Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar asedau cymunedol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y grwpiau sy’n ymwneud â’r asedau cymunedol y buom yn ymweld â hwy: Maindee Unlimited, Canolfan Gymunedol y Fenni, Sinema Neuadd y Farchnad ym Mryn-mawr, Antur Nantlle, Ty’n Llan, a Phartneriaeth Ogwen. Roedd yn ddefnyddiol iawn inni gyfarfod â'r grwpiau hyn i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau uniongyrchol. Fe wnaeth eu tystiolaeth ein helpu ni i ddeall manteision perchnogaeth gymunedol yn well, yn ogystal â rhai o’r heriau a’r rhwystrau a wynebir gan gymunedau.
Mae asedau cymunedol yn gwneud cyfraniad mawr i fywydau’r bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae llawer o wahanol fathau o asedau ledled Cymru a llawer o ffyrdd y gall y rhain wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a’u llesiant. Gallant fod yn adeiladau, megis canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a thafarndai, sy'n gweithredu fel hybiau ar gyfer eu hardaloedd lleol a lle gall pobl gael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau, dysgu sgiliau newydd, dod ynghyd i gymdeithasu a rhannu profiadau. Gallant fod yn lleoedd, fel parciau a mannau gwyrdd, lle gall pobl ymlacio neu ymarfer corff a lle gall plant chwarae; gallant hyd yn oed ddarparu cartrefi i bobl.
Yng Nghymru, gallwn fod yn falch o frwdfrydedd ac ymrwymiad gwych cymunedau ledled y wlad i gynnal asedau lleol a sicrhau eu cynaliadwyedd. Clywsom fod pobl yn awyddus i fod yn rhan o'r gwaith o redeg prosiectau cymunedol i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at amwynderau yn eu hardaloedd lleol, nawr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw rhedeg ased cymunedol yn orchwyl hawdd. Yn ogystal â brwdfrydedd ac ymrwymiad, mae angen digon o amser ac arian hefyd. Hoffem ei gwneud yn haws i grwpiau lleol allu cymryd rhan yn y gwaith o redeg yr asedau sy’n iawn i’w cymunedau. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom 16 o argymhellion a fydd yn ein barn ni yn helpu i sicrhau'r cyfleoedd mwyaf ar gyfer grymuso cymunedau'n well. Mae wyth o’r argymhellion hynny wedi’u derbyn yn llawn a saith wedi’u derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Gwrthodwyd un.
Ein hargymhelliad trosfwaol oedd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i ysgogi syniadau arloesol ynglŷn â pherchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos bod angen esbonio rhai materion ymhellach, felly, fe wnaethom argymell y gallai’r comisiwn wneud gwaith o’r fath. Roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi nodi ei bod yn bwriadu sefydlu comisiwn o’r fath, ac eto, dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd yr argymhelliad. Felly, hoffwn ofyn i’r Gweinidog ymhelaethu ar y rhesymau dros beidio â derbyn yr argymhelliad yn llawn. Awgrymai ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru y gallai’r amserlen o 12 mis a argymhellwyd gennym ar gyfer sefydlu’r corff hwnnw fod yn broblemus. Hoffwn ofyn, felly, i’r Gweinidog roi mwy o fanylion ynglŷn â faint o amser sydd ei angen i sefydlu comisiwn. Mae Cwmpas eisoes wedi galw am gomisiwn, a gwyddom fod rhanddeiliaid ymroddedig eraill yn barod ac yn awyddus i gyfrannu at y gwaith angenrheidiol. Felly, fel pwyllgor, credwn y dylai'r gwaith allu dechrau'n weddol gyflym.
Ddirprwy Lywydd, fel y nodais, mae nifer o'n hargymhellion eraill yn cyfeirio at waith y credwn y gellid ei wneud gan gomisiwn, gan gynnwys archwilio gyda rhanddeiliaid y pecyn cymorth a ddylai fod ar gael i grwpiau cymunedol sy'n dymuno rhedeg ased cymunedol. Nid yw'n broses hawdd, a bydd angen cymorth gwahanol ar grwpiau, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Ac wrth gwrs, efallai y bydd gan rai cymunedau fynediad parod at bobl a chanddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen, ond bydd angen i eraill ddibynnu ar gymorth allanol. Beth bynnag y bo’u hamgylchiadau, rydym am i bob cymuned gael cyfle i fwrw ymlaen â phrosiectau.
Er bod ffynonellau amrywiol o gyngor a chymorth eisoes ar gael, clywsom nad yw'n hawdd cael mynediad atynt, yn enwedig i grwpiau sydd newydd eu sefydlu ac a fydd yn llai cyfarwydd â’r trefniadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at rai o'r ffynonellau gwybodaeth, ond nid yw'n mynd i'r afael â hygyrchedd yr wybodaeth honno. Credwn ei bod yn bwysig dysgu o brofiadau pobl sy'n cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o redeg asedau cymunedol i sicrhau bod y cyngor a'r cymorth cywir ar gael, a dyna pam y credwn mai comisiwn o arbenigwyr a fyddai yn y sefyllfa orau i fwrw ymlaen â hyn. Pan roddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol dystiolaeth i ni, cyfeiriodd at y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar bolisi cymunedol newydd, gan gynnwys archwilio'r angen am hyb canolog ar gyfer cyngor a gwybodaeth. Credwn fod y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni wedi dangos angen clir am ddarpariaeth o’r fath, ac felly, rwyf am ofyn i’r Gweinidog egluro pam na chafodd ein hargymhelliad ei dderbyn yn llawn.
Clywsom am yr heriau a wynebir yn aml gan grwpiau sy’n caffael asedau sydd mewn perchnogaeth breifat. Mae'n cymryd amser i grwpiau a ffurfiwyd o'r newydd i sefydlu eu hunain a sicrhau cyllid, a gall fod yn anodd cystadlu yn erbyn unigolion neu fusnesau preifat a chanddynt gyllid at eu defnydd. Dywedodd sawl tyst wrthym fod gan gymunedau yng Nghymru lawer llai o bwerau na’r rheini yn yr Alban a Lloegr. Mae hawl y gymuned i brynu wedi bod ar waith yn yr Alban ers 2003, ac mae gan gymunedau Lloegr hawl i wneud cynigion am asedau drwy Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae amser wedi symud yn ei flaen, ac rydym yn pryderu bod cymunedau Cymru yn cael eu hamddifadu o bwerau tebyg.
Gwnaethom argymell hefyd y dylai comisiwn archwilio a oes angen deddfwriaeth i rymuso cymunedau a rhoi cyfle cyfartal iddynt wrth gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat i brynu asedau o ddiddordeb. Felly, credwn fod sefydlu comisiwn yn allweddol er mwyn bwrw ymlaen â nifer o’n hargymhellion a’r rheini a wnaed gan randdeiliaid nodedig, gan gynnwys Cwmpas a’r Sefydliad Materion Cymreig. Mae’n hollbwysig felly fod y gwaith o sefydlu comisiwn yn dechrau fel mater o frys, fel nad yw cymunedau Cymru yn colli cyfleoedd i gaffael a rhedeg asedau a all wella llesiant eu poblogaethau lleol.
Rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad i sefydlu cronfa dir cymunedol i Gymru wedi’i wrthod. Mae cronfeydd tebyg yn bodoli yn yr Alban a Lloegr, a galwodd sawl rhanddeiliad am gronfa yma yng Nghymru.
Fel pwyllgor, rydym yn bryderus iawn ynghylch y dystiolaeth gynyddol a glywn am yr anawsterau y mae pobl ledled Cymru yn eu hwynebu wrth sicrhau llety i’w rentu neu ei brynu. Credwn fod tai a arweinir gan y gymuned yn rhoi cyfle i gymunedau ddarparu eu hatebion tai eu hunain. Er na fydd hyn yn opsiwn ymarferol i bawb, hoffem weld prosesau’n cael eu symleiddio fel bod cymunedau’n gallu cael mynediad at y tir a’r cyllid sydd ei angen arnynt i adeiladu cartrefi priodol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y grant tai cymdeithasol, y gall grwpiau a arweinir gan y gymuned gael mynediad ato os ydynt yn partneru â landlord cymdeithasol cofrestredig. Rydym yn pryderu nad yw’r dull hwn wedi sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i grwpiau cymunedol, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried ei hymateb i’r argymhelliad hwn.
Ddirprwy Lywydd, mae mynediad at dai fforddiadwy yn fater pwysig iawn i ni fel pwyllgor, ac i bob un ohonom yn y Senedd, rwy'n siŵr, ac i bobl ledled Cymru. Fel pwyllgor, byddwn yn dychwelyd at hyn yn ystod tymor y chweched Senedd i weld sut mae ein hargymhellion yn cael eu datblygu. Diolch yn fawr.