8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:58, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n bryderus, felly, y bydd canoli’r cerbydau hyn yng ngogledd Cymru'n amharu’n sylweddol ar effeithiolrwydd cerbydau ymateb cyflym. Ac ar adeg pan fo straen mor ddifrifol ar y gwasanaeth ambiwlans, mae’r pryder hwn yn arbennig o ddifrifol.

Mae’r ddadl hon wedi tynnu sylw at lawer o bethau, o gryfder y teimladau lleol, i gwestiynau ynghylch y data a ddefnyddir gan y gwasanaeth ambiwlans awyr wrth wneud penderfyniadau. Rwy'n rhannu'r holl bryderon a fynegwyd heno am oblygiadau unrhyw gynlluniau i ganoli. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru, felly, i weithio gyda’i phartneriaid yn y GIG ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru i sicrhau na fydd unrhyw ad-drefnu'n peryglu bywydau pobl sy’n byw yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.