Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 11 Ionawr 2023.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Joel James am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae hefyd yn ddadl amserol, gan ein bod yn ei chael yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Carwch eich Afu, yn ogystal ag ar adeg o argyfwng iechyd cyhoeddus mewn perthynas â chlefyd yr afu. Fe wyddom fod nifer y bobl 65 oed ac iau sy'n marw o glefyd yr afu wedi cynyddu 400 y cant, sy'n syfrdanol. Mae modd atal naw o bob 10 o'r marwolaethau hynny. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad oes neb yn marw'n ddiangen o glefyd yr afu. Fel cyn-ymddiriedolwr, a bellach fel noddwr i Ganolfan Adsefydlu Brynawel, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar glefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Cododd lefelau clefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol bron i draean rhwng 2019 a 2021, a hynny'n bennaf oherwydd clefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol, yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Clefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol yw dwy ran o dair o holl glefydau'r afu, ac mae un o bob pump o oedolion yng Nghymru yn yfed alcohol mewn ffyrdd a allai fod yn niweidiol i'w hafu. Er gwaethaf y ffeithiau arswydus hyn, mae yna brinder gwirioneddol o dimau gofal alcohol ledled Cymru. Nid oes gan 70% o fyrddau iechyd lleol dimau gofal alcohol yn eu lle saith diwrnod yr wythnos. Felly mae gennym loteri cod post o ran mynediad at gymorth gofal ac atal arbenigol. Lle caiff gwasanaeth ei ddarparu saith diwrnod yr wythnos a lle mae timau gofal alcohol yn bodoli, gwelwn welliannau dramatig yn y canlyniadau iechyd. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, maent yn darparu gwasanaeth saith diwrnod, ac er mai'r bwrdd iechyd sydd â'r nifer uchaf o dderbyniadau fesul pen i'r ysbyty ar gyfer clefyd yr afu yng Nghymru, ganddynt hwy y mae un o'r cyfraddau marwolaeth isaf. Yn anffodus, fy mwrdd iechyd fy hun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sydd â'r gyfradd farwolaeth uchaf a gofnodwyd ar gyfer clefyd yr afu yng Nghymru.
Dros y ddau ddegawd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 60 y cant mewn diagnosis o glefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac mae'r gyfradd ddiagnosis dair gwaith yn uwch yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru o'i gymharu â'r ardaloedd mwyaf cyfoethog, fel y dywedwyd yn gynharach. Os ydym am fynd i'r afael â chlefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol, rhaid inni sicrhau bod timau gofal alcohol saith diwrnod ar gael ym mhob rhan o Gymru. Rhaid inni fuddsoddi mewn nyrsys a meddygon afu arbenigol, ac mae'n rhaid i ni gyflwyno arferion gorau ar draws pob bwrdd iechyd.
Er enghraifft, mae meddyg yng Nghwm Taf yn gwneud gwaith rhagorol ar fachu ar y cyfle i wneud sganiau FibroScan oportiwnistaidd ar aelodau o'r cyhoedd, yn ogystal ag ymhlith poblogaeth y carchardai. Dull syml, di-boen ac anfewnwthiol yw FibroScan a ddefnyddir i asesu iechyd yr afu yn fanwl. Yn ystod y sgan, gosodir chwiliedydd ar wyneb y croen. Gall hwn ganfod unrhyw greithio neu ffibrosis yr afu a all arwain at sirosis a chanser yr afu yn y pen draw. Mae nifer o astudiaethau'n dangos bod gwneud sgan FibroScan oportiwnistaidd yn cynyddu cyfraddau diagnosis cynnar, yn enwedig yn y bobl sydd â risg uchel o glefyd yr afu datblygedig, ac mae hynny o ganlyniad yn cynyddu cyfraddau goroesi mwy hirdymor. Dylem fod yn efelychu'r gwaith sydd ar y gweill yng Nghwm Taf ar draws yr holl fyrddau iechyd ac ym mhob lleoliad.
Yn ystod mis Ionawr sych a Mis Ymwybyddiaeth Carwch eich Afu, gadewch inni ymrwymo i ddileu marwolaethau o ganlyniad i glefyd yr afu sy'n gysylltiedig ag alcohol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.