8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 11 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 6:03, 11 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd, ar ran etholwyr Aberconwy—ein diolch a'n gwerthfawrogiad o gyfraniad hanfodol ein gwasanaeth ambiwlans awyr. Nawr, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru, a phob aelod o'r tîm, yn darparu gwasanaeth meddygol brys hanfodol sy'n achub bywydau pobl ddifrifol wael neu sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol ledled Cymru. Yn y 12 mis diwethaf yn unig, cafwyd sawl achlysur lle mae'r ambiwlans awyr wedi glanio ar gae chwarae lleol, ar brif ffordd brysur yma, ac amryw o lefydd eraill nad oeddwn hyd yn oed yn sylweddoli y gallai hofrennydd lanio ynddynt, ond roedd cymaint o angen eu cymorth a'u hachubiaeth. Mae'r ffaith y gall eu tîm gyrraedd claf sy'n ddifrifol wael yn unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud i gael galwad yn dyst i'w hymroddiad anhunanol. Gyda'r safon uwch o ofal y mae'r criwiau'n ei ddarparu ar safle digwyddiad, a throsglwyddo cleifion yn gyflym i ofal meddygol arbenigol ar draws Cymru, gan gynnwys dros nos, efallai y gall fod yn llawer rhy hawdd inni anghofio mai sefydliad elusennol yw hwn sy'n dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd, a fy nealltwriaeth i yw mai dyma sut y maent wedi bod eisiau iddo fod erioed. Maent wedi bod yn awyddus i fod yn wasanaeth achub annibynnol. Ond bob blwyddyn mae angen iddynt godi £8 miliwn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ddaear. Nawr, cefais y fraint o weld o lygad y ffynnon a thrafod gwaith gwych y tîm ambiwlans awyr pan ymwelais â'u canolfan weithredu yng ngogledd Cymru yn ddiweddar—wel, ychydig wythnosau yn ôl, cyn y Nadolig—gyda fy nghyd-Aelod Sam Rowlands. Fe wnaeth y gweithgarwch yn Ninas Dinlle argraff fawr ar y ddau ohonom, ac roedd yn hynod effeithlon ac yn effeithiol iawn. Fodd bynnag, rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth y mae Russell George wedi ei ddweud. Yn nyfnderoedd argyfwng y gaeaf yn ein GIG, gyda streiciau'n dal i fod heb eu datrys, mae'n ymddangos i mi mai nawr yw'r amser gwaethaf posibl i hyd yn oed feddwl am gau canolfannau gweithredu ambiwlans awyr.

Mae cwestiynau'n dal i fod heb eu hateb ynglŷn â'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar etholwyr, ac ar drigolion a fy etholwyr i ar draws gogledd Cymru gyfan. Hefyd mae angen inni wybod faint o amser y mae'n ei gymryd i'r ambiwlans awyr hedfan o Ddinas Dinlle a Rhuddlan i wahanol bwyntiau yn Aberconwy, fel y gallwn gymharu beth fydd yr effeithiau. Fel y dywedais, byddaf bob amser yn ddiolchgar iawn am y gwasanaeth y mae'r ambiwlans awyr yn ei ddarparu, ond mae gwir angen mwy o ddata—a gallai eich Llywodraeth ei ddarparu, Weinidog, neu'r sefydliad—fel y gallwn sefydlu'n ofalus pa effaith y mae'r cynigion yn mynd i'w chael ar yr etholaethau hynny a'r cleifion yr effeithir arnynt gan unrhyw gynigion i gau canolfannau.

Fel y mae nifer o bobl eraill wedi dweud, gallai cau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon nid yn unig beryglu cleifion, ond fe allai arwain at effeithiau canlyniadol i ardaloedd eraill. Mae Cymru eisoes yn dioddef amseroedd aros hwy am ambiwlansys. Yng ngogledd Cymru, yn warthus, fis Medi diwethaf yn unig cafwyd 35 o alwadau coch ar gyfer argyfyngau sy'n peryglu bywyd a gymerodd dros awr i'w cyrraedd—a gymerodd hanner awr i'w cyrraedd, gyda dwy o'r rheini'n cymryd dros awr. Rydym eisoes wedi gweld effaith y pwysau cronig hyn yn fy etholaeth i a rhanbarth gogledd Cymru, gyda digwyddiadau gofal critigol yn cael eu datgan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oherwydd y nifer helaeth o gleifion sydd angen gofal.

Mae Aberconwy, wrth gwrs, yn etholaeth sydd â phoblogaeth fawr wledig a hŷn, ac mae gennym lawer o ardaloedd sydd â ffyrdd a signal ffôn gwael, a gallant fod yn anos i ambiwlansys arferol eu cyrraedd mewn pryd. Felly, mae hyn ar ei ben ei hun yn tanlinellu pwysigrwydd hanfodol cael gwasanaeth ambiwlans awyr eang, gyda darpariaeth ddaearyddol dda ar draws pob ardal yng Nghymru. Mae'r problemau yn ein gwasanaeth ambiwlans eisoes yn ddigon difrifol heb fentro ychwanegu at y pwysau. Mae'r cynllun canoli, yn fy marn i, yn gadael gormod o gwestiynau heb eu hateb i mi ac i fy etholwyr, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r 20,000 sydd eisoes wedi arwyddo deiseb yn erbyn cau'r canolfannau. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y niferoedd hynny'n cynyddu'n ddramatig. Rydym mewn perygl o waethygu galwadau ar ein gwasanaethau ambiwlans ar yr adeg waethaf bosibl. Felly, rwy'n gofyn i bob cyd-Aelod o'r Senedd gefnogi ein cynnig—dim gwelliannau eraill, dim ond cefnogi ein cynnig—a gadewch inni sicrhau ein bod yn dangos ein cefnogaeth i'n gwasanaeth ambiwlans awyr. Diolch.