Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac mae Plaid Cymru yn falch iawn o allu cyd-gyflwyno'r cynnig yma. Mae'n bwysig iawn bod yna gefnogaeth ar draws y pleidiau yn fan hyn, a dwi yn apelio ar Aelodau ar y meinciau Llafur i gefnogi'r cynnig.
Gadewch i fi fynd â chi nôl i fis Awst, tafarn y Tarw, y Bull, yn Llannerch-y-medd. Dwi ddim yn gwybod sut yn union i ddisgrifio extravaganza cymunedol y cneifio cylch. Oedd, mi oedd yna gneifio yno, ond mi oedd yna ffair yno, mi oedd yna wledd a pharti, mi oedd yna ocsiwn yno, ac mi godwyd £50,000 mewn un prynhawn, un gyda'r nos, a'r arian i gyd yn mynd i'r ambiwlans awyr. Pam? Achos mae pawb yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth yma a beth mae'n ei olygu i'n cymunedau mwy gwledig ni, yn yr achos yna. Ydy, mae'n wasanaeth ar gyfer pob rhan o Gymru, y trefol a'r gwledig, ond un o'r gyrwyr mawr, wrth gwrs, y tu ôl i'r gwasanaeth pan sefydlwyd o oedd y ffaith bod yna gymaint o Gymru ymhell o ysbyty, yn anodd ei chyrraedd gan ambiwlans, neu ymhell o ofal iechyd arbenigol.
Dros amser, mi dyfodd y gwasanaeth—un, dau, tri, wedyn pedwar hofrennydd, efo dyfodiad timau arbenigol EMRTS wedyn, wrth gwrs, yn trawsnewid pethau, ac, erbyn hyn, mae hwn yn wasanaeth ym mhob rhan o Gymru, pob rhan o fewn cyrraedd hofrennydd, gyda Chaernarfon a'r Trallwng rhyngddyn nhw yn gwasanaethu'r gogledd-orllewin, y gogledd-ddwyrain a'r canolbarth. Ond rŵan mae hynny dan fygythiad. Y bwriad yw cau'r ddau safle yna, Caernarfon a'r Trallwng, a symud i un newydd, yng nghanol y gogledd yn rhywle, a dwi'n ofni bod hynny am fod yn gamgymeriad, os caiff o ddigwydd. Pam mae hyn hyd yn oed yn cael ei gynnig? Yn syml iawn, yn ôl EMRTS, mi fydd mwy o bobl yn gallu cael eu cyrraedd, nifer uwch; mi fydd mwy o alwadau yn gallu cael eu hateb gan dimau'r ambiwlans awyr—o'r awyr, neu gan eu fflyd o gerbydau. Achos, cofiwch, mae hwn yn wasanaeth sy'n gweithio mewn dwy ffordd—cerbydau ar y ffordd a hofrenyddion. Ond dwi'n ofni mai mater o geisio cyrraedd targed ystadegol ydy hyn, yn hytrach nag ystyried gwir bwrpas y gwasanaeth ambiwlans awyr. Os bydd yn bosib cyrraedd mwy o bobl—mae EMRTS yn dweud y bydd—a gwireddu'r uchelgais ystadegol, wel, dwi'n ofni mai drwy wasanaethu mwy o bobl yn ardaloedd mwy poblog y gogledd-ddwyrain fydd hynny yn cael ei gyflawni, a hynny ar draul poblogaeth yr ardaloedd mwyaf gwledig. Rŵan, fel y dywedais i, mae hwn yn wasanaeth i bob rhan o Gymru, ac mae'n bwysig bod EMRTS yn gallu cyrraedd gymaint â phosib o bobl yn y gogledd-ddwyrain hefyd. Felly, onid yr ateb ydy i roi tîm efo cerbyd ffordd yn yr ardal honno, tîm fyddai yn gallu gyrraedd ardal eang iawn yn gyflym, efo hofrenyddion wrth gwrs yn dal ar gael o'u bases presennol hefyd, os oes angen hynny?
Wrth gau Caernarfon a’r Trallwng, nid dim ond yr hofrenyddion fyddai’n mynd yna, mi fyddai’r cerbydau hefyd, a does dim angen arbenigwr ar ddaearyddiaeth Cymru i sylweddoli bod ceisio gwasanaethu gogledd Môn, pendraw Pen Llŷn, de Meirionnydd neu Bowys o Rhuddlan efo car fel gwasanaeth brys byth yn mynd i weithio.