Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch i'r pwyllgor, ei aelodau, y tîm clercio a'r tystion am yr adroddiad pwysig hwn. Mwynheais ddilyn yr ymchwiliad, ac rwy'n cytuno gyda nifer o'r pwyntiau sydd ynddo. Fel y mae adroddiad heddiw yn ein hatgoffa, pwrpas trosglwyddo asedau, wrth gwrs, yw sicrhau bod asedau sy'n wirioneddol bwysig i gymuned leol yn gallu aros o fewn y gymuned honno. Weithiau, dyma fydd un o ganlyniadau degawd o gyni Torïaidd. Mae pyllau padlo yn fy etholaeth yn Abercynon, Aberdâr, Aberpennar, Penrhiw-ceibr ac Ynys-y-bŵl bellach yn cael eu rhedeg gan grwpiau cymunedol, gan ddarparu cyfleoedd a fyddai wedi'u colli fel arall, ond maent hefyd yn gweithredu fel cerrig sylfaen ar gyfer creu rhywbeth mwy a gwell.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cymunedol yn gwneud y pwynt yn ei dystiolaeth fod cymunedau'n darparu'r ffactor ychwanegol hwnnw. Roeddwn yn falch y llynedd o agor Splashpad newydd Dŵr Dâr yn swyddogol ac rwyf wedi cefnogi grŵp Pwll Lee Gardens wrth iddynt gychwyn datblygu eu seilwaith ar ôl trosglwyddo ased cymunedol, ac maent wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol i'w cymunedau lleol.
Rwy'n credu mai'r pwynt am grwpiau'n gallu mynd ag ased i'r cam nesaf sy'n tynnu sylw orau at pam fod hyn mor bwysig. Unwaith eto, ambell astudiaeth achos o Gwm Cynon: canolfan oriau dydd a gâi ei rheoli gan y cyngor yn Aberdâr oedd Santes Fair a chafodd yr ased ei drosglwyddo'n llwyddiannus i Age Connects Morgannwg. Erbyn hyn, fel Cynon Linc, a diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae'n gwasanaethu fel canolfan gymunedol sy'n cynnig amrywiaeth fawr o wasanaethau a chyfleusterau, ac mae'n gartref i feddygfa, elusennau a chaffi ardderchog. Cymerodd Cylch Meithrin Seren Fach feddiant ar adeilad segur yn Aberpennar, gan ei drawsnewid yn ofod croesawgar i blant a theuluoedd ac ehangu eu cynnig dysgu Cymraeg drwy chwarae. Ac mae ASD Rainbows wedi cymryd meddiant ar ganolfan gymunedol ym Mherthcelyn i ddatblygu eu gweledigaeth i ymestyn y gefnogaeth y maent yn ei darparu i blant a'u teuluoedd ac i ddarparu ased mawr ei angen sydd wedi ei adfer i'r gymuned leol.
Mae adroddiad y pwyllgor yn dystiolaeth gryno o'r rheswm pam fod angen y rhain arnom, gyda Sefydliad Bevan, er enghraifft, yn nodi y gall trosglwyddo asedau ysgogi datblygiad economaidd mewn gwirionedd. Cefais fy nharo hefyd gan y dystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau fod ardaloedd llai cyfoethog sy'n cynnwys llawer o'r asedau cymunedol hyn wedi'u gyrru gan berchnogaeth gymunedol, yn dangos
'gwell canlyniadau iechyd a lles, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant' na'r rhai nad ydynt yn meddu ar lawer ohonynt.
Felly, nid oes modd gwadu'r elfen cyfiawnder cymdeithasol yn hyn. Fel y mae'r adroddiad yn nodi'n glir, rhaid cael prosesau a chymorth i gyd-fynd ag awydd cymuned i ymgymryd ag ased er mwyn gallu gwireddu'r weledigaeth. Yn sgil yr holl enghreifftiau cadarnhaol y soniais amdanynt yn fy etholaeth, er nad ydynt yn syndod, mae'n wych gweld y cyfeiriadau niferus yn yr adroddiad at arferion da a roddwyd ar waith gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi RhCT fel un o'r enghreifftiau da o gyngor yn rhoi seilwaith a gwybodaeth yn eu lle sy'n arwain at 'drosglwyddo asedau'n ddidrafferth'. Nodir un pwynt cyswllt, tîm cymharol fawr o swyddogion, ac arweiniad sydd ar gael yn rhwydd fel elfennau o hyn. Fel y mae paragraff 59 yr adroddiad yn ei nodi'n glir, rhaid i'r broses drosglwyddo beidio â bod yn rhy fiwrocrataidd. Rhaid rhoi mecanweithiau priodol o gadarn ar waith, ond ni ddylent fod yn rhwystr, ac rwy'n falch o weld bod Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn gwneud y pwynt hwn yn eu tystiolaeth, gan fy mod yn gwybod bod y grŵp wedi bod yn sbardun allweddol i gefnogi'r trosglwyddiadau hyn yn fy etholaeth.
Mae llawer o'r enghreifftiau a nodais wedi cyfeirio at drosglwyddiadau o'r sector cyhoeddus ond fel y mae'r adroddiad yn ein hatgoffa, ceir heriau penodol pan fo'r ased mewn perchnogaeth breifat. Rwy'n ymdrin ag un achos ar hyn o bryd, gan weithio'n agos gyda grŵp Gwlyptiroedd Cymunedol Cwmbach wrth iddynt geisio cymryd meddiant ar dir sydd mewn perchnogaeth breifat. Mae gwirfoddolwyr ymroddedig y grŵp yn defnyddio nifer o atebion arloesol i yrru'r trosglwyddiad yn ei flaen, megis cyhoeddi cyfranddaliadau cymunedol sy'n boblogaidd iawn. Fodd bynnag, maent yn wynebu anawsterau'n ymwneud ag amser a gwybodaeth gwirfoddolwyr. Yn rhannol, rwy'n credu y gellid darparu atebion drwy ddatblygu rhwydwaith cymheiriaid—fel y nododd Cwmpas ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn eu tystiolaeth—i rannu syniadau, i rannu arbenigedd, ac i rannu'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Mae'r ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i'r argymhellion i'w groesawu. Fodd bynnag—a nodwyd y pwynt hwn eto yn yr adroddiad—rhaid i gefnogaeth o'r fath fod yn barhaus ac nid ar y dechrau'n unig pan fydd ased yn cael ei drosglwyddo. Gall pethau fynd o chwith, ond gall mynediad at yr wybodaeth gywir helpu cymunedau i gael pethau'n ôl ar y trywydd iawn. Diolch.