8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 6:10, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr am adael imi ymateb i'r ddadl wrthblaid hon.

Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy mod yn cydnabod y bartneriaeth amhrisiadwy rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru, a elwir yn EMRTS, yn achub bywydau a gwella canlyniadau yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws Cymru. Mae gwerthusiad o'r gwasanaeth rhwng 2015 a 2020 wedi nodi mwy o obaith o oroesi, gyda gostyngiad sylweddol o 37 y cant yn nifer y marwolaethau ar ôl 30 diwrnod i gleifion sy'n cael anaf di-fin. Cafodd 63% o gleifion driniaethau yn y fan a'r lle na allent fod wedi'u cael heblaw mewn ysbyty cyn hynny. Cafodd 42% o gleifion eu cludo'n syth at ofal arbenigol yn lle ysbytai lleol, gan arbed amser i'r claf ac adnoddau ychwanegol i'r GIG. Ac mae 12 meddyg ymgynghorol newydd wedi eu recriwtio i Gymru, oherwydd atyniad gweithio gydag ambiwlans awyr Cymru.

Nawr, rwy'n ymwybodol bod dryswch wedi bod ynglŷn â  natur y gwasanaeth a ddarperir gan EMRTS mewn cydweithrediad â'r elusen. I egluro, fel yr esboniodd Russell, mae tîm EMRTS yn cael ei gyflogi gan GIG Cymru, sy'n talu am staff EMRTS ac offer meddygol. Mae'r rhan hon o'r gwasanaeth yn cael ei chomisiynu gan bwyllgor y gwasanaethau ambiwlans brys, sy'n gyd-bwyllgor i holl fyrddau iechyd Cymru. Mae'r elusen yn darparu'r hofrenyddion, y canolfannau awyr, y cerbydau ymateb cyflym, peilotiaid, tanwydd a pheirianwyr. Nawr, mae EMRTS yn gweithio gyda'r elusen i ddarparu gwasanaethau gofal critigol arbenigol yn y fan a'r lle i drin pobl ag anaf sy'n bygwth bywyd neu aelodau a allai arwain at farwolaeth neu anabledd. Ar gyfartaledd, mae EMRTS yn ymateb o fewn 50 munud drwy'r awyr neu 40 munud ar y ffordd. Mae hwn yn wasanaeth gofal critigol arbenigol iawn, nad yw'n cymryd lle gwasanaethau ambiwlans brys. Nid yw'n wasanaeth ymateb cyntaf ac fel yr eglurodd Mabon, mae'n mynd â'r adran frys allan at y claf.

Mae'r ddarpariaeth bresennol yn cynnwys pedwar tîm wedi eu lleoli, fel y clywsom, yn y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd. Mae hynny'n digwydd yn ystod y dydd, gyda mynediad at hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym. Ond yn y nos, ceir un tîm wedi ei leoli yng Nghaerdydd, gyda mynediad at hofrennydd a cherbyd ymateb cyflym. Ar gyfartaledd, caiff 1,100 o alwadau cleifion eu hadolygu gan ganolfan gofal critigol EMRTS bob dydd. Caiff 140 o'r galwadau hynny eu hasesu'n fanylach, a bydd tua 13 yn cael eu hasesu fel rhai sy'n addas ar gyfer ymateb EMRTS. Ond o dan y model gwasanaeth presennol, dim ond 10 claf sy'n cael ymateb EMRTS y dydd. Felly, mae cyfle i'r gwasanaeth arbenigol yma drin mwy o gleifion bob dydd yng Nghymru. Nawr, mae'r elusen, y tîm EMRTS a phwyllgor y gwasanaethau ambiwlans brys yn awyddus i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu gweld, os yw'n bosibl, er mwyn sicrhau bod cleifion sydd ei angen yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth arbenigol hwn ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru a phryd y maent ei angen. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod pob Aelod yn y Siambr hon yn rhannu'r dyhead i achub mwy o fywydau ac i sicrhau bod EMRTS a'r elusen yn gallu trin mwy o gleifion.

Fel y dywedais eisoes, mae pedwar tîm medrus iawn mewn pedair canolfan i wasanaethu Cymru gyfan, ond mae rhai'n fwy prysur nag eraill.