Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 11 Ionawr 2023.
A gaf i roi datganiad diddordeb, sef fy mod i'n gyfranddalwr mewn amryw fentrau cymunedol, sydd ar y record gyhoeddus? Diolch am y cyfle i gael siarad yn y ddadl yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cynnig cyn yr haf y llynedd ar rymuso cymunedau—cynnig a gafodd ei basio gan y Senedd hon. Ond, er gwaethaf ein bod wedi cytuno ar y ffordd ymlaen fel Senedd, y gwir ydy nad oes yna fawr ddim wedi digwydd, a bydd dim yn digwydd yn fuan chwaith.
Roedd hi’n hyfryd cael bod yn rhan o’r ymchwiliad yma, dan gadeiryddiaeth John Griffiths, ac ymweld â rhai o’r cynlluniau cymunedol sydd ar y gweill. Dwi’n ymfalchïo yn y ffaith bod Dwyfor Meirionnydd yn arwain y gad pan fo’n dod i ddatblygu mentrau cymunedol, a bod gennym ni hanes balch iawn o hyn yng Ngwynedd, efo’r newyddion diweddaraf, er enghraifft, fod Menter y Glan ym Mhennal wedi llwyddo i godi’r pres angenrheidiol fel cymuned i brynu tafarn Glan yr Afon. Felly, llongyfarchiadau iddyn nhw.
Yn wir, gellir olrhain y cyfan yn ôl i fenter gymunedol gyntaf y Deyrnas Gyfunol, a sefydlwyd yn Llanaelhaearn—menter Aelhaearn, a ffurfiwyd gan y diweddar a’r dihafal Dr Carl Clowes a thrigolion yr ardal. Ond, er mai Cymru oedd yn arwain yn y maes yma yn ôl yn y 1970au, mae’n fy nhristáu ein bod ni bellach mor bell ar ei hôl hi, yn enwedig wrth edrych ar yr Alban a Lloegr a’r grymoedd deddfwriaethol sydd gan gymunedau yno pan fo’n dod i berchnogaeth ar asedau cymunedol a datblygu mentrau cydweithredol cymunedol.
Roedd yr ymchwiliad yma yn ddifyr oherwydd y cyfoeth o dystiolaeth y mae wedi’i thynnu ynghyd, yn dangos yn glir buddiannau hyrwyddo mentrau cymunedol yma. Er enghraifft, mae gan gymunedau sy’n profi mwy o amddifadedd ond sydd â niferoedd uwch o asedau cymunedol a gweithredoedd cymunedol ganlyniadau iechyd a lles gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd difreintiedig nad oes ganddyn nhw lefelau uchel o asedau cymunedol na gweithredu cymunedol.
Mae hyn yn cydberthyn â chanfyddiadau ymchwil sydd wedi cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mewn partneriaeth â’r Oxford Consultants for Social Inclusion. Mae eu canfyddiadau yn awgrymu y bydd ardaloedd difreintiedig sydd ag asedau cymunedol a dinesig yn llai tueddol o gael eu hadnabod fel rhai sydd mewn perygl. Felly, mewn geiriau eraill, mae cymunedau difreintiedig sy'n meddu ar asedau cymunedol a dinesig cryfach fel arfer yn fwy gwydn na’r cymunedau hynny sydd heb hyn. Mae yna dystiolaeth galed i gefnogi hynny hefyd.
Dwi’n credu mai peth arall sy’n werth sôn amdano yma ydy’r hyn a wnaed yn glir yn ein sesiynau tystiolaeth, sef i ba raddau y mae cefnogaeth a chyngor ar gael i’r grwpiau cymunedol hynny sy’n ceisio ymgymryd ag ased cymunedol. Yn y pen draw, mae’r gefnogaeth ymhell o fod yn ddigonol a chyson. Mae’n amrywio ar draws Cymru. Mae’r grwpiau yn y sector wedi dweud bod angen cefnogaeth ychwanegol ddi-gost.
Hoffwn ailadrodd yr alwad am wella’r rhaglen cyfleusterau cymunedol, i edrych hefyd ar feithrin capasiti cymunedol. Mae angen inni adeiladu rhai o’r sgiliau meddalach hynny sydd eu hangen o fewn grwpiau cymunedol i hwyluso eu rhedeg parhaus, yn enwedig o ran datblygu a throsglwyddo asedau.
Mae’r adroddiad yn sôn am yr angen i greu comisiwn. Roeddwn i, yn bersonol, yn ffafrio deddfu, ond mae’r Llywodraeth wedi’i gwneud yn glir nad yw am ddeddfu yn y maes yma, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi bod yn ymrwymiad maniffesto ganddi ers 2006. Yn absenoldeb deddfu, mae’r comisiwn i’w groesawu, ond mae taer angen ei sefydlu’n fuan a gweld gwaith yn digwydd yn syth.
Wrth inni wynebu austerity 2.0, y peryg go iawn yw y bydd ein cynghorau sir yn cael eu temtio efo fire sales o’u hasedau er mwyn dod â phres i mewn i’r coffrau, a fydd yn golygu ein bod yn colli mwy o asedau, gan dynnu grym i ffwrdd o’n cymunedau ymhellach. Felly, yn ei hymateb i’r drafodaeth hon, hoffwn glywed y Gweinidog yn ymrwymo i gyflymu sefydlu’r comisiwn a rhoi amserlen glir a buan i’r comisiwn cyn i ni golli mwy o adnoddau a cholli cyfle go iawn i rymuso ein cymunedau.
Fy nodyn olaf, wedyn, ar dai o dan arweiniad y gymuned. Does dim angen dweud bod cryfhau hawliau cymunedol yn gallu helpu tyfu’r mudiad tai cymunedol. Mae angen i Lywodraeth Cymru helpu cymunedau i ddod dros rwystrau i wneud tai sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn ffurf gyffredinol boblogaidd o dai, fel sy’n digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Trwy gyflwyno deddfwriaeth sy’n galluogi perchnogaeth gymunedol ar dir ac ar asedau, bydd cymunedau’n gallu darparu cartrefi fforddiadwy sy’n ddiogel yn yr hinsawdd yma, yn fwy effeithiol, ac sy’n cael eu datblygu gan a chyda phobl leol i ddiwallu anghenion lleol ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Diolch.