– Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf yw ail ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar ad-drefnu canolfannau ambiwlans awyr Cymru, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8172 Darren Millar, Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod gwaith amhrisiadwy gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru o ran achub bywydau.
2. Yn nodi pryderon sylweddol y cyhoedd ynghylch cynigion i ganoli gwasanaeth ambiwlans awyr gogledd a chanolbarth Cymru mewn un lleoliad.
3. Yn cydnabod deisebau yn cynnwys dros 20,000 llofnod yn galw am gadw canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'i phartneriaid yn y GIG ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth gwych sy'n darparu cymorth hanfodol i bobl Cymru. Ffurfiwyd yr elusen ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2021, ac mae’n gweithredu o ganolfannau ledled Cymru. Mae’r staff a’r ymarferwyr yn hynod fedrus—dylwn ddweud eu bod yn cael eu cyflogi gan y GIG eu hunain, ac maent yn darparu rhai o’r gwasanaethau achub bywyd gorau yn y byd, a gallant ddarparu trallwysiadau gwaed a chynnal llawdriniaethau brys yn lleoliad y digwyddiad cyn hedfan y claf yn syth at ofal arbenigol.
Mae’r elusen yn gweithio 365 diwrnod y flwyddyn, ac rwyf am gofnodi pa mor ddiolchgar rwyf i am eu gwasanaeth anhygoel. Nid yn aml yr af i ddigwyddiad elusennol yng nghanolbarth Cymru lle nad yw’r rhoddion yn mynd tuag at yr elusen ambiwlans awyr. Daeth cynigion i’r amlwg fis Awst diwethaf mewn datganiad gan y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, neu EMRTS, ac elusen ambiwlans awyr Cymru, a oedd yn nodi eu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau, yn cynnwys cynlluniau i gau canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon. Fel llawer o bobl eraill, cefais fy synnu a fy siomi gan y cyhoeddiad hwn. Yn aml, rwy’n clywed am gau banc neu gau ysgol ac rwy’n siomedig, ond nid wyf yn synnu. Ar yr achlysur hwn, roeddwn wedi fy synnu; cefais fy synnu bod yna gynnig yn cael ei ystyried hyd yn oed.
Mae ein cynnig heddiw, a gyflwynwyd ar y cyd â Phlaid Cymru, yn nodi nifer o bwyntiau ffeithiol ac yna’n mynd ymlaen i ofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda’i phartneriaid yn y GIG ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru i sicrhau bod canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn parhau i fod yn weithredol. Hyd yn hyn, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth y bydd symud canolfan ymhellach i ffwrdd o ganolbarth neu ogledd Cymru, fel sy'n cael ei gynnig, o fudd i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny ac sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hynny. Mae'r cynigion wedi achosi cryn dipyn o bryder ymhlith y cyhoedd. Rydym wedi gweld papur, deiseb ar-lein, gyda dros 20,000 o bobl yn galw am gadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon—ac wrth gwrs, mae llawer o bobl a lofnododd y ddeiseb hefyd yn rhoi arian i’r gwasanaeth—ac yn mynegi eu pryderon ynghylch canoli gwasanaethau'r canolfannau hyn mewn un lleoliad.
Nawr, rwy’n cynrychioli etholaeth yng nghanolbarth Cymru, felly gallaf sôn am y safbwyntiau yn y canolbarth, a gwn y bydd cyd-Aelodau sy’n cynrychioli gogledd Cymru yn gwneud pwyntiau tebyg. Mae pobl yn y Gymru wledig yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wael, mae gennym seilwaith ffyrdd gwael, ac mae llawer o wasanaethau cyhoeddus yn dirywio’n raddol. Golyga hyn oll fod pobl wedi'u brifo'n ddifrifol gan y cynigion i gau canolfan y Trallwng. Nawr, gwnaed y cynnig gwreiddiol fis Awst diwethaf. Mae hwnnw bellach wedi'i ohirio i bob pwrpas, ac rydym yn aros nawr i gynnig pellach gael ei gyflwyno gan EASC, neu'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, gwasanaeth arall sy'n rhan o GIG Cymru, sydd wrth gwrs yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru yn y pen draw. Mae’r holl broses a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r cynigion hyn wedi bod yn ddryslyd, ac ni fyddwn yn beio’r Aelodau ar draws y Siambr hon am fethu dal i fyny â’r hyn rwyf wedi’i amlinellu hyd yn hyn.
Ym mis Awst, cyfarfûm yn gyntaf â'r elusen ambiwlans awyr i fynegi fy mhryderon i a fy nhrigolion, a dywedodd yr elusen wrthyf mai hwy oedd yn berchen ar y broses a bod yr ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i ymgynghoriad go iawn gyda'r trigolion. Cafwyd trafodaethau am gyfarfod cyhoeddus posibl ym mis Medi, a chadarnhawyd hefyd y byddent yn cyhoeddi data y mis canlynol. Wedi dweud hynny, dywedodd yr elusen yn ddiweddarach nad hwy oedd yn berchen ar y data dan sylw, ei fod yn perthyn i EMRTS Cymru, y gwasanaeth o fewn GIG Cymru. Nawr, ym mis Awst, roedd yr elusen, pan siaradais â hwy, i'w gweld yn gwbl sicr y byddai eu cynnig yn arwain at well gwasanaeth i Gymru gyfan, er nad oedd y dadansoddiad a oedd yn sail i'r cynigion wedi'i gwblhau ac yn barod i'w gyhoeddi. Ym mis Medi, mynegais fy mhryderon yma yn y Senedd wrth y Prif Weinidog am y tro cyntaf, gan dynnu sylw at y ffaith bod canolbarth Cymru wedi dioddef o ganlyniad i flynyddoedd o fynediad gwael at wasanaethau iechyd, a chan bwysleisio hefyd nad oes gennym unrhyw ysbyty cyffredinol dosbarth yn fy etholaeth i nac yn sir Powys, a bod y cysylltiadau ffyrdd yn wael iawn. Felly, mae’n hollbwysig fod gennym fynediad at wasanaethau brys da a bod modd trosglwyddo pobl yn gyflym at ofal brys os oes angen.
Gofynnais i’r Prif Weinidog gyhoeddi’r data a oedd yn sail i’r cynigion, a dywedodd y Prif Weinidog nad yw’r data a oedd yn sail i’r cynigion yn eiddo—. Dywedodd fod y data a oedd yn sail i'r cynigion yn eiddo i'r elusen, er bod yr elusen wedi dweud oddeutu'r un pryd mai gwasanaeth EMRTS GIG Cymru oedd yn berchen arno. Pan godais hyn yn y datganiad busnes ym mis Hydref gyda’r Trefnydd, roedd y Trefnydd fel pe bai'n awgrymu nad oedd y data’n barod i’w gyhoeddi, sy’n awgrymu mai GIG Cymru a Llywodraeth Cymru sy’n berchen arno. Felly, os yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd dilyn a deall y broses hon a phwy sy'n gyfrifol am arwain hyn a phwy sy'n gyfrifol am y data, rwy'n gofyn pa mor anodd yw hi i'r cyhoedd ei dilyn.
Rydym wedi cael darlun ychydig yn gliriach bellach. Ym mis Hydref, cyhoeddodd tîm EASC GIG Cymru eu bod bellach yn arwain y cynigion ger ein bron, ac mai prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans a fyddai'n gyfrifol am y broses ymgysylltu—prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans, Stephen Harrhy, sydd bellach yn arwain y broses honno. Yn ddiddorol, pan gyfarfûm â’r elusen fis diwethaf, roeddent yn dweud nad eu cynnig hwy ydoedd bellach; roeddent bellach yn ymgyngoreion yn y cynigion eu hunain. Felly, cyhoeddodd EASC ddiweddariad yr wythnos diwethaf—dyma fe—gyda logo GIG Cymru arno, ac mae hwn yn dweud yn glir mai hwy fydd yn penderfynu ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Felly, rwy'n gobeithio y gall pawb dderbyn ac y gall y Gweinidog gadarnhau mai penderfyniad i GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yw hwn—mae hynny’n amlwg. A dyna pam na fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, gan y credaf ei fod yn gamarweiniol. Roedd yn amlwg fod Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn rhan o’r broses.
Hoffwn herio rhai o’r rhagdybiaethau a wnaed yn y cynnig gwreiddiol. Gallai ambiwlans awyr Cymru ymateb i hyd at 583 o ddigwyddiadau ychwanegol bob blwyddyn. Roedd hyn yn rhan fawr o'r cynnig i gau'r ddwy ganolfan; roedd yn elfen allweddol. Nawr, ni ddylai hyn ymwneud â'r digwyddiadau yr ymatebwyd iddynt, dylai ymwneud ag ymateb i'r digwyddiadau mwyaf hanfodol, y byddwn yn awgrymu eu bod yn mynd i fod yn rhannau mwyaf gwledig Cymru, oherwydd y seilwaith ffyrdd gwaeth a'r amser y mae'n ei gymryd i wasanaeth brys gyrraedd digwyddiad ar y ffordd. Ac er bod yr elusen ac EMRTS i'w gweld yn gwbl hyderus gyda'u cynigion ar y pryd, ar ôl llawer o herio, credaf efallai nad yw'r ffigur o 583 yn cael ei dderbyn i'r un graddau erbyn hyn. A byddai'n ddiddorol gweld unrhyw ffigurau wedi'u diweddaru yn nogfen newydd y cynnig.
Ni chredaf fod y cynigion gwreiddiol yn adlewyrchu amodau tywydd yn ddigonol, rhywbeth a ddylai fod wedi bod yn ganolog i'r ystyriaethau o ystyried yr heriau wrth hedfan i mewn a thuag at rannau o ganolbarth a gogledd Cymru. Ac mae cynigion ar gyfer symud canolfannau hefyd yn golygu na fydd y cerbyd ymateb cyflym, sydd hefyd yn elfen bwysig o hyn, yn gyflym mewn rhannau helaeth o Wynedd a'r canolbarth os cânt hwy eu symud hefyd. Nawr, ceir ardaloedd enfawr o ganolbarth a gogledd Cymru lle mae'n cymryd dros awr i gyrraedd cyfleusterau brys ac adrannau damweiniau ac achosion brys mewn cerbyd, ac rydym wedi gweld proses ddryslyd ers mis Awst diwethaf—dryslyd i Lywodraeth Cymru hefyd, yn ôl pob golwg, a dryslyd i'r cyhoedd yng Nghymru. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda'u partneriaid yn y GIG i sicrhau bod y cynigion sydd wedi'u diweddaru yn cynnwys parhau i weithredu canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon fel bod gwasanaeth ambiwlans awyr brys digonol ar gael ledled Cymru gyfan.
Felly, wrth i’r ddadl hon symud yn ei blaen nawr, gobeithio y gallwn weithio gyda’n gilydd ar sut y gallwn gyflawni hynny, er mwyn i’r ddwy ganolfan aros ar agor. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn arwain at ganlyniad lle gall Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog ymyrryd a chaniatáu i’r broses honno ddigwydd.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cynnal gwaith ymgysylltu ffurfiol fel rhan o adolygiad o wasanaeth Gwasanaethau Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru.
Yn nodi mai bwriad yr adolygiad yw sicrhau bod y cleifion y mae angen y gwasanaeth arnynt yn gallu ei gael, waeth ble maent yn byw yng Nghymru neu ba bryd y mae arnynt ei angen.
Yn nodi nad oes unrhyw opsiynau na chynigion wedi'u cytuno eto, na phenderfyniadau wedi eu gwneud.
Yn ffurfiol.
Wedi ei gynnig. Rhun ap Iorwerth, felly.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac mae Plaid Cymru yn falch iawn o allu cyd-gyflwyno'r cynnig yma. Mae'n bwysig iawn bod yna gefnogaeth ar draws y pleidiau yn fan hyn, a dwi yn apelio ar Aelodau ar y meinciau Llafur i gefnogi'r cynnig.
Gadewch i fi fynd â chi nôl i fis Awst, tafarn y Tarw, y Bull, yn Llannerch-y-medd. Dwi ddim yn gwybod sut yn union i ddisgrifio extravaganza cymunedol y cneifio cylch. Oedd, mi oedd yna gneifio yno, ond mi oedd yna ffair yno, mi oedd yna wledd a pharti, mi oedd yna ocsiwn yno, ac mi godwyd £50,000 mewn un prynhawn, un gyda'r nos, a'r arian i gyd yn mynd i'r ambiwlans awyr. Pam? Achos mae pawb yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth yma a beth mae'n ei olygu i'n cymunedau mwy gwledig ni, yn yr achos yna. Ydy, mae'n wasanaeth ar gyfer pob rhan o Gymru, y trefol a'r gwledig, ond un o'r gyrwyr mawr, wrth gwrs, y tu ôl i'r gwasanaeth pan sefydlwyd o oedd y ffaith bod yna gymaint o Gymru ymhell o ysbyty, yn anodd ei chyrraedd gan ambiwlans, neu ymhell o ofal iechyd arbenigol.
Dros amser, mi dyfodd y gwasanaeth—un, dau, tri, wedyn pedwar hofrennydd, efo dyfodiad timau arbenigol EMRTS wedyn, wrth gwrs, yn trawsnewid pethau, ac, erbyn hyn, mae hwn yn wasanaeth ym mhob rhan o Gymru, pob rhan o fewn cyrraedd hofrennydd, gyda Chaernarfon a'r Trallwng rhyngddyn nhw yn gwasanaethu'r gogledd-orllewin, y gogledd-ddwyrain a'r canolbarth. Ond rŵan mae hynny dan fygythiad. Y bwriad yw cau'r ddau safle yna, Caernarfon a'r Trallwng, a symud i un newydd, yng nghanol y gogledd yn rhywle, a dwi'n ofni bod hynny am fod yn gamgymeriad, os caiff o ddigwydd. Pam mae hyn hyd yn oed yn cael ei gynnig? Yn syml iawn, yn ôl EMRTS, mi fydd mwy o bobl yn gallu cael eu cyrraedd, nifer uwch; mi fydd mwy o alwadau yn gallu cael eu hateb gan dimau'r ambiwlans awyr—o'r awyr, neu gan eu fflyd o gerbydau. Achos, cofiwch, mae hwn yn wasanaeth sy'n gweithio mewn dwy ffordd—cerbydau ar y ffordd a hofrenyddion. Ond dwi'n ofni mai mater o geisio cyrraedd targed ystadegol ydy hyn, yn hytrach nag ystyried gwir bwrpas y gwasanaeth ambiwlans awyr. Os bydd yn bosib cyrraedd mwy o bobl—mae EMRTS yn dweud y bydd—a gwireddu'r uchelgais ystadegol, wel, dwi'n ofni mai drwy wasanaethu mwy o bobl yn ardaloedd mwy poblog y gogledd-ddwyrain fydd hynny yn cael ei gyflawni, a hynny ar draul poblogaeth yr ardaloedd mwyaf gwledig. Rŵan, fel y dywedais i, mae hwn yn wasanaeth i bob rhan o Gymru, ac mae'n bwysig bod EMRTS yn gallu cyrraedd gymaint â phosib o bobl yn y gogledd-ddwyrain hefyd. Felly, onid yr ateb ydy i roi tîm efo cerbyd ffordd yn yr ardal honno, tîm fyddai yn gallu gyrraedd ardal eang iawn yn gyflym, efo hofrenyddion wrth gwrs yn dal ar gael o'u bases presennol hefyd, os oes angen hynny?
Wrth gau Caernarfon a’r Trallwng, nid dim ond yr hofrenyddion fyddai’n mynd yna, mi fyddai’r cerbydau hefyd, a does dim angen arbenigwr ar ddaearyddiaeth Cymru i sylweddoli bod ceisio gwasanaethu gogledd Môn, pendraw Pen Llŷn, de Meirionnydd neu Bowys o Rhuddlan efo car fel gwasanaeth brys byth yn mynd i weithio.
Yr hyn rydym wedi gofyn amdano yw adolygiad gwirioneddol annibynnol o'r cynnig a'r ystadegau sy'n sail iddo. Nid oedd y system fodelu a ddefnyddiwyd wedi'i chynllunio ar gyfer y math hwn o beth. Eisoes mae llawer o'r cleifion ychwanegol y mae'n debyg y gellid eu cyrraedd wedi cael sylw drwy welliannau i ganolfan Caerdydd. A ydych yn cofio'r adroddiadau diweddar ar y gwasanaeth yn tynnu sylw at yr angen i wella gwasanaeth Caernarfon? Ni fydd ei ddileu byth yn welliant. Hyd yn oed gydag un o'r hofrenyddion â gallu i hedfan yn y nos, rhywbeth y byddem i gyd yn ei groesawu, cofiwch fod hynny'n golygu symud un o hofrenyddion Caernarfon/y Trallwng i shifft prynhawn, sy'n golygu y byddai gennych ardal ddaearyddol enfawr yn cael ei gwasanaethu gan un hofrennydd yn unig am lawer o amser, ac yn y senario honno, mae ardaloedd mwy poblog y gogledd-ddwyrain unwaith eto yn debygol o bwyso'n drwm ar adnoddau.
Nid fy ofnau i yn unig yw'r rhain, ond ofnau gweithredwyr yr ambiwlans awyr, sy'n nodi'r amser hedfan llawer hirach i rai cymunedau, ac ofnau meddygon a pharafeddygon. A gadewch imi orffen gydag un pwynt pwysig iawn: mae'r ambiwlans awyr yn arf recriwtio pwerus tu hwnt. Os cewch wared ar eu canolfan yng Nghaernarfon er enghraifft, mae'r abwyd gwerthfawr iawn hwnnw i ddenu meddygon meddygaeth frys newydd i Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, yn diflannu.
Felly, gadewch inni gamu'n ôl o'r dibyn yma, gadewch inni ymgysylltu'n iawn, gadewch inni adolygu'r hyn y mae'r cynnig hwn yn ei olygu yn annibynnol, ac osgoi peryglu'r ewyllys da a'r gefnogaeth anhygoel a haeddiannol a ddangoswyd i ambiwlans awyr Cymru gan y cyhoedd ym mhob rhan o Gymru.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Russell George am agor y ddadl hon a’i ymdrechion yn yr ymgyrch i dynnu sylw at y mater ar lwyfan cenedlaethol. Mae’r ambiwlans awyr yn hanfodol i bobl canolbarth Cymru, ac mae’n rhaff achub i’r bobl sy’n byw yno. Fel ardal wledig, nid oes gennym lawer o’r pethau y mae pobl mewn rhannau mwy poblog o Gymru yn eu cymryd yn ganiataol. Wyddoch chi, mae'n un o fendithion ac yn un o felltithion byw mewn ardal wledig nad oes gennym y gwasanaethau y mae rhannau eraill o Gymru yn dibynnu arnynt. O ganlyniad, mae gan wasanaethau fel ambiwlans awyr Cymru fwy fyth o rôl. Mae'n llythrennol yn achub bywydau llawer o bobl yn fy etholaeth. Bydd cau canolfan y Trallwng yn lleihau gallu’r ambiwlans awyr i gyflawni ei rôl yn fy ardal i. Dyma ble mae ei angen fwyaf; bydd yn golygu amseroedd teithio hirach i’r ambiwlans awyr sy’n dod o ogledd Cymru a llai o allu i gyrraedd lle mae angen iddo gyrraedd mewn tywydd gwael, rhywbeth sydd wedi’i nodi gan lawer o bobl.
Mae amseroedd ymateb araf ambiwlansys mewn rhannau o’r canolbarth hefyd yn broblem fawr, a hefyd y diffyg darpariaeth iechyd—fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Russell George—nad oes gennym ysbyty cyffredinol dosbarth, ac mae hyn eto’n golygu bod yr ambiwlans awyr yn chwarae rôl fwy hanfodol. Mae'n bendant yn achub bywydau, ac mae'r cyhoedd yn y canolbarth ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn gwybod hyn. Wrth gwrs, nid ar bobl fy etholaeth yn unig y mae hyn yn effeithio; mae’r ambiwlans awyr weithiau’n croesi'r ffin i swydd Henffordd a swydd Amwythig i helpu pobl sydd wedi cael damweiniau mawr yno, ac os caiff y ganolfan ei symud i ogledd Cymru, bydd hynny’n effeithio ar y modd y darperir y cymorth hwnnw i helpu’r bobl dros y ffin sydd angen y cymorth hwnnw pan fo'i angen. Felly, bydd hyn yn cael ei deimlo ymhell y tu hwnt i ganolbarth Cymru'n unig; bydd yn cael ei deimlo i mewn i Loegr hefyd.
Felly, yn ddiweddar, bûm mewn cyfarfod cyhoeddus yn Nhrefyclo a drefnwyd gan ymgyrch Achub Ambiwlans Awyr Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i’w holl waith caled a’r hyn y maent yn ei wneud yn arwain yr ymgyrch hon. Roedd ymgyrchwyr, aelodau o’r cyhoedd a chynghorwyr lleol yn bresennol yn y digwyddiad yn Nhrefyclo, ac roedd yr angerdd sydd gan bobl leol dros ein hambiwlans awyr yn amlwg yn y cyfarfod hwnnw. Mae’r swm o arian a godir ar gyfer yr ambiwlans awyr yn aruthrol; mae'n debyg ei bod yn un o'r elusennau a ariennir orau yng Nghymru, gan fod pobl ledled Cymru'n deall pa mor bwysig ydyw. Felly, os bydd yn cael ei symud a'i fod yn diflannu, bydd yn cael effaith ddinistriol ar bobl Powys a fy etholaeth i, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Russell George.
Wrth gwrs, mae’n siomedig fod y broses ymgynghori wedi’i gohirio, ond rydym yn deall bod pwysau enfawr ar y GIG a bod angen y staff i fynd i’r afael â’r problemau hynny. Ond pan fydd yr ymgynghoriad yn ailgychwyn ac yn ôl ar y trywydd iawn, rwy'n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad hwnnw’n eang, yn agored ac yn dryloyw iawn, gan ei bod yn amlwg fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd o blaid cadw’r ganolfan ambiwlans awyr yn y Trallwng ac yng nghanolbarth Cymru.
Yn flaenorol, cyfarfûm â phrif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans a mynegais fy mhryderon ynglŷn â'r cynnig hwn a gofyn iddo am eglurder ynghylch canlyniadau unrhyw symud posibl. Wrth i’r broses ymgynghori fynd rhagddi, rwy'n gobeithio y cawn yr eglurder yr hoffem ei gael ac y gellir taflu mwy o oleuni ar y data—ac mae fy nghyd-Aelod Russell George wedi dweud hyn hefyd. Ond gadewch imi ddweud yn glir: mae cadw'r canolfannau ambiwlans awyr Cymru yng Nghymru o'r pwys mwyaf i bawb, ac os cânt eu cau, bydd bywydau'n cael eu colli yn fy etholaeth i a thu hwnt.
Rwy’n falch o ymgyrchu dros gadw’r ganolfan ambiwlans awyr yn y Trallwng ochr yn ochr â fy holl gyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig yma, a fy nghyd-Aelodau ar ochr arall y Siambr ym Mhlaid Cymru. Galwaf ar Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid i wneud popeth a allant i sicrhau bod y ganolfan ambiwlans yn aros yn y Trallwng ac i sefyll dros bobl canolbarth Cymru. Dywedaf wrth bleidiau gwleidyddol eraill yn y Siambr: os gwelwch yn dda, cefnogwch ein cynnig heddiw er budd y bobl a bywydau pobl yng nghanolbarth Cymru. Mae angen y gwasanaeth hwn arnom yn y canolbarth, felly peidiwch â chael gwared ar ein rhaff achub, a phleidleisiwch o blaid ein cynnig heddiw. Diolch.
Diolch i Russell George am gyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma. Rŵan, ar y cychwn fan yma, dwi am bwysleisio ein bod ni ar y meinciau yma a, gwn, y meinciau draw hefyd yn gyfeillion i'r ambiwlans awyr. Mi ydyn ni'n dod at y mater yma fel critical friends, a'r rheswm am hynny ydy oherwydd bod yr elusen gwych yma a'r gwasanaeth rhagorol y mae'n ei ddarparu mor ofnadwy o bwysig i Ddwyfor Meirionnydd a chymunedau eraill y gogledd a'r canolbarth. Dwi wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ym Mhorthmadog, Tywyn a Phwllheli, ac mae'r cannoedd o bobl sydd wedi mynychu'r cyfarfodydd yna a sôn am eu straeon personol a'u profiadau nhw yn dyst i werth amhrisiadwy'r gwasanaeth yma.
Gadewch inni beidio ag anghofio i'r ambiwlans awyr ddod i ogledd Cymru yn dilyn ymgyrch gan Nia Evans o Ddolgellau yn dilyn damwain car erchyll a gafodd hi a'i hannwyl ddyweddi ar y pryd, Kieron Wilkes, ger Harlech nôl yn 2002. Tristwch yr hanes hwnnw, wrth gwrs, ydy i Mr Wilkes golli ei fywyd, ond achubwyd bywyd Nia ar ôl i ambiwlans awyr yr heddlu ei chymryd hi i Ysbyty Gwynedd. Fe ddeisebodd Nia yn llwyddiannus i gael canolfan ambiwlans awyr yn y gogledd. Felly, ystyriwch ardal Harlech, neu Langrannog neu Langynog; maen nhw'n ardaloedd diarffordd, gwledig, ac ymhell o bob gwasanaeth craidd. Ers hynny, mae'r elusen wedi profi i fod yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn y gogledd a'r canolbarth, efo'n cymunedau gwledig yn codi cannoedd o filoedd o bunnoedd, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, ar gyfer yr eluen, oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth yn y gwasanaeth.
Fe ges i'r fraint o fynd i Ddinas Dinlle i siarad â'r meddygon a'r gweithlu yno flwyddyn diwethaf ac mae'r holl beth yn gwbl anhygoel. Godidowgrwydd safle Dinas Dinlle ydy ei fod nepell o Ysbyty Gwynedd, sydd felly'n golygu bod gweithlu meddygol yr ambiwlans awyr yn medru gwella eu sgiliau meddygol yn yr ysbyty hefyd, sydd wrth gwrs yn cyfoethogi pawb.
Ond er mai ambiwlans awyr ydy'r enw, mae o'n llawer iawn mwy na hynny, mewn gwirionedd. Nid gwasanaeth cludo ydy'r ambiwlans awyr, ond yn hytrach ysbyty bach yn yr awyr neu ar bedair olwyn ydy o, efo pobl dawnus ac ymroddedig yn medru cyrraedd y llefydd mwyaf diarffordd er mwyn achub bywydau yn y fan a'r lle. Oherwyd mae mwy i'r ambiwlans awyr na hofrennydd.
Yr elfen bwysicaf, wrth gwrs, ydy'r meddygon sydd yn rhan o'r tîm, ond mae'r rapid response vehicles, yr RRVs, yn elfen greiddiol. I'r rhai hynny ohonoch chi sydd yn adnabod Dwyfor a Meirionnydd, mi fyddwch chi'n gwybod, er gwaethaf prydferthwch hynod yr etholaeth, mae'r môr, y llynnoedd a'r afonydd yn ein lapio ni'n aml mewn trwch o niwl a nydden. Pan fod hyn yn digwydd, gall hofrennydd ddim glanio, ac mi ydyn ni'n ddibynnol ar y cerbydau brys sydd yn rhan o wasanaeth yr elusen. Rŵan, pe canolir y gwasanaeth yn Rhuddlan, pa mor sydyn ydych chi'n meddwl y gall cerbyd ffordd RRV gyrraedd oddi yno i rywle fel Anelog ym mhen draw Llŷn, neu i Lanymawddwy? Mi fydd o'n oriau arnyn nhw'n cyrraedd. Bydd yn amhosibl iddyn nhw gyrraedd unrhyw un o'r llefydd yma mewn pryd. Felly, er gwaethaf y ffaith bod modelau cyfrifiadurol yn awgrymu y gellir achub mwy o fywydau, y gwir ydy mai ein cymunedau arfordirol a gwledig fydd yn dioddef.
Sydd yn dod â fi at fy mhwynt olaf: dwi am i'r Llywodraeth yma roi sicrwydd inni fod ganddyn nhw ffydd llwyr yn y rhaglen fodelu Optima sydd wedi cael ei defnyddio i gyfiawnhau'r argymhellion. Ffigurau iechyd Cymru, y Llywodraeth, sy'n cael eu mewnbynnu ac EMRTS sydd yn gwneud yr asesiad, felly gall y Llywodraeth ddim golchi eu dwylo o hyn. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r ffigurau'n canolbwyntio ar niferoedd y digwyddiadau y gellir eu cyrraedd, fel y soniodd Russ ynghynt, ond heb ystyried ai dyma'r digwyddiadau mwyaf angenrheidiol i'w cyrraedd, gan fod rhaglen Optima wedi'i llunio ar gyfer ambiwlansys mewn amgylchiadau mwy cyffredin, nid ei llunio ar gyfer anghenion ambiwlans awyr ar draws ardal wledig eang.
I gloi, felly, mae'r gwasanaeth yma wedi profi'i hun i fod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau ni, ac mae'r argymhellion sy'n cael eu cynnig yn awgrymu y bydd yn ein cymunedau gwledig ar eu colled. Dwi a'r bobl dwi'n eu cynrychioli yn chwilio am sicrwydd na fyddwn ni'n colli unrhyw lefel o wasanaeth yma, ac nad ymarfer mewn cyrraedd targedau ar draul lles ac iechyd pobl yn fy etholaeth i ydy hyn. Diolch yn fawr iawn.
Mae arnaf ofn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn honni ei bod o blaid gofal iechyd cyffredinol, ond mae'n profi unwaith eto nad yw hyn yn wir. Yn hytrach na bod yn hollgynhwysol, mae'n dangos ei bod o blaid gofal iechyd yn ne Cymru'n unig, gyda gogledd Cymru, unwaith eto, yn cael ei adael ar ôl gan wleidyddion ym Mae Caerdydd.
Rydym wedi galw gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru yn amhrisiadwy, a hynny’n gwbl briodol, gan ei fod yn amhrisiadwy i bobl y canolbarth a’r gogledd sy’n aml yn byw mewn cymunedau gwledig neu’n bell o’r ysbyty agosaf, fel y nodwyd. A hefyd, yn ychwanegol at hynny, mae ardaloedd y canolbarth a'r gogledd yn denu llawer o dwristiaid, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ac oherwydd daearyddiaeth yr ardal, mae'n denu llawer o bobl sy'n awyddus i wneud gweithgareddau awyr agored, sydd, er mor bleserus ydynt, yn gallu creu risg. Ac yn anffodus, byddwch bob amser yn gweld pobl sy'n fodlon dringo'r Wyddfa yn yr haf mewn siorts, crysau-T a fflip-fflops, sydd, yn amlwg, yn creu risg uwch, a dyna pam fod angen y gwasanaethau hanfodol hyn arnom mewn ardaloedd gwledig er mwyn darparu ar gyfer anghenion yr ardal.
Dro ar ôl tro, mae trigolion yn cael eu hynysu fwyfwy gan bolisïau Llywodraeth Cymru ac yn teimlo, yn gwbl briodol, eu bod wedi cael eu gadael ar ôl o gymharu â phobl i lawr yma yng Nghaerdydd. Mae perygl na fydd canolfan gyfunol yn y gogledd yn ychwanegu unrhyw fudd i’r gwasanaeth nac i’r rheini sydd ei angen fwyaf, ac rwy’n llwyr gefnogi’r status quo o ran cadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon yn weithredol fel y gallant wneud y gwaith da a wnânt yn ddyddiol. Rwy'n cymeradwyo'r 20,000 o drigolion sydd wedi llofnodi deiseb i atal y canolfannau rhag cau, a’r rheini sydd wedi cymryd rhan mewn ymgyrch godi baneri. Mae hyn yn dangos bod trigolion am i Lywodraeth Cymru yma ym Mae Caerdydd wrando ar eu pryderon dwys ynglŷn â'r GIG, ac mae hefyd yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru'n ystyried y darlun ehangach. Drwy gael gwared ar argaeledd ambiwlans awyr i bobl yn y canolbarth a’r gogledd, bydd yn ychwanegu at y pwysau ar ambiwlansys a’r amseroedd aros a welwn o ddydd i ddydd ar draws ein gwasanaethau gofal iechyd, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Felly, rwy’n annog holl Aelodau’r Senedd i gefnogi ein cynnig heb welliannau y prynhawn yma. Diolch.
Hoffwn i ddechrau drwy gofnodi fy niolch i a phawb, dwi'n siŵr, yma i'r gwirfoddolwyr hynny sy'n rhan o grwpiau fel Achub Ambiwlans Awyr Cymru—y Trallwng am eu gwaith diflino yn codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n cael eu trafod yma y prynhawn yma.
Mae’r ffaith bod dros 20,000 o lofnodion, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, sy’n gwrthwynebu cau canolfan y Trallwng yn dangos cryfder y teimlad lleol tuag at y gwasanaeth, gan ymgorffori’r berthynas arbennig sy’n bodoli rhwng yr ambiwlans awyr a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae'r berthynas hon yn adlewyrchu’r ffaith bod cannoedd o fywydau wedi cael eu hachub gan yr ambiwlans awyr, ac mae’n cael ei hadlewyrchu ymhellach, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, gan y miloedd o bunnoedd sy’n cael eu cyfrannu’n flynyddol gan bobl ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, sy’n rhoi’n hael o’u pocedi i gefnogi’r elusen arbennig yma. Mae’n siom bod gwreiddiau cymunedol yr ambiwlans awyr, a’r ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol, yn cael eu peryglu gan y cynlluniau i adleoli’r gwasanaeth.
Fel yr amlygwyd eisoes yn ystod y ddadl hon, mae llawer o gymunedau yn y canolbarth yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl i raddau mwy a mwy o ran eu mynediad at ddarpariaeth iechyd ehangach. Nid oes ysbyty cyffredinol ym Mhowys, ac mae'r gwasanaethau a oedd ar gael yn flaenorol—yn Llanidloes a'r Drenewydd, er enghraifft—wedi cael eu hisraddio, ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn parhau i fod yn gywilyddus o bell o gyrraedd targedau hanfodol. O dan bwysau ehangach cyni, mae’r dirywiad hwn mewn gwasanaethau yn aml wedi’i gyfiawnhau gan natur wasgaredig a gwledigrwydd poblogaeth y canolbarth. Er gwaethaf rhybuddion cyson gan Blaid Cymru am y canlyniadau hirdymor, cafwyd ymgyrch hanesyddol i ganoli gwasanaethau mewn lleoliadau mwy trefol, ac o'r herwydd, rydym yn gweld canlyniadau enbyd hyn yn dod i'r amlwg y gaeaf hwn.
Natur wledig cymunedau'r canolbarth a'r gorllewin yw'r union reswm pam fod ymateb brys lleol effeithiol yn fwy hanfodol byth. Mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio, niferoedd uchel o bobl yn gwneud gweithgareddau awyr agored, llawer iawn o ffermio a gweithgaredd amaethyddol, a ffyrdd mwyaf peryglus Prydain fel y cydnabuwyd yn ddiweddar. Golyga hyn oll fod ein cymunedau gwledig yn frith o argyfyngau meddygol posibl, y mae ymatebion amserol iddynt yn hollbwysig ac yn anodd oherwydd y ddaearyddiaeth gymhleth. Er bod darpariaeth gofal iechyd lleol wedi'i thorri i'r asgwrn yn y cymunedau hyn, yr ambiwlans awyr yw'r un peth cyson—sy'n cael ei ystyried gan lawer yn rhwyd ddiogelwch hanfodol.
Rwy'n cydnabod bod yr ambiwlans awyr wedi addo y bydd yr ymateb sydyn hwn yn parhau mewn unrhyw achos o ganoli, ac yn sicr rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwnnw. Fodd bynnag, fel eraill, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch yr effaith y gallai unrhyw ganoli ei chael ar effeithiolrwydd, fel yr oedd Mabon yn sôn amdano yn gynharach, y gwasanaeth cerbyd ymateb cyflym—y rapid response vehicle—sy'n cael ei ddarparu gan yr elusen. Rŷm ni wedi gweld yn y Trallwng, ac mewn mannau eraill, fod y gwasanaeth ymateb hwn wedi bod yn hanfodol ar adegau pan nad yw’r hofrennydd wedi gallu hedfan oherwydd, efallai, tywydd gwael. Yn wir, yn 2021, o’r 3,544 o deithiau ymateb a wnaed gan ambiwlans awyr Cymru ledled Cymru, roedd bron i hanner y rhain—47 y cant—wedi’u gwneud gan gerbyd ymateb cyflym.
Rwy'n bryderus, felly, y bydd canoli’r cerbydau hyn yng ngogledd Cymru'n amharu’n sylweddol ar effeithiolrwydd cerbydau ymateb cyflym. Ac ar adeg pan fo straen mor ddifrifol ar y gwasanaeth ambiwlans, mae’r pryder hwn yn arbennig o ddifrifol.
Mae’r ddadl hon wedi tynnu sylw at lawer o bethau, o gryfder y teimladau lleol, i gwestiynau ynghylch y data a ddefnyddir gan y gwasanaeth ambiwlans awyr wrth wneud penderfyniadau. Rwy'n rhannu'r holl bryderon a fynegwyd heno am oblygiadau unrhyw gynlluniau i ganoli. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru, felly, i weithio gyda’i phartneriaid yn y GIG ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru i sicrhau na fydd unrhyw ad-drefnu'n peryglu bywydau pobl sy’n byw yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Diolch i'r Ceidwadwyr ac i Russell George am osod y mater yma.
Ar draws y Siambr, rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud ein bod yn parchu gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae'n achub bywydau, ac rwy'n glir iawn y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heno. Mae canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon yn darparu rhaff achub yng nghanolbarth a gogledd Cymru ar ffurf cymorth meddygol a chludiant brys.
Fe wyddom fod gofal iechyd gwledig yn heriol. Ond mae angen mwy o ofal iechyd gwledig, nid llai, ac mae'r cynnig hwn fel y'i deallwn ar hyn o bryd yn dweud y bydd gennym lai o wasanaeth ar draws ardaloedd gwledig, yn enwedig ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, yr ardal rwy'n ei chynrychioli. Fy marn gref i yw nad yw ambiwlans awyr Cymru a GIG Cymru wedi gallu dangos drwy dystiolaeth annibynnol y bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae'r canolfannau ar hyn o bryd, ac felly mae'n wirioneddol glir fod yn rhaid inni wrthwynebu'r cynnig posibl i gau. Mae'n anodd disgrifio, mewn gwirionedd—oni bai eich bod chi'n byw, yn fy achos i, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—y gwrthwynebiad cyhoeddus cryf i'r cynnig. Mae yna ofn gwirioneddol y bydd pobl yn colli eu bywydau. Mae angen inni fod yn glir nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Nid oes siop, nid oes caffi lle rwy'n byw, a lle mae llawer ohonom yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—a'r un fath yn y gogledd hefyd efallai—lle nad oes poster yn dweud 'Achubwch Ambiwlans Awyr Cymru'. Mae llawer o bobl, fel rydych wedi clywed, yn meddwl ei fod yn ymwneud â mwy na'u bywydau hwy, bywydau eu perthnasau, bywydau eu cymdogion—mae'n ymwneud â'r ffaith eu bod wedi buddsoddi eu calonnau a'u heneidiau'n codi arian ar gyfer y gwasanaeth hollbwysig hwn.
Ers i'r cynigion hyn gael eu datgelu'n answyddogol i'r wasg, mae'n werth nodi bod yr ambiwlans awyr a GIG Cymru wedi bod yn anfodlon darparu'r data hyd yma. Mae cyfathrebu'n allweddol i hyn, a gadewch inni fod yn onest, mae wedi bod yn llanast hyd at heddiw. Mae Russell George wedi ceisio ein llywio drwy'r newidiadau, a'r cymysgwch o ran pwy sy'n gyfrifol am beth. Efallai ein bod ni wedi ei ddeall, ond ni fydd y bobl sy'n buddsoddi eu bywydau a'r ceiniogau a'r punnoedd y maent yn eu rhoi tuag ato wedi ei ddeall. Ar hyn o bryd, ni allaf weld unrhyw opsiwn ond cadw'r gwasanaeth fel y mae ac ymrwymo i gadw'r canolfannau lle maent hyd nes y ceir craffu clir, annibynnol ar y ffigurau a hyd nes y ceir cynllun cyfathrebu llawer gwell ar gyfer y data, a pharodrwydd i wrando ar y bobl y bydd hyn yn effeithio arnynt. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd, ar ran etholwyr Aberconwy—ein diolch a'n gwerthfawrogiad o gyfraniad hanfodol ein gwasanaeth ambiwlans awyr. Nawr, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru, a phob aelod o'r tîm, yn darparu gwasanaeth meddygol brys hanfodol sy'n achub bywydau pobl ddifrifol wael neu sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol ledled Cymru. Yn y 12 mis diwethaf yn unig, cafwyd sawl achlysur lle mae'r ambiwlans awyr wedi glanio ar gae chwarae lleol, ar brif ffordd brysur yma, ac amryw o lefydd eraill nad oeddwn hyd yn oed yn sylweddoli y gallai hofrennydd lanio ynddynt, ond roedd cymaint o angen eu cymorth a'u hachubiaeth. Mae'r ffaith y gall eu tîm gyrraedd claf sy'n ddifrifol wael yn unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud i gael galwad yn dyst i'w hymroddiad anhunanol. Gyda'r safon uwch o ofal y mae'r criwiau'n ei ddarparu ar safle digwyddiad, a throsglwyddo cleifion yn gyflym i ofal meddygol arbenigol ar draws Cymru, gan gynnwys dros nos, efallai y gall fod yn llawer rhy hawdd inni anghofio mai sefydliad elusennol yw hwn sy'n dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd, a fy nealltwriaeth i yw mai dyma sut y maent wedi bod eisiau iddo fod erioed. Maent wedi bod yn awyddus i fod yn wasanaeth achub annibynnol. Ond bob blwyddyn mae angen iddynt godi £8 miliwn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ddaear. Nawr, cefais y fraint o weld o lygad y ffynnon a thrafod gwaith gwych y tîm ambiwlans awyr pan ymwelais â'u canolfan weithredu yng ngogledd Cymru yn ddiweddar—wel, ychydig wythnosau yn ôl, cyn y Nadolig—gyda fy nghyd-Aelod Sam Rowlands. Fe wnaeth y gweithgarwch yn Ninas Dinlle argraff fawr ar y ddau ohonom, ac roedd yn hynod effeithlon ac yn effeithiol iawn. Fodd bynnag, rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth y mae Russell George wedi ei ddweud. Yn nyfnderoedd argyfwng y gaeaf yn ein GIG, gyda streiciau'n dal i fod heb eu datrys, mae'n ymddangos i mi mai nawr yw'r amser gwaethaf posibl i hyd yn oed feddwl am gau canolfannau gweithredu ambiwlans awyr.
Mae cwestiynau'n dal i fod heb eu hateb ynglŷn â'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar etholwyr, ac ar drigolion a fy etholwyr i ar draws gogledd Cymru gyfan. Hefyd mae angen inni wybod faint o amser y mae'n ei gymryd i'r ambiwlans awyr hedfan o Ddinas Dinlle a Rhuddlan i wahanol bwyntiau yn Aberconwy, fel y gallwn gymharu beth fydd yr effeithiau. Fel y dywedais, byddaf bob amser yn ddiolchgar iawn am y gwasanaeth y mae'r ambiwlans awyr yn ei ddarparu, ond mae gwir angen mwy o ddata—a gallai eich Llywodraeth ei ddarparu, Weinidog, neu'r sefydliad—fel y gallwn sefydlu'n ofalus pa effaith y mae'r cynigion yn mynd i'w chael ar yr etholaethau hynny a'r cleifion yr effeithir arnynt gan unrhyw gynigion i gau canolfannau.
Fel y mae nifer o bobl eraill wedi dweud, gallai cau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon nid yn unig beryglu cleifion, ond fe allai arwain at effeithiau canlyniadol i ardaloedd eraill. Mae Cymru eisoes yn dioddef amseroedd aros hwy am ambiwlansys. Yng ngogledd Cymru, yn warthus, fis Medi diwethaf yn unig cafwyd 35 o alwadau coch ar gyfer argyfyngau sy'n peryglu bywyd a gymerodd dros awr i'w cyrraedd—a gymerodd hanner awr i'w cyrraedd, gyda dwy o'r rheini'n cymryd dros awr. Rydym eisoes wedi gweld effaith y pwysau cronig hyn yn fy etholaeth i a rhanbarth gogledd Cymru, gyda digwyddiadau gofal critigol yn cael eu datgan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oherwydd y nifer helaeth o gleifion sydd angen gofal.
Mae Aberconwy, wrth gwrs, yn etholaeth sydd â phoblogaeth fawr wledig a hŷn, ac mae gennym lawer o ardaloedd sydd â ffyrdd a signal ffôn gwael, a gallant fod yn anos i ambiwlansys arferol eu cyrraedd mewn pryd. Felly, mae hyn ar ei ben ei hun yn tanlinellu pwysigrwydd hanfodol cael gwasanaeth ambiwlans awyr eang, gyda darpariaeth ddaearyddol dda ar draws pob ardal yng Nghymru. Mae'r problemau yn ein gwasanaeth ambiwlans eisoes yn ddigon difrifol heb fentro ychwanegu at y pwysau. Mae'r cynllun canoli, yn fy marn i, yn gadael gormod o gwestiynau heb eu hateb i mi ac i fy etholwyr, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r 20,000 sydd eisoes wedi arwyddo deiseb yn erbyn cau'r canolfannau. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y niferoedd hynny'n cynyddu'n ddramatig. Rydym mewn perygl o waethygu galwadau ar ein gwasanaethau ambiwlans ar yr adeg waethaf bosibl. Felly, rwy'n gofyn i bob cyd-Aelod o'r Senedd gefnogi ein cynnig—dim gwelliannau eraill, dim ond cefnogi ein cynnig—a gadewch inni sicrhau ein bod yn dangos ein cefnogaeth i'n gwasanaeth ambiwlans awyr. Diolch.
Mae llawer iawn o etholwyr wedi cysylltu â mi ar y mater yma, a'r teimlad cryf ydy fod y gogledd-orllewin mewn perygl o gael ei amddifadu o wasanaeth pwysig unwaith eto. Dwi'n gwybod cymaint y mae'r gwasanaeth yn ei olygu i bobl leol, y bywydau sydd wedi eu hachub a'r manteision o gael y gwasanaeth brys yma ar ein carreg drws ni. Felly, dwi'n galw ar Lywodraeth Cymru i brofi—i brofi—na fydd y newid sydd ar y gweill yn peryglu argaeledd ac amseroedd ymateb y gwasanaeth i'r cymunedau hynny sydd, i bob pwrpas, yn ddibynnol ar yr ambiwlans awyr mewn argyfyngau.
Mae yna neges glir yn cael ei chyflwyno yn y Senedd heddiw, a dwi'n gobeithio yn wir fod y Gweinidog yn gwrando ac yn gallu gwneud popeth o fewn ei gallu i gyflwyno'r neges yna ymlaen, ac i weithredu fel Llywodraeth hefyd. Mae'n rhaid cadw'r gwasanaeth yma yng Nghaernarfon ac yn y Trallwng.
Y Gweinidog iechyd nawr i gyfrannu at y ddadl—Eluned Morgan.
Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr am adael imi ymateb i'r ddadl wrthblaid hon.
Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy mod yn cydnabod y bartneriaeth amhrisiadwy rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru, a elwir yn EMRTS, yn achub bywydau a gwella canlyniadau yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws Cymru. Mae gwerthusiad o'r gwasanaeth rhwng 2015 a 2020 wedi nodi mwy o obaith o oroesi, gyda gostyngiad sylweddol o 37 y cant yn nifer y marwolaethau ar ôl 30 diwrnod i gleifion sy'n cael anaf di-fin. Cafodd 63% o gleifion driniaethau yn y fan a'r lle na allent fod wedi'u cael heblaw mewn ysbyty cyn hynny. Cafodd 42% o gleifion eu cludo'n syth at ofal arbenigol yn lle ysbytai lleol, gan arbed amser i'r claf ac adnoddau ychwanegol i'r GIG. Ac mae 12 meddyg ymgynghorol newydd wedi eu recriwtio i Gymru, oherwydd atyniad gweithio gydag ambiwlans awyr Cymru.
Nawr, rwy'n ymwybodol bod dryswch wedi bod ynglŷn â natur y gwasanaeth a ddarperir gan EMRTS mewn cydweithrediad â'r elusen. I egluro, fel yr esboniodd Russell, mae tîm EMRTS yn cael ei gyflogi gan GIG Cymru, sy'n talu am staff EMRTS ac offer meddygol. Mae'r rhan hon o'r gwasanaeth yn cael ei chomisiynu gan bwyllgor y gwasanaethau ambiwlans brys, sy'n gyd-bwyllgor i holl fyrddau iechyd Cymru. Mae'r elusen yn darparu'r hofrenyddion, y canolfannau awyr, y cerbydau ymateb cyflym, peilotiaid, tanwydd a pheirianwyr. Nawr, mae EMRTS yn gweithio gyda'r elusen i ddarparu gwasanaethau gofal critigol arbenigol yn y fan a'r lle i drin pobl ag anaf sy'n bygwth bywyd neu aelodau a allai arwain at farwolaeth neu anabledd. Ar gyfartaledd, mae EMRTS yn ymateb o fewn 50 munud drwy'r awyr neu 40 munud ar y ffordd. Mae hwn yn wasanaeth gofal critigol arbenigol iawn, nad yw'n cymryd lle gwasanaethau ambiwlans brys. Nid yw'n wasanaeth ymateb cyntaf ac fel yr eglurodd Mabon, mae'n mynd â'r adran frys allan at y claf.
Mae'r ddarpariaeth bresennol yn cynnwys pedwar tîm wedi eu lleoli, fel y clywsom, yn y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd. Mae hynny'n digwydd yn ystod y dydd, gyda mynediad at hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym. Ond yn y nos, ceir un tîm wedi ei leoli yng Nghaerdydd, gyda mynediad at hofrennydd a cherbyd ymateb cyflym. Ar gyfartaledd, caiff 1,100 o alwadau cleifion eu hadolygu gan ganolfan gofal critigol EMRTS bob dydd. Caiff 140 o'r galwadau hynny eu hasesu'n fanylach, a bydd tua 13 yn cael eu hasesu fel rhai sy'n addas ar gyfer ymateb EMRTS. Ond o dan y model gwasanaeth presennol, dim ond 10 claf sy'n cael ymateb EMRTS y dydd. Felly, mae cyfle i'r gwasanaeth arbenigol yma drin mwy o gleifion bob dydd yng Nghymru. Nawr, mae'r elusen, y tîm EMRTS a phwyllgor y gwasanaethau ambiwlans brys yn awyddus i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu gweld, os yw'n bosibl, er mwyn sicrhau bod cleifion sydd ei angen yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth arbenigol hwn ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru a phryd y maent ei angen. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod pob Aelod yn y Siambr hon yn rhannu'r dyhead i achub mwy o fywydau ac i sicrhau bod EMRTS a'r elusen yn gallu trin mwy o gleifion.
Fel y dywedais eisoes, mae pedwar tîm medrus iawn mewn pedair canolfan i wasanaethu Cymru gyfan, ond mae rhai'n fwy prysur nag eraill.
Mae pawb sy'n rhan o'r gwaith o gomisiynu a darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn yn awyddus i wneud yn siŵr bod yr arian sydd ar gael iddyn nhw yn cael ei wario yn y ffordd orau posibl. Bydden nhw'n hoffi lleihau nifer y cleifion sydd ddim yn cael y gwasanaeth. Ar ben hynny, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru eisiau gwneud y defnydd gorau o roddion y cyhoedd, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn datblygu cytundeb tymor hir newydd ar gyfer hofrenyddion. Dyna pam maen nhw eisiau edrych ar y sefyllfa. Mae hyn i gyd yn gyfle gwerthfawr i edrych unwaith eto ar y ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu.
Bydd yr Aelodau'n gwybod bod tîm EMRTS wedi cynllunio cynnig cynhwysfawr a chymhleth i ddatblygu'r gwasanaeth ac wedi cyflwyno hwn i'r pwyllgor gwasanaeth ambiwlans brys ym mis Tachwedd. Mae'r pwyllgor wedi ystyried y cynnwys ac wedi gofyn am fwy o wybodaeth a chraffu diduedd. Mae prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans a'r tîm wedi dechrau ar eu gwaith o'r newydd ac wedi rhoi'r cynnig datblygu gwasanaeth gwreiddiol o'r neilltu. Mae adolygiad yn cael ei gynnal o'r model gwasanaeth presennol. Mae prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans, sy'n arwain yr adolygiad ar ran y pwyllgor, wrthi'n datblygu deunyddiau i gasglu barn, a bydd y broses ffurfiol hon yn dechrau cyn gynted â phosibl. Bydd y broses adolygu a chasglu barn yn sicrhau bod y pethau cywir yn cael eu hystyried fel bod barn a phryderon yr holl bobl allweddol yn cael eu deall yn llawn. Dwi wedi gofyn i'r person sy'n arwain hwnnw i ystyried beth sydd wedi cael ei ddweud yn y Siambr yma heddiw. Rhun.
Diolch yn fawr iawn ichi. Dwi'n gwerthfawrogi eich disgrifiad chi o'r sefyllfa a dwi'n falch eich bod chi wedi gofyn i sylwadau heddiw gael eu hystyried. Gaf i ofyn eich barn chi ar un mater o egwyddor? Ydych chi'n cytuno efo fi y byddai hi'n amhriodol i gynyddu faint o gleifion sy'n cael eu cyrraedd mewn un rhan o Gymru ar draul pobl sy'n byw mewn ardaloedd eraill? Rydyn ni i gyd eisiau gweld y gwasanaeth yma'n gwella ar gyfer cymaint o bobl â phosib, ond byddai'n amhriodol gostwng lefel gwasanaeth i rai er mwyn cynyddu i eraill. Edrych ar sut i wella ar gyfer ardaloedd eraill sydd angen ei wneud.
Dwi'n meddwl bod rhai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ar y llawr yma heddiw yn rhai sy'n bwysig i'w hystyried, yn arbennig, dwi'n meddwl, y ffaith, pan fydd hi'n anodd i hofrennydd gyrraedd rhywle bod angen mynd mewn cerbyd, ac mae hwnna lot yn fwy anodd mewn ardaloedd gwledig. Dwi'n siŵr bydd hynny hefyd yn cael ei ystyried yn ystod y drafodaeth a'r ymchwiliad a'r adolygiad yma. Buaswn i'n awgrymu bod pobl yn ymateb i'r ymchwiliad. Dyna'r pwynt nawr o'r adolygiad yma a'r broses casglu barn yna—bod pobl sydd yn y Siambr a bod pobl yn ein cymunedau ni yn ymateb i hynny.
Bydd y broses yn helpu'r pwyllgor i benderfynu beth i'w wneud nesaf, gan gynnwys datblygu opsiynau i helpu i wella gwasanaethau a chynyddu nifer y cleifion sy'n derbyn ymateb gan EMRTS. Bydd y broses yn ystyried hefyd a oes angen gwneud newid i'r canolfannau gweithredu neu beidio er mwyn cyflawni'r nod yma. I fod yn glir, does dim penderfyniad wedi cael ei wneud. Fel rhan o'r gwaith casglu barn, mae'r prif gomisiynydd yn sefydlu proses gadarn i gloriannu'r opsiynau er mwyn sicrhau bod y penderfyniad gorau posibl yn cael ei wneud am ddyfodol y gwasanaeth EMRTS yng Nghymru. Cafwyd cadarnhad y bydd y broses ffurfiol yn cymryd o leiaf wyth wythnos, ac fe fydd hi'n broses gynhwysfawr, er mwyn rhoi cyfle i'r rhai sydd â diddordeb gyflwyno sylwadau. Ar ôl i hyn gael ei gwblhau, fe fyddaf i'n gwneud datganiad pellach. Diolch.
Samuel Kurtz nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Mae'n bleser mawr cael cau'r ddadl hon y prynhawn yma oherwydd fe glywsom gefnogaeth drawsbleidiol go iawn i rywbeth y credaf ei fod yn unigryw Gymreig. Mae'r Cymry'n ymfalchïo'n fawr yn y ffaith bod gennym berchnogaeth ar elusen sy'n effeithio ac sy'n gallu effeithio a dylanwadu ar fywydau pawb ym mhob cwr o'r wlad wych hon.
Wrth agor y ddadl, siaradodd Russell am y Cymreictod a sut y cafodd ei lansio ar ddydd Gŵyl Dewi 2001. Clywsom bryd hynny am y cymhlethdodau a fodolai yn dilyn y cyhoeddiad nôl ym mis Awst gan EMRTS ac ambiwlans awyr Cymru, ac fe roddodd linell amser ddefnyddiol i ni ar gyfer hynny. Mae'r nodiadau a wneuthum yn anodd eu darllen, sy'n dangos pa mor gymhleth yw hynny—rhaid ei bod yn anodd tu hwnt i leygwr geisio deall pwy oedd â'r cyfrifoldeb.
Mae'r posibilrwydd y gallai canolfan y Trallwng yng nghanolbarth Cymru gau yn berthnasol i Russell wrth gwrs. Rwy'n credu bod Russell wedi ychwanegu at y dryswch ar ôl iddo ofyn cwestiynau yn y Siambr hon ynghylch y data, y berchnogaeth a'r cyfrifoldeb. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth pwysig iawn. Ond rhoddodd Russell drosolwg defnyddiol iawn i ni o'r sefyllfa fel y bu dros y misoedd diwethaf a chaniatáu i ni weld pam fod y ddadl hon mor bwysig i ni yma heddiw.
Rhoddodd Rhun wedyn, i ddilyn Russell, gefnogaeth drawsbleidiol a soniodd am y Bull a'r elfen godi arian. Ddoe, clywsom gan Darren ynglŷn â Wetherspoons, y Bull gan Rhun heddiw—[Torri ar draws.] Tafarn go iawn—a'r £50,000 a godwyd yn yr ymdrech godi arian honno. Fe wneuthum innau, fel aelod o ffermwyr ifanc sir Benfro, feicio i Blackpool i godi arian ar gyfer ambiwlans awyr Cymru. Mae'n un o'r elusennau hynny, ble bynnag y byddwch chi, ym mhob rhan o Gymru, lle rydych chi'n teimlo eich bod wedi codi arian, ac o hynny y deillia'r berchnogaeth ar yr elusen hon a pham fod hynny mor bwysig.
Pwysleisiodd Rhun bwysigrwydd cefn gwlad Cymru a pha mor anodd yw cael mynediad at ofal iechyd brys pan fo'i angen ar draws cefn gwlad Cymru. Pwysleisiodd Rhun hefyd y ffordd roedd yn arf recriwtio pwysig i ardaloedd yng Nghymru lle ceir y canolfannau hyn—Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am hynny hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Pan fydd anawsterau recriwtio yn y GIG yng Nghymru, mae cael rhywbeth o'r ansawdd hwn yn y pedwar rhanbarth yng Nghymru yn arf go iawn y dylem ei hyrwyddo i'r eithaf, yn hytrach nag edrych ar gyfuno a chanoli mewn un ardal.
Gan symud ymlaen, clywsom wedyn gan James, un o gyd-Aelodau Russell yng nghanolbarth Cymru, a phwysigrwydd canolfan y Trallwng—unwaith eto, y natur wledig, y gwahaniaeth rhwng lleoliadau trefol a gwledig o ran y ddarpariaeth gofal iechyd, a'r amseroedd hedfan hwy, o bosibl, o ogledd Cymru. Unwaith eto, pwysleisiodd nad oedd unrhyw ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys—dyna pam fod angen yr ambiwlans awyr—a phwysigrwydd ymgyrch Achub Ambiwlans Awyr Cymru. Siaradodd yn huawdl am y gefnogaeth leol a gafodd gan aelodau o'i etholaeth.
Clywsom gan Mabon a'i awydd i fod yn ffrind beirniadol yma, oherwydd mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei garu, felly rydym eisiau bod yn gefnogol o ran sut y gallwn sicrhau bod hyn ar gael i'r pedair rhan o Gymru, ac yn enwedig canolbarth a gogledd Cymru hefyd. Unwaith eto, soniodd am y straeon personol, a stori Mr Wilkes a Nia a'r llwyddiant yn sgil trasiedi Mr Wilkes, llwyddiant i gael canolfan yng ngogledd Cymru, canolfan yng ngogledd Cymru i ambiwlans awyr Cymru, a phwysigrwydd hynny, ac unwaith eto, pwysleisiodd nad ambiwlans yn codi claf yn unig yw hwn, a mynd ag ef i leoliad. Yn ei hanfod, ysbyty â llafnau rotor ydyw, yn mynd ag arbenigedd meddygol o'r radd flaenaf i ddigwyddiad, a dyna pam mae hyn mor hynod o bwysig. Pwysleisiodd wedyn eto yr amodau tywydd yng Nghymru a sut mae'r cerbydau ymateb cyflym mor bwysig.
Siaradodd Gareth Davies am y gwahaniaeth rhwng y ddarpariaeth gofal iechyd yn y gogledd o gymharu â'r de ac yna nododd y dwristiaeth a'r gweithgareddau awyr agored, y pwysau y gall y rheini ei roi ar wasanaethau iechyd a pham mae'r ambiwlans awyr mor bwysig yng ngogledd Cymru o ran cael mynediad at hynny. Rydym yn gwybod yn iawn gan Gareth, sy'n frwd ei gefnogaeth i ddiwydiant twristiaeth gogledd Cymru, am y gweithgareddau sydd ar gael yno a pham mae'r ambiwlans awyr mor bwysig. Nododd eto yr 20,000 o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb ac sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch godi baneri. Mae ein diolch iddynt yn fawr am eu cefnogaeth i ambiwlans awyr Cymru, yr hyn y maent wedi'i wneud rhoi mwy o amlygrwydd i'r rhesymau pam mae hyn mor bwysig, yr ymgyrch i'w ddiogelu a sicrhau ei fod yn bodoli yng ngogledd Cymru a chanolbarth Cymru yn barhaus.
I symud ymlaen, fe ddiolchodd Cefin i'r staff a oedd ynghlwm wrth hyn, nid yn unig y staff meddygol, ond hefyd y peilotiaid a sgiliau'r peilotiaid, a soniodd Janet am hynny hefyd, yn gallu glanio mewn cymaint o lefydd gwahanol. Rwy'n meddwl bod hynny'n wych. Eto, pwysleisiodd Cefin y berchnogaeth leol a deimlwn mewn perthynas â chodi arian. Mae hyn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn yn fy marn i. Prin iawn yw'r elusennau yng Nghymru sy'n cyffwrdd â chymaint o fywydau ar draws pob rhan o'n gwlad, ac rwy'n meddwl mai dyna pam mae'r ddeiseb hon wedi denu cymaint o lofnodion a pham mae'r ddadl hon mor bwysig y prynhawn yma.
Clywsom gan Jane am ei chefnogaeth i'n cynnig ar y cyd â Phlaid Cymru y prynhawn yma, ac rydym yn diolch am hynny, ac unwaith eto, am y gwahaniaeth yn y ddarpariaeth gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru a sut mae hyn yn anghenraid yn y ffordd honno. Siaradodd Janet Finch-Saunders, fel y soniais, am natur fedrus y rhai a oedd yn yr hofrennydd, a chredaf fod Janet yn eiriolwr gwych dros y rheini yng ngogledd Cymru sy'n darparu'r cyfleusterau rhagorol sydd ar gael iddi i fyny yno.
Roedd Siân Gwenllian yn ddi-flewyn-ar-dafod wrth alw ar Lywodraeth Cymru i brofi nad yw newidiadau'n peryglu cleifion, ac rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig. Dylai unrhyw newidiadau fel hyn bob amser ystyried diogelwch y claf o flaen popeth arall.
Weinidog, o ystyried y gefnogaeth drawsbleidiol heddiw, rwy'n meddwl y byddai'n ddiddorol iawn pe baech chi'n fodlon cyfarfod yn drawsbleidiol i drafod hyn a darpariaeth ambiwlans awyr Cymru, yn enwedig yng ngogledd a chanolbarth Cymru, a gweld a oes ffordd ymlaen i bob un o'r canolfannau hyn barhau. Rwy'n credu y byddai'n ardderchog pe bai modd cytuno ar hynny. Ac rwyf am bwysleisio hefyd, wrth ateb cwestiynau o'r blaen ynglŷn â'r ddarpariaeth iechyd yng ngogledd Cymru, fe ddywedoch chi nad nawr yw'r amser i ad-drefnu, felly oni ddylai hynny fod yn wir ar gyfer ambiwlans awyr Cymru, o ystyried y pwysau sydd ar y GIG? Oni ddylai fod yn wir nad nawr yw'r amser i ystyried unrhyw ad-drefnu?
Rwyf eisiau gorffen—Lywydd, rydych chi wedi bod yn garedig iawn gyda fy amser—drwy siarad am 'ein gweledigaeth', fel y mae ambiwlans awyr Cymru yn ysgrifennu ar eu gwefan:
'Gwella bywydau cleifion a'u teuluoedd drwy fod yn arweinydd byd mewn gofal uwch lle mae amser yn allweddol.'
Nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru wrando ar bobl gogledd a chanolbarth Cymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i bleidleisio.