6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:16, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae ein cymunedau wedi wynebu caledi ar ôl caledi yn y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn dros ddegawd o gyni dan law'r Ceidwadwyr yn San Steffan, yna fe gawsom Brexit, a'r pandemig, a'r argyfwng costau byw hollbresennol nawr. Ac eto, yn anad dim, rydym wedi gweld bod caredigrwydd yn ein cymunedau yn parhau. Mae Cymru'n gyfoethog nid yn unig mewn adnoddau neu ddoniau ond o ran ein cymunedau. Mae'n rhaid inni feithrin hyn a sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu fel y gall ein cymunedau ffynnu; fel bod gwasanaethau nid yn unig yn cael eu darparu, ond eu bod yn dod yn wasanaethau rhagorol lle gwneir y mwyaf o wybodaeth a sgiliau lleol er budd y gymuned.

Dyma pam rwy'n croesawu argymhellion adroddiad y pwyllgor hwn, ac yn credu bod angen inni fynd ymhellach i rymuso ein cymunedau. Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiad i raddau helaeth, ond rwy'n gresynu at y meysydd lle bydd y cymunedau'n cael cam oherwydd diffyg ymrwymiad. Er enghraifft, lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr ymrwymiad i sicrhau bod cronfa Gymreig benodol ar gael ar gyfer prosiectau tai cymunedol. Mae hyn ar gael ar gyfer cymunedau yn Lloegr a'r Alban, ond nid ein cymunedau ni yma yng Nghymru. Er bod y Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi datgan ei bod â'i bryd ar gytuno i sefydlu comisiwn i ysgogi meddwl arloesol am berchnogaeth gymunedol ac asedau cymunedol yng Nghymru, mae'n drueni, felly, mai dim ond mewn egwyddor y cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn hyd yma am nad yw'r adnoddau presennol yn ddigon i gefnogi datblygiad o fewn y ffrâm amser a argymhellir. Thema gyffredin yn y ddadl hon—a byddaf yn ailadrodd y cwestiwn—yw: pryd y gallwn ddisgwyl sefydlu comisiwn o'r fath, os yw'r Gweinidog yn amlwg yn cydnabod ei werth? Bydd gohirio'r comisiwn hwn yn achosi oedi pellach rhag gallu archwilio hawl cymuned i brynu, fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Mae'r diffyg deddfwriaeth yn y maes yn rhwystredig eisoes o'i gymharu â deddfwriaeth hawl i brynu yn Lloegr a'r Alban. Mae ein cymunedau dan anfantais enfawr, ar fympwy unigolion sy'n gallu newid eu meddwl ar unrhyw adeg, ac yn gorfod cystadlu gyda grymoedd y farchnad hyd yn oed mewn achosion lle gallai fod gwerth cymdeithasol clir i flaenoriaethu perchnogaeth gymunedol.

Hyd nes y byddwn yn deddfu ar gyfer hawl y gymuned i brynu, rydym yn gadael ein cymunedau mewn sefyllfa lle gallent fod yn ymdrechu ac yn treulio cryn dipyn o amser ac yn gwario arian sylweddol i'r cyfan fod yn wastraff o bosibl. Nid yw hyn yn deg ar unigolion, cymunedau na sefydliadau lleol, sy'n teimlo ymrwymiad at dir, adeiladau neu gyfleusterau yn eu cymunedau. Mae grymuso ein cymunedau yn ymwneud â sicrhau bod cefnogaeth ac arian ar gael sy'n hygyrch i gymunedau allu ffynnu, yn ogystal â rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith i gefnogi'r Llywodraeth. O ran hynny, mae'r adroddiad yn nodi'n glir fod yna faterion sylweddol yn codi mewn perthynas â throsglwyddo asedau cymunedol. Rwy'n cytuno bod angen dysgu o arferion gorau ac annog creu rhwydweithiau cymheiriaid fel bod anghysondebau rhwng awdurdodau lleol yn cael eu lleihau. Er enghraifft, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trafod dull un cyngor lle mae gwefan y cyngor yn cynnwys arweiniad, templedi ar-lein, disgrifiadau manwl o adeiladau ac un pwynt cyswllt am wybodaeth, gyda'r nod o helpu i sicrhau bod asedau'n cael eu trosglwyddo'n ddidrafferth. Er hynny, at ei gilydd, mae angen gwell canllawiau. Roedd clywed nad oedd gan rai awdurdodau lleol bolisi cyhoeddus ar drosglwyddo asedau cymunedol yn destun pryder mawr, ac wrth symud ymlaen, rhaid inni sicrhau bod gennym ganllawiau cyffredinol ar draws yr awdurdodau lleol sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o le i hyblygrwydd. Mae'n rhaid iddo fod yn gymesur â maint y trosglwyddiad er mwyn rhoi cyfle teg i'n cymunedau.

Yn olaf, hoffwn orffen drwy nodi sut mae trosglwyddo asedau a pherchnogaeth gymunedol yn gymaint mwy na'r hyn y gallent ei gynnig mewn gwerth ariannol neu i arbed costau. Mae ganddynt allu gwirioneddol i wella bywyd a llesiant cymunedol, ac i ddod â gwerth cymdeithasol wrth rymuso ac uno ein cymunedau. Gadewch inni roi cyfle i'n cymunedau drwy warantu hawl iddynt allu adfywio eu hunain, hawl i redeg eu hunain, a hawl i brynu'r asedau cymunedol y maent wedi buddsoddi cymaint o amser ac egni ynddynt dros y blynyddoedd. Diolch yn fawr.