocrataidd i streicio, y gellir eu gorfodi i weithio, ac yna eu diswyddo os nad ydynt yn cydymffurfio. Dylem geisio gweithio gyda'n gweithwyr allweddol a'n cydweithwyr undebau llafur, nid ceisio diswyddo pobl weithgar. Gwnsler Cyffredinol, mae Cyngres yr Undebau Llafur yn dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn dangos bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn benderfynol o ymosod ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gyngres. Mae'r ddeddfwriaeth warthus hon wedi dangos yn union beth yw Ceidwadwyr y DU mewn gwirionedd—plaid sy'n gwrthwynebu hawliau gweithwyr yr ymladdwyd yn galed i'w hennill. Gwnsler Cyffredinol, a gaf fi ofyn ichi: beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'r Bil wedi ei gam-enwi'n wir. Mewn gwirionedd, 'Bil diswyddo'r nyrsys' ydyw, 'Bil diswyddo'r gweithiwr ambiwlans' ydyw, neu 'Fil diddymu'r hawl i streicio'. Mae'n dileu'r amddiffyniadau cysegredig i weithwyr ac undebau llafur a gafodd eu hymgorffori mewn deddfwriaeth ym 1906, deddfwriaeth a gyflwynwyd wedi achos Cwm Taf ym 1900, a gododd yn sgil anghydfod a ddigwyddodd yn fy etholaeth i ym Mhontypridd mewn gwirionedd. Arweiniodd at Ddeddf Anghydfodau Undebol 1906, a sefydlodd egwyddorion sylfaenol. Byddai'r hyn y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn ei wneud yn mynd â hawliau gweithwyr nôl i'r hyn oeddent 120 o flynyddoedd yn ôl.
Yr hyn y gallaf ei ddweud ar ran Llywodraeth Cymru yw bod yna ddiffyg ymgysylltiad llwyr wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y ddeddfwriaeth hon. Daeth yr hysbysiad cyntaf ddydd Iau diwethaf, ychydig wedi datganiad i'r wasg Llywodraeth y DU. Yr ohebiaeth gyntaf a gefais oedd cael fy nghopïo i mewn i lythyr at Brif Weinidog Cymru gan y Gweinidog Hollinrake ar 10 Ionawr. Ddoe oedd hynny. Nid dyma'r ffordd i ddatrys anghydfodau. Mae'r diffyg ymgysylltiad hwn yn gwbl annerbyniol. Mae'r ddeddfwriaeth yn gwbl ddiangen. Lle ceir materion brys sydd angen eu gweithredu, mae'r undebau llafur bob amser wedi eu gweithredu. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld yr eitemau y diwrnod o'r blaen am linell biced GMB yng Nghymru—ac rwy'n aelod o GMB—o weithwyr ambiwlans. Y foment y daeth neges fod yna alwad frys, fe adawsant y llinell biced yn syth; fe aethant ac fe wnaethant y gwaith penodol hwnnw. Mae hynny bob amser wedi digwydd. Mae'r ddeddfwriaeth yn ymosodiad sylfaenol ar ryddid, ac fel Llywodraeth Cymru, ni fyddwn yn rhoi unrhyw hygrededd na chefnogaeth iddi. Mae'r ddeddfwriaeth yn anymarferol hefyd yn fy marn i. Nid yw wedi gweithio mewn gwledydd eraill. Ni fydd yn gweithio yma. Ymgais ydyw i osgoi ymdrin â'r broblem go iawn yn y wlad hon, sef darparu cyllid priodol i weithwyr y sector cyhoeddus yn Lloegr ac i Lywodraethau datganoledig, er mwyn galluogi ein gweithwyr sector cyhoeddus i gael eu talu'n briodol. Yn fy marn i, mae'n weithred o anobaith gan Lywodraeth sydd wedi colli gafael ac wedi colli rheolaeth.
Gwnsler Cyffredinol, fel rhan o'ch asesiad, a ydych wedi ystyried y ffaith bod y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae Cyngres yr Undebau Llafur yn gefnogol iddo, wedi derbyn bod y lefelau gwasanaeth gofynnol yn ffordd gymesur o gydbwyso'r hawl i streicio â'r angen i ddiogelu'r cyhoedd yn ehangach? Yn ail, ddoe, yn ei datganiad llafar, dywedodd eich cyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, fod
'yr effaith ar allu'r Gwasanaeth o ganlyniad i weithredu diwydiannol diweddar...wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein systemau ni'.
A ydych yn cytuno gydag asesiad eich cyd-Weinidog? Os ydych, onid ydych chi hefyd felly yn cytuno y byddai gwarantu lefelau gwasanaeth gofynnol, nad ydynt yn cyfyngu ar hawliau gweithwyr i streicio, yn fuddiol i'r gweithwyr a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Mae eich dehongliad o gyfeiriadau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol at lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael ei gymryd allan o'u cyd-destun yn llwyr, gan ei fod yn cyfeirio at drefniadau gwirfoddol gydag undebau llafur, ac mae'r rheini wedi bodoli yn y Deyrnas Unedig erioed, ac yng Nghymru yn wir, lle maent yn angenrheidiol. Nid trefniant gwirfoddol yw hyn; dyma gyfyngiad statudol ar weithwyr a'r gallu i ymateb.
Wrth gwrs, mae'n iawn fod anghydfodau diwydiannol yn achosi aflonyddwch a phwysau. Mae'n amlwg mai bai Llywodraeth y DU yw tarfu a phwysau o'r fath oherwydd ei methiant llwyr i ymgysylltu'n briodol, a'i methiant llwyr i gadw'r addewidion a wnaeth yn ystod COVID—y byddai, ar ôl i ni ddod drwy bandemig COVID, yn parchu ac yn gwobrwyo ein gweithwyr sector cyhoeddus yn briodol.
Ar y pwynt olaf a wnaethoch—nad yw'n dileu hawliau—rwy'n siŵr nad ydych wedi darllen y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r Bil. Fe ddarllenaf yr adran ar effaith a diben y Bil: mae gweithiwr a enwir mewn hysbysiad gwaith ar gyfer diwrnod streic penodol ac sy'n derbyn copi o'r hysbysiad gwaith hwnnw gan y cyflogwr cyn y diwrnod streic hwnnw'n colli'r amddiffyniad rhag diswyddo. Bil 'diswyddo gweithwyr y sector cyhoeddus' yw hwn.
Heddiw, gyda Carolyn Thomas, cefais y pleser o gyd-noddi digwyddiad galw heibio gydag aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Fel y bydd y rhai a fynychodd y digwyddiad yn gwybod, roedd yr hyn a oedd ganddynt i'w ddweud am ddifaterwch y Post Brenhinol tuag at ei weithwyr yn frawychus: newid gwaith parhaol yn waith dros dro, toriadau cyflog, amodau dirywiol, ymgais hyd yn oed i ddileu tâl salwch statudol, sy'n gwbl anghyfreithlon, gyda llaw—'Amazon ar steroids', fel y dywedodd un aelod o'r undeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae streicio'n allweddol i amddiffyn ein gwasanaethau yn erbyn hyn. Mae'n allweddol i hawliau a phwerau bargeinio gweithwyr, ac mae'n warthus a dweud y gwir, fod y Torïaid, yn hytrach na mynd i'r afael â'r argyfwng economaidd systemig hwn, yn dewis ymosod ar weithwyr.
Mae'n amlwg i mi, fel y dylai fod i bawb yn y Siambr hon, nad yw hawliau gweithwyr yn ddiogel yn nwylo San Steffan. Ni all gweithwyr barhau i ymddiried a dibynnu ar ewyllys da na chyfansoddiad gwleidyddol San Steffan, ac fel y dywedodd un aelod o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wrthyf, efallai mai Cymru fydd y cadarnle olaf i waith teg dros y blynyddoedd nesaf. Pe bai'r Llywodraeth o ddifrif am ddiogelu hawl ddemocrataidd sylfaenol gweithwyr i streicio, byddai'r Llywodraeth yn cefnogi datganoli cyfraith cyflogaeth, fel y gallem sicrhau na fydd yr hawliau hynny dan fygythiad byth eto. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi gefnogi hynny?
Diolch am y sylwadau hynny. Maent yn sylwadau rwy'n cytuno â hwy, a gallaf ddweud, yn sicr, wrth inni edrych ar y Bil, wrth inni archwilio ac ystyried ei fanylion yn llawer mwy gofalus, y byddwn yn edrych ar bob cyfle i sicrhau nad yw'n effeithio ar y bartneriaeth gymdeithasol sydd gennym yng Nghymru, a bod yr amddiffyniadau sylfaenol i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yn rhai y byddwn yn glynu wrthynt a byddwn yn ymrwymo i'r safonau rydym eisoes wedi'u croesawu gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur. Nid wyf yn ymwybodol fod yna unrhyw gyflogwyr sydd eisiau gweld y ddeddfwriaeth hon. Mewn gwirionedd, mae'r holl wybodaeth a welaf gan gyflogwyr yn dangos eu bod yn ei hystyried nid yn unig yn ddiangen ac yn anymarferol, ond ei bod yn creu aflonyddwch pellach ac yn tynnu sylw oddi ar gydfargeinio da ac ymgysylltiad priodol ag undebau llafur.
Rwy'n gweld y ddeddfwriaeth hon, mewn rhai ffyrdd, fel un sydd â nifer o gymhellion. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU yn meddwl ei bod yn ymarferol. Credaf mai ymgais ydyw yn gyntaf i lychwino enw da—rywsut, maent yn meddwl y gallai hyn dorri cefnogaeth y cyhoedd i'r rhai sy'n rhan o'r anghydfodau hyn ar hyn o bryd, y bydd rywsut yn rhoi tir uwch iddynt yn hynny. Neu'n ail, y bydd yn annog pobl i beidio â rhoi cefnogaeth o'r fath. Rwy'n credu y bydd yn methu ym mhob un o'r rheini. Rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw oddi ar wir ddyletswydd y Llywodraeth, a gwir ddyletswydd y Llywodraeth yw ymgysylltu â'r undebau llafur hynny pan fydd gennych anghydfod o'r fath.
Rwy'n credu bod gennym gysylltiad uniongyrchol â'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud—cyswllt ariannol uniongyrchol â'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar lefel Llywodraeth y DU, ac mae hynny'n effeithio ar i ba raddau y gallwn ymgysylltu a'r pethau y gallwn eu gwneud. Ond rwy'n gwybod ymhlith fy holl gyd-Aelodau ac rwy'n gwybod ymhlith yr holl bobl y siaradaf â hwy, boed yn aelodau o blaid wleidyddol neu fel arall, fod cryn gefnogaeth a chydymdeimlad allan yno, yn ogystal â chydnabyddiaeth. Ac rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth oherwydd yr addewidion a wnaed yn ystod cyfnod COVID y byddem yn gwneud pethau'n wahanol. A dyma enghraifft o Lywodraeth Dorïaidd yn y DU sydd nid yn unig allan o gysylltiad, ond sy'n dychwelyd at ei hen ffyrdd. Ac a gaf fi wneud un sylw? Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol siomedig, ar adeg pan fo gennym ddeddfwriaeth fel hon, pan fo gennym y lefelau hyn o anghydfod, fod gennym Blaid Dorïaidd yng Nghymru sy'n fodlon ymateb fel pwdls i'r dictad a ddaw o 10 Stryd Downing, yn lle sefyll dros y sector cyhoeddus yng Nghymru, dros weithwyr Cymru a chydweithio â ni i gyflawni'r math hwnnw o newid.
Yn gyntaf oll, rwyf am ddatgan fy aelodaeth o Unite, yr undeb llafur. Credaf, fel y bydd eraill, fod hwn yn ymosodiad a arweinir gan ideoleg ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. Mae ganddynt hanes o wneud hyn, ac maent wedi cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth tra bod y Llywodraeth hon wedi bod mewn grym. Gadewch inni fod yn glir wrth gofio hynny. Maent yn mynd ychydig ymhellach nag y gwnaeth Thatcher pan geisiodd ddinistrio undeb y glowyr; mae'r criw hwn yn ceisio dinistrio holl undebau'r sector cyhoeddus. Efallai y gallem osod lefel diogelwch a gwasanaeth gofynnol cyfreithiol ar Lywodraeth y DU, oherwydd mae'r criw presennol yn beryglus o anghymwys. Dim ond plaid hesb a heb syniadau a allai feddwl mai ffordd dda o ddatrys prinder llafur a morâl isel yng ngwasanaethau cyhoeddus allweddol Prydain yw diswyddo gweithwyr sy'n streicio am well tâl ac amodau. Pwy maent yn meddwl fyddai'n cymryd lle'r gweithwyr hynny? Fe wnaethant greu argyfwng economaidd gyda Liz Truss—ni wn os ydych chi'n ei chofio hi. Fe chwalodd hi'r economi, a nawr maent yn ceisio chwalu hawl gweithwyr i streicio. Mae'n gwbl gywilyddus.
Rwy'n credu eich bod yn iawn i ddweud y bydd y cyhoedd yn gweld drwy hyn ac nad oes ganddynt y lefel o gefnogaeth y maent yn gobeithio ei ennill drwy symud y bai am eu methiant i reoli'r argyfwng economaidd a grëwyd ganddynt drwy daflu'r bai i gyd ar y bobl na all fforddio eu morgeisi mwyach o ganlyniad i'r hyn a wnaethant, pobl sy'n methu gwresogi eu cartref a phobl nad ydynt yn gallu bwydo eu hunain. Dyna mae'r gweithwyr hyn yn streicio amdano, a dyna pam eu bod wedi ymuno ag undeb, er mwyn i'w llais cyfunol allu cael ei glywed.
Diolch am y sylwadau hynny. Mae'n eironig, onid ydyw, fod Llywodraeth y DU o blaid y farchnad rydd, ond y farchnad rydd pan ddaw'n fater o gynyddu elw a chyflog cyfarwyddwyr yn unig. Pan fydd y farchnad rydd yn dweud nad ydym yn talu digon i'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus, ymateb Llywodraeth y DU yw ymyrryd â'r farchnad rydd honno, i'w thanseilio ac i osod cyfyngiadau deddfwriaethol ar allu pobl i wneud unrhyw beth yn ei gylch. A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r sylw a wnaethoch y dylem gael lefel gwasanaeth gofynnol, ac y dylid ei chymhwyso i Lywodraeth y DU mewn gwirionedd? Ac efallai mai dyna'r rheswm pam rwy'n croesawu'r ymrwymiad gan arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn cyflwyno gwaharddiad ar ail swyddi. Efallai y bydd hynny'n sicrhau bod ein ASau yn gweithio'n llwyr dros y pethau y cawsant eu hethol i'w gwneud.
Carolyn Thomas, i gloi.
Diolch. A gaf fi ddatgan hefyd fy mod yn aelod o Unite the Union, a gynt yn aelod o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu fel gweithiwr post?
Gwnsler Cyffredinol, ddwy flynedd yn ôl, roeddem yn sefyll ar garreg ein drysau'n clapio i'r gweithwyr, a nawr rydym yn gweld beth mae'r Torïaid yn ei feddwl go iawn, drwy gyflwyno Bil i'w diswyddo. Fel y dywedoch chi, caiff y Bil ei adnabod fel Bil 'diswyddo'r gweithwyr'. Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed lleisiau gweithwyr, oherwydd yn aml iawn, yr hyn a glywn yw gwirionedd dethol. Er mwyn cuddio'u dirmyg tuag at weithwyr allweddol, maent yn awgrymu bod rheolau'n bodoli mewn mannau eraill, heb gyfaddef bod gan Brydain rai o'r deddfau gwrth-undebau llafur mwyaf ymosodol yn Ewrop eisoes, gan ei gwneud yn anodd iawn i streicio. Rwyf am sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda'n gweithwyr allweddol, fel y cynrychiolwyr y gwnaethom eu cyfarfod heddiw—roedd yn sesiwn dda iawn ac fe wnaeth 20 o ASau ei mynychu a gwrando ar gynrychiolwyr Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. A Gwnsler Cyffredinol, onid yw hyn yn dangos pa mor bwysig yw parhau gyda'r Bil partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru a'r bartneriaeth gymdeithasol i ddangos ein bod yn gweithio gyda'r gweithwyr? Diolch.
Diolch am y sylwadau hynny ac rwy'n cytuno â hwy, ac mae gennyf barch enfawr tuag at Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, a'r postmyn sy'n dosbarthu drwy'r holl dywydd gwael. Rydych yn edrych ar y tywydd sydd gennym nawr ac maent allan yno mewn tywydd echrydus yn dosbarthu—yn dosbarthu'r cardiau Nadolig na wnaethom eu cael cyn y Nadolig mewn gwirionedd. Rwy'n siomedig na allwn fod yn y digwyddiad hwnnw, ond rwy'n credu ei fod yn fynegiant pwysig o gefnogaeth y bobl yn ein cymdeithas i'r gwasanaeth post, i'r gwaith a wnânt, ac mae'n drueni ei fod yn cael ei danseilio a bod yr holl rannau proffidiol ohono wedi cael eu dewis a'u dethol a'u preifateiddio dros y blynyddoedd, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael sylw maes o law.
A gaf fi ddweud, ynglŷn â'r Bil partneriaeth gymdeithasol, fod hon yn ddeddfwriaeth arloesol a gyflwynwyd gan y Gweinidog Hannah Blythyn? Ac rwy'n credu ei bod yn dangos y gwahaniaeth go iawn, mai ni fydd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i greu fframwaith statudol lle mae undebau llafur, cyflogwyr a'r Llywodraeth yn dod at ei gilydd i ddatrys y rhain. Mae'n un o'r rhesymau pam nad ydym eisiau'r ddeddfwriaeth hon; nid ydym am iddi ymyrryd yn y cysylltiadau, yr ymgysylltiad adeiladol sydd gennym i ddatrys y materion hynny, yr anghytundebau hynny, ac i weithio gyda'n gilydd er lles cyffredin pobl Cymru.
Diolch i'r Cwnslser Cyffredinol. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac i'w ofyn gan Luke Fletcher.