– Senedd Cymru am 3:36 pm ar 11 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw Gareth Bale. Rwy’n siŵr fod Gareth Bale yn hapus anymwybodol ei fod ar fin bod yn destun nid un ond tri datganiad 90 eiliad. Ac rwy’n amau, yn fy nghyfnod fel Llywydd, y bydd unrhyw unigolyn arall, byw neu farw, yn haeddu triawd o ddatganiadau. Mae Gareth Bale wedi bod yn bêl-droediwr ardderchog, yn arweinydd ardderchog. Mae wedi galluogi pob un ohonom fel Cymry i ddal ein pennau ychydig bach yn uwch, ac wrth ddiolch iddo, dylem barhau i ddal ein pennau'n uchel.
Diolch, felly, i Gareth Bale.
A galwaf yn awr ar dri Aelod i dalu teyrnged i’n trysor cenedlaethol, Gareth Bale. Ac fe ddechreuwn gyda Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ac fel y dywedoch chi, yr wythnos hon, clywsom y newyddion fod y pêl-droediwr a sgoriodd y nifer fwyaf o goliau i dîm dynion Cymru, Gareth Bale, yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol. Lywydd, nid yw'r ystadegau ar eu pennau eu hunain yn rhoi darlun llawn o’r llawenydd a roddodd Bale i bob un ohonom. Bydd ein cenedl falch yn ddiolchgar am byth o fod wedi bod yn dyst i'w ddawn aruthrol. Mae cyflawniadau Gareth yn rhyfeddol: pum Cynghrair y Pencampwyr ar lefel clwb—anhygoel. Ond Lywydd, fel y dywedodd ef ei hun, y ddraig ar ei grys oedd y cyfan roedd ei angen arno mewn gwirionedd. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld y gynhadledd i’r wasg gan Rob Page yr wythnos hon, lle talodd deyrnged i Gareth, ac rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd:
'I mi, mae Gareth Bale yn debyg i sut roedd Gary Speed pan oedd yn gapten. Mae pawb yn gyfartal, ac fe ysgogai'r amgylchedd hwnnw.'
Wel, Lywydd, fel bachgen ifanc yn gwylio Gary Speed, ef yn sicr oedd fy arwr fel chwaraewr Cymru a Newcastle United, a gallaf gytuno’n llwyr ag asesiad Rob Page o gapteniaeth Bale. Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran y Senedd hon pan ddywedaf,
diolch am bopeth, Gareth Bale.
Ac yn olaf, Lywydd, viva Gareth Bale.
Pan wnaeth Gareth Bale ei ymddangosiad cyntaf i’w wlad, fel eilydd yn erbyn Trinidad a Tobago nôl yn 2006, roedden ni yn gwybod, onid oedden ni, fel cenedl, fod gennym ni dalent arbennig, ond doedd neb, dwi ddim yn meddwl, wedi rhagweld mor eithriadol fyddai ei gyfraniad a'i yrfa bêl-droed: torri record y byd, wrth gwrs, am ffi trosglwyddo pan aeth e i Real Madrid, ac yno fe enillodd e Gynghrair y Pencampwyr bum gwaith; ennill yr UEFA Super Cup deirgwaith; cwpan clybiau’r byd deirgwaith; ennill La Liga deirgwaith; ennill y Copa del Rey, y Supercopa, Cwpan yr MLS, wrth gwrs, yn yr Unol Daleithiau y llynedd; ennill 111 o gapiau i’w wlad—y mwyaf yn hanes pêl-droed dynion Cymru—sgorio 41 gôl i’w wlad—eto, y mwyaf yn hanes pêl-droed dynion Cymru—mynd â Chymru ddwywaith i rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn 2016; ac, yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, y greal sanctaidd i nifer ohonom ni gefnogwr pêl-droed Cymru—arwain ei wlad yn gapten i gystadlu yn nghwpan y byd. Mae e’n llysgennad godidog i Gymru, ac roedd gweld un o’r 'Galácticos' yn morio canu 'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan yn foment arwyddocaol i’r iaith Gymraeg, ac yn tanlinellu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Does dim geiriau all wneud cyfiawnder â chyfraniad y bachgen diymhongar oedd yn dweud mai’r ddraig ar ei grys oedd yr unig beth yr oedd ei angen arno fe.
Diolch, Gareth, nid yn unig am wneud inni gredu, ond am brofi y gallwn. Diolch, hefyd, nid yn unig am fod yn Gymro, ond am fynd â Chymru gyda thi i bobman o amgylch y byd. Diolch hefyd am ddweud bod gennyt gefn gwael. Viva Gareth Bale.
Credaf ein bod wedi cael ein bendithio yng Nghymru gyda llinach hir o bêl-droedwyr bendigedig, o Billy Meredith i John Charles, Mark Hughes, Ian Rush ac Aaron Ramsey, i enwi dim ond rhai. Fel cenedl fach, credaf ein bod bob amser wedi gwneud y tu hwnt i'r disgwyl gyda'r doniau rydym wedi'u cynhyrchu ar y cae pêl-droed. Er na welais dîm 1958 yn chwarae, ac nid wyf ychwaith yn cofio'r llu o dimau a ddaeth mor agos yn y ganrif ddiwethaf, rwy'n cofio'n iawn sut olwg oedd ar gyfnod diwethaf pêl-droed Cymru, gan y credaf y byddwn bob amser yn edrych yn ôl ar ddegawd cyntaf y ganrif hon fel y cyfnod cyn Bale. Roedd gennym dimau talentog, unigolion gwych a daethom yn agos ambell dro, ond nid oedd gennym erioed Bale.
Ni all y rhan fwyaf ohonom ond breuddwydio am gael yr un sgiliau yn y Siambr hon ag a oedd gan Gareth Bale ar y cae pêl-droed. Mae ei restr o gyflawniadau'n wirioneddol anhygoel: ymddangosiad cyntaf i Southampton yn 16 oed; chwaraewr y flwyddyn Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol ddwy waith; y ffi trosglwyddo uchaf erioed ar y pryd; tri theitl La Liga; Copa del Rey; y nifer fwyaf o gapiau a goliau i dîm dynion Cymru; a phump—ie, pump—tlws Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Bydd cefnogwyr Lerpwl yn cofio’r un olaf yn enwedig, lle daeth Bale oddi ar y fainc yn Kyiv yn erbyn Lerpwl a throi’r gêm ar ei phen gyda gôl odidog a pherfformiad seren y gêm i ennill tlws mwyaf y byd pêl-droed ar ei ben ei hun, bron â bod, gan adael pobl fel Cristiano Ronaldo a Mohamed Salah yn ei gysgod ar lwyfan mwyaf y byd.
Ond gallech ddweud mai gyda Chymru roedd Bale ar ei orau. Mae yna reswm pam y bu iddo ddal y faner a ddywedai, 'Cymru. Golff. Madrid. Yn y drefn honno.' Roedd yn allweddol yn haf gorau fy mywyd, mae'n debyg, yn 2016, wrth inni fynd y tu hwnt i'n holl freuddwydion a chyrraedd rownd gynderfynol pencampwriaeth yr Ewros, ac yna fe ailadroddodd yr orchest y llynedd gan fynd â ni i gwpan y byd am y tro cyntaf ers 1958. Bydd yn gyfrifol am yr uchafbwyntiau na fyddem ni fel cefnogwyr pêl-droed Cymru erioed wedi ystyried eu bod yn bosibl cyn Bale, ac mae wedi rhoi ein hyder yn ôl i ni, ar y cae pêl-droed ac fel cenedl. Gwn fy mod yn rhagfarnllyd, ond credaf mai ef yw chwaraewr gorau Cymru erioed. Ni fydd Bale arall byth, ond byddaf yn fythol ddiolchgar ein bod wedi cael yr un hwn. Diolch, Gareth.
Diolch yn fawr, Gareth Bale, ac edrychwn ymlaen at yr hyn a ddaw nesaf i ti. Byddwn yn dy wylio a byddi'n parhau i fod yn drysor cenedlaethol i ni. Yma o hyd, rwy'n siŵr.