Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'r Bil wedi ei gam-enwi'n wir. Mewn gwirionedd, 'Bil diswyddo'r nyrsys' ydyw, 'Bil diswyddo'r gweithiwr ambiwlans' ydyw, neu 'Fil diddymu'r hawl i streicio'. Mae'n dileu'r amddiffyniadau cysegredig i weithwyr ac undebau llafur a gafodd eu hymgorffori mewn deddfwriaeth ym 1906, deddfwriaeth a gyflwynwyd wedi achos Cwm Taf ym 1900, a gododd yn sgil anghydfod a ddigwyddodd yn fy etholaeth i ym Mhontypridd mewn gwirionedd. Arweiniodd at Ddeddf Anghydfodau Undebol 1906, a sefydlodd egwyddorion sylfaenol. Byddai'r hyn y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn ei wneud yn mynd â hawliau gweithwyr nôl i'r hyn oeddent 120 o flynyddoedd yn ôl.
Yr hyn y gallaf ei ddweud ar ran Llywodraeth Cymru yw bod yna ddiffyg ymgysylltiad llwyr wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y ddeddfwriaeth hon. Daeth yr hysbysiad cyntaf ddydd Iau diwethaf, ychydig wedi datganiad i'r wasg Llywodraeth y DU. Yr ohebiaeth gyntaf a gefais oedd cael fy nghopïo i mewn i lythyr at Brif Weinidog Cymru gan y Gweinidog Hollinrake ar 10 Ionawr. Ddoe oedd hynny. Nid dyma'r ffordd i ddatrys anghydfodau. Mae'r diffyg ymgysylltiad hwn yn gwbl annerbyniol. Mae'r ddeddfwriaeth yn gwbl ddiangen. Lle ceir materion brys sydd angen eu gweithredu, mae'r undebau llafur bob amser wedi eu gweithredu. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi gweld yr eitemau y diwrnod o'r blaen am linell biced GMB yng Nghymru—ac rwy'n aelod o GMB—o weithwyr ambiwlans. Y foment y daeth neges fod yna alwad frys, fe adawsant y llinell biced yn syth; fe aethant ac fe wnaethant y gwaith penodol hwnnw. Mae hynny bob amser wedi digwydd. Mae'r ddeddfwriaeth yn ymosodiad sylfaenol ar ryddid, ac fel Llywodraeth Cymru, ni fyddwn yn rhoi unrhyw hygrededd na chefnogaeth iddi. Mae'r ddeddfwriaeth yn anymarferol hefyd yn fy marn i. Nid yw wedi gweithio mewn gwledydd eraill. Ni fydd yn gweithio yma. Ymgais ydyw i osgoi ymdrin â'r broblem go iawn yn y wlad hon, sef darparu cyllid priodol i weithwyr y sector cyhoeddus yn Lloegr ac i Lywodraethau datganoledig, er mwyn galluogi ein gweithwyr sector cyhoeddus i gael eu talu'n briodol. Yn fy marn i, mae'n weithred o anobaith gan Lywodraeth sydd wedi colli gafael ac wedi colli rheolaeth.