Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 11 Ionawr 2023.
Credaf ein bod wedi cael ein bendithio yng Nghymru gyda llinach hir o bêl-droedwyr bendigedig, o Billy Meredith i John Charles, Mark Hughes, Ian Rush ac Aaron Ramsey, i enwi dim ond rhai. Fel cenedl fach, credaf ein bod bob amser wedi gwneud y tu hwnt i'r disgwyl gyda'r doniau rydym wedi'u cynhyrchu ar y cae pêl-droed. Er na welais dîm 1958 yn chwarae, ac nid wyf ychwaith yn cofio'r llu o dimau a ddaeth mor agos yn y ganrif ddiwethaf, rwy'n cofio'n iawn sut olwg oedd ar gyfnod diwethaf pêl-droed Cymru, gan y credaf y byddwn bob amser yn edrych yn ôl ar ddegawd cyntaf y ganrif hon fel y cyfnod cyn Bale. Roedd gennym dimau talentog, unigolion gwych a daethom yn agos ambell dro, ond nid oedd gennym erioed Bale.
Ni all y rhan fwyaf ohonom ond breuddwydio am gael yr un sgiliau yn y Siambr hon ag a oedd gan Gareth Bale ar y cae pêl-droed. Mae ei restr o gyflawniadau'n wirioneddol anhygoel: ymddangosiad cyntaf i Southampton yn 16 oed; chwaraewr y flwyddyn Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol ddwy waith; y ffi trosglwyddo uchaf erioed ar y pryd; tri theitl La Liga; Copa del Rey; y nifer fwyaf o gapiau a goliau i dîm dynion Cymru; a phump—ie, pump—tlws Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Bydd cefnogwyr Lerpwl yn cofio’r un olaf yn enwedig, lle daeth Bale oddi ar y fainc yn Kyiv yn erbyn Lerpwl a throi’r gêm ar ei phen gyda gôl odidog a pherfformiad seren y gêm i ennill tlws mwyaf y byd pêl-droed ar ei ben ei hun, bron â bod, gan adael pobl fel Cristiano Ronaldo a Mohamed Salah yn ei gysgod ar lwyfan mwyaf y byd.
Ond gallech ddweud mai gyda Chymru roedd Bale ar ei orau. Mae yna reswm pam y bu iddo ddal y faner a ddywedai, 'Cymru. Golff. Madrid. Yn y drefn honno.' Roedd yn allweddol yn haf gorau fy mywyd, mae'n debyg, yn 2016, wrth inni fynd y tu hwnt i'n holl freuddwydion a chyrraedd rownd gynderfynol pencampwriaeth yr Ewros, ac yna fe ailadroddodd yr orchest y llynedd gan fynd â ni i gwpan y byd am y tro cyntaf ers 1958. Bydd yn gyfrifol am yr uchafbwyntiau na fyddem ni fel cefnogwyr pêl-droed Cymru erioed wedi ystyried eu bod yn bosibl cyn Bale, ac mae wedi rhoi ein hyder yn ôl i ni, ar y cae pêl-droed ac fel cenedl. Gwn fy mod yn rhagfarnllyd, ond credaf mai ef yw chwaraewr gorau Cymru erioed. Ni fydd Bale arall byth, ond byddaf yn fythol ddiolchgar ein bod wedi cael yr un hwn. Diolch, Gareth.