Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 11 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw Gareth Bale. Rwy’n siŵr fod Gareth Bale yn hapus anymwybodol ei fod ar fin bod yn destun nid un ond tri datganiad 90 eiliad. Ac rwy’n amau, yn fy nghyfnod fel Llywydd, y bydd unrhyw unigolyn arall, byw neu farw, yn haeddu triawd o ddatganiadau. Mae Gareth Bale wedi bod yn bêl-droediwr ardderchog, yn arweinydd ardderchog. Mae wedi galluogi pob un ohonom fel Cymry i ddal ein pennau ychydig bach yn uwch, ac wrth ddiolch iddo, dylem barhau i ddal ein pennau'n uchel.