8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:30, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae ein cynnig heddiw, a gyflwynwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, yn nodi nifer o bwyntiau ffeithiol ac yna’n mynd ymlaen i ofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda’i phartneriaid yn y GIG ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol. Hyd yn hyn, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth y bydd symud canolfan ymhellach i ffwrdd o ganolbarth neu ogledd Cymru, fel sy'n cael ei gynnig, o fudd i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny ac sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hynny. Mae'r cynigion wedi achosi cryn dipyn o bryder ymhlith y cyhoedd. Rydym wedi gweld papur, deiseb ar-lein, gyda dros 20,000 o bobl yn galw am gadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon—ac wrth gwrs, mae llawer o bobl a lofnododd y ddeiseb hefyd yn rhoi arian i’r gwasanaeth—ac yn mynegi eu pryderon ynghylch canoli gwasanaethau'r canolfannau hyn mewn un lleoliad.

Nawr, rwy’n cynrychioli etholaeth yng nghanolbarth Cymru, felly gallaf sôn am y safbwyntiau yn y canolbarth, a gwn y bydd cyd-Aelodau sy’n cynrychioli gogledd Cymru yn gwneud pwyntiau tebyg. Mae pobl yn y Gymru wledig yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wael, mae gennym seilwaith ffyrdd gwael, ac mae llawer o wasanaethau cyhoeddus yn dirywio’n raddol. Golyga hyn oll fod pobl wedi'u brifo'n ddifrifol gan y cynigion i gau canolfan y Trallwng. Nawr, gwnaed y cynnig gwreiddiol fis Awst diwethaf. Mae hwnnw bellach wedi'i ohirio i bob pwrpas, ac rydym yn aros nawr i gynnig pellach gael ei gyflwyno gan EASC, neu'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, gwasanaeth arall sy'n rhan o GIG Cymru, sydd wrth gwrs yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru yn y pen draw. Mae’r holl broses a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r cynigion hyn wedi bod yn ddryslyd, ac ni fyddwn yn beio’r Aelodau ar draws y Siambr hon am fethu dal i fyny â’r hyn rwyf wedi’i amlinellu hyd yn hyn.

Ym mis Awst, cyfarfûm yn gyntaf â'r elusen ambiwlans awyr i fynegi fy mhryderon i a fy nhrigolion, a dywedodd yr elusen wrthyf mai hwy oedd yn berchen ar y broses a bod yr ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i ymgynghoriad go iawn gyda'r trigolion. Cafwyd trafodaethau am gyfarfod cyhoeddus posibl ym mis Medi, a chadarnhawyd hefyd y byddent yn cyhoeddi data y mis canlynol. Wedi dweud hynny, dywedodd yr elusen yn ddiweddarach nad hwy oedd yn berchen ar y data dan sylw, ei fod yn perthyn i EMRTS Cymru, y gwasanaeth o fewn GIG Cymru. Nawr, ym mis Awst, roedd yr elusen, pan siaradais â hwy, i'w gweld yn gwbl sicr y byddai eu cynnig yn arwain at well gwasanaeth i Gymru gyfan, er nad oedd y dadansoddiad a oedd yn sail i'r cynigion wedi'i gwblhau ac yn barod i'w gyhoeddi. Ym mis Medi, mynegais fy mhryderon yma yn y Senedd wrth y Prif Weinidog am y tro cyntaf, gan dynnu sylw at y ffaith bod canolbarth Cymru wedi dioddef o ganlyniad i flynyddoedd o fynediad gwael at wasanaethau iechyd, a chan bwysleisio hefyd nad oes gennym unrhyw ysbyty cyffredinol dosbarth yn fy etholaeth i nac yn sir Powys, a bod y cysylltiadau ffyrdd yn wael iawn. Felly, mae’n hollbwysig fod gennym fynediad at wasanaethau brys da a bod modd trosglwyddo pobl yn gyflym at ofal brys os oes angen.

Gofynnais i’r Prif Weinidog gyhoeddi’r data a oedd yn sail i’r cynigion, a dywedodd y Prif Weinidog nad yw’r data a oedd yn sail i’r cynigion yn eiddo—. Dywedodd fod y data a oedd yn sail i'r cynigion yn eiddo i'r elusen, er bod yr elusen wedi dweud oddeutu'r un pryd mai gwasanaeth EMRTS GIG Cymru oedd yn berchen arno. Pan godais hyn yn y datganiad busnes ym mis Hydref gyda’r Trefnydd, roedd y Trefnydd fel pe bai'n awgrymu nad oedd y data’n barod i’w gyhoeddi, sy’n awgrymu mai GIG Cymru a Llywodraeth Cymru sy’n berchen arno. Felly, os yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd dilyn a deall y broses hon a phwy sy'n gyfrifol am arwain hyn a phwy sy'n gyfrifol am y data, rwy'n gofyn pa mor anodd yw hi i'r cyhoedd ei dilyn.

Rydym wedi cael darlun ychydig yn gliriach bellach. Ym mis Hydref, cyhoeddodd tîm EASC GIG Cymru eu bod bellach yn arwain y cynigion ger ein bron, ac mai prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans a fyddai'n gyfrifol am y broses ymgysylltu—prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans, Stephen Harrhy, sydd bellach yn arwain y broses honno. Yn ddiddorol, pan gyfarfûm â’r elusen fis diwethaf, roeddent yn dweud nad eu cynnig hwy ydoedd bellach; roeddent bellach yn ymgyngoreion yn y cynigion eu hunain. Felly, cyhoeddodd EASC ddiweddariad yr wythnos diwethaf—dyma fe—gyda logo GIG Cymru arno, ac mae hwn yn dweud yn glir mai hwy fydd yn penderfynu ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Felly, rwy'n gobeithio y gall pawb dderbyn ac y gall y Gweinidog gadarnhau mai penderfyniad i GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yw hwn—mae hynny’n amlwg. A dyna pam na fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, gan y credaf ei fod yn gamarweiniol. Roedd yn amlwg fod Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn rhan o’r broses.

Hoffwn herio rhai o’r rhagdybiaethau a wnaed yn y cynnig gwreiddiol. Gallai ambiwlans awyr Cymru ymateb i hyd at 583 o ddigwyddiadau ychwanegol bob blwyddyn. Roedd hyn yn rhan fawr o'r cynnig i gau'r ddwy ganolfan; roedd yn elfen allweddol. Nawr, ni ddylai hyn ymwneud â'r digwyddiadau yr ymatebwyd iddynt, dylai ymwneud ag ymateb i'r digwyddiadau mwyaf hanfodol, y byddwn yn awgrymu eu bod yn mynd i fod yn rhannau mwyaf gwledig Cymru, oherwydd y seilwaith ffyrdd gwaeth a'r amser y mae'n ei gymryd i wasanaeth brys gyrraedd digwyddiad ar y ffordd. Ac er bod yr elusen ac EMRTS i'w gweld yn gwbl hyderus gyda'u cynigion ar y pryd, ar ôl llawer o herio, credaf efallai nad yw'r ffigur o 583 yn cael ei dderbyn i'r un graddau erbyn hyn. A byddai'n ddiddorol gweld unrhyw ffigurau wedi'u diweddaru yn nogfen newydd y cynnig.

Ni chredaf fod y cynigion gwreiddiol yn adlewyrchu amodau tywydd yn ddigonol, rhywbeth a ddylai fod wedi bod yn ganolog i'r ystyriaethau o ystyried yr heriau wrth hedfan i mewn a thuag at rannau o ganolbarth a gogledd Cymru. Ac mae cynigion ar gyfer symud canolfannau hefyd yn golygu na fydd y cerbyd ymateb cyflym, sydd hefyd yn elfen bwysig o hyn, yn gyflym mewn rhannau helaeth o Wynedd a'r canolbarth os cânt hwy eu symud hefyd. Nawr, ceir ardaloedd enfawr o ganolbarth a gogledd Cymru lle mae'n cymryd dros awr i gyrraedd cyfleusterau brys ac adrannau damweiniau ac achosion brys mewn cerbyd, ac rydym wedi gweld proses ddryslyd ers mis Awst diwethaf—dryslyd i Lywodraeth Cymru hefyd, yn ôl pob golwg, a dryslyd i'r cyhoedd yng Nghymru. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda'u partneriaid yn y GIG i sicrhau bod y cynigion sydd wedi'u diweddaru yn cynnwys parhau i weithredu canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon fel bod gwasanaeth ambiwlans awyr brys digonol ar gael ledled Cymru gyfan.

Felly, wrth i’r ddadl hon symud yn ei blaen nawr, gobeithio y gallwn weithio gyda’n gilydd ar sut y gallwn gyflawni hynny, er mwyn i’r ddwy ganolfan aros ar agor. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn arwain at ganlyniad lle gall Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog ymyrryd a chaniatáu i’r broses honno ddigwydd.