7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Clefyd yr afu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:49, 11 Ionawr 2023

Mae hon yn ddadl amserol iawn, gan fod mis Ionawr yn Fis Ymwybyddiaeth Caru Eich Iau, ac mae heddiw, 11 Ionawr, yn nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Cenedlaethol ar gyfer Canserau Llai Goroesadwy. Mae'r ddadl yma yn deillio o waith y grŵp trawsbleidiol ar glefyd yr iau a chanser yr iau, sef grŵp dwi'n falch o fod yn aelod ohono fo. Drwy'r grŵp hwnnw, dwi ac eraill yn ymrwymo, wrth gwrs, i dynnu sylw at yr argyfwng rydyn ni'n ei wynebu o ran clefyd yr iau—achos fel mae'r cynnig yn ei ddangos, mae o yn argyfwng—a'r opsiynau polisi wedyn i wella diagnosis cynnar, gwella triniaeth ac, yn allweddol, gwella canlyniadau i gleifion ym mhob rhan o Gymru.

Fel dwi'n dweud, mae clefyd yr iau a chanser yr iau yn argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o glefyd yr iau wedi mwy na threblu yma dros gyfnod o 20 mlynedd, ac o holl wledydd y Deyrnas Unedig, Cymru sydd â'r gyfradd marwolaethau uchaf o glefyd yr iau. Mae naw o bob 10 claf canser yr iau yng Nghymru yn marw o fewn pum mlynedd o gael diagnosis, sydd eto yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Mae gen i ofn y gallai pethau fynd yn waeth, a mynd yn waeth y gaeaf yma wrth i'r tlotaf deimlo effaith yr argyfwng costau byw a thlodi tanwydd cynyddol. Mi allem ni weld cynnydd mewn marwolaethau clefyd yr iau, fel y gwelson ni yn ôl yn 2020, yn ystod y pandemig COVID.

Rydyn ni'n sôn hefyd yn fan hyn am rywbeth sy'n rhoi baich enfawr ar yr NHS. Mi wnaeth derbyniadau i'r ysbyty oherwydd clefyd yr iau gynyddu 25 y cant rhwng 2020 a 2021. Y llynedd, mi oedd y ffigwr bron yn 26,000 o dderbyniadau, ac o ystyried sefyllfa druenus yr NHS ar hyn o bryd, y pwysau sydd arno fo ym mhob ffordd, does dim angen pwysleisio, nac oes, yr angen i gael y ffigwr yna i lawr.

Mae'n werth tynnu sylw hefyd at y ffaith bod yna amrywiaeth mawr o ardal i ardal a rhwng gwahanol fyrddau iechyd o ran canlyniadau i gleifion. Er enghraifft, yn 2020, mi oedd cyfraddau marwolaethau oherwydd clefyd yr iau ym mwrdd iechyd bae Abertawe, rhyw 26.7 i bob 100,000 o bobl, fwy na dwywaith lefel bwrdd iechyd Hywel Dda, a'r lefel rhyw 33 y cant, traean, yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae unrhyw anghysondeb o ardal i ardal wastad yn rhywbeth sy'n bwysig iawn mynd i'r afael â fo.

Ond—a hyn sy'n bwysig iawn, iawn—mae modd atal clefyd yr iau yn gyfan gwbl bron. Mae rhyw 10 y cant o achosion yn ganlyniad i gyflyrau genetig ac awto-imiwn, ond mae rhyw 90 y cant yn cael eu hachosi gan gamddefnydd alcohol, gan ordewdra a gan hepatitis feirysol. Dyna pam bod buddsoddi mewn mesurau ataliol yn allweddol, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod strategaethau i fynd i'r afael â gordewdra, strategaethau i daclo niwed alcohol yn rhai cryf. Mae hynny mor, mor bwysig. Mae hefyd eisiau gwneud yn siŵr, o fewn mesurau iechyd cyhoeddus ehangach, fod clefyd yr iau yn cael y sylw priodol. Mae angen delio efo stigma. Hefyd, mae eisiau bod yn glir iawn am sut mae cyrraedd targedau am leihau achosion o'r clefyd, targedau sydd yn cael eu nodi yn y datganiad ansawdd.

Ond lle mae'r clefyd yn datblygu mewn unigolion, wrth gwrs, mae angen sicrhau mynediad wedyn at ofal arbenigol, ac mae miloedd yn marw yn ddiangen, mae gen i ofn, heb fynediad at ofal arbenigol, oherwydd diffyg adnoddau mewn gwasanaethau. A'r adnodd mwyaf pwysig fel ar draws yr NHS, wrth gwrs, ydy'r gweithlu, ac mewn termau moel, mae angen i Lywodraeth Cymru ddyblu'r gweithlu hepatoleg yng Nghymru, fel mae'r cynnig yn ei nodi.

Ac yn olaf, wrth i'r grŵp gweithredu clefyd yr iau gael ei ddiddymu, mae yna beryg y bydd yna lai o oruchwyliaeth o'r gwaith sy'n digwydd yn y maes yma. Allwn ni ddim fforddio gadael i hynny ddigwydd, achos ar ôl y cynnydd brawychus yna mewn achosion o'r clefyd mewn blynyddoedd diweddar, mae maint yr argyfwng yn glir. Mae angen i'r Senedd gefnogi'r cynnig yma fel datganiad clir ein bod ni yn sylweddoli maint yr her, a dydy gwelliant y Llywodraeth ddim yn gwneud hynny yn ddigonol, mae gen i ofn.