Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 17 Ionawr 2023.
Wel, Llywydd, nid yw'r Blaid Geidwadol Gymreig erioed wedi cefnogi'r maes awyr. Mae wedi gwneud ei gorau erioed i fychanu ei siawns o lwyddo. Nid ydyn nhw byth yn hoffi wynebu eu cyfrifoldebau eu hunain, Llywydd. Dro ar ôl tro ar ôl tro ar lawr y Senedd, rwyf i wedi clywed llefarwyr y Ceidwadwyr yma yn cwyno am y maes awyr, yn awgrymu na ddylid fod wedi ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus, ac yn tanseilio rhagolygon y maes awyr o lwyddiant yn gyffredinol. Bydd yr Aelod yn gwybod bod ffigurau gan yr Awdurdod Hedfan Sifil yn dangos bod twf teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi cynyddu dros 50 y cant ym mis Mawrth 2020, sef y mis pan darodd COVID bob un ohonom ni, a bod y twf hwnnw wedi digwydd ers i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd—twf cryf, a thrywydd yr oedd y maes awyr arno, yn amlwg, tuag at wneud elw yn y dyfodol. Yn wir, roedd wedi gwneud elw yn y flwyddyn honno.
Nawr, ers y pandemig, wrth gwrs mae'r maes awyr yn wynebu dyfodol llawer mwy anodd. Mae'r galw am deithiau awyr wedi gostwng ar draws y byd. Nid yw wedi gwella, ac mae'r dirywiad yn economi'r DU yn golygu bod arbenigwyr y diwydiant bellach yn rhagweld y bydd y flwyddyn nesaf hon yn flwyddyn pan fydd teithio awyr yn gwella'n arafach yn y Deyrnas Unedig nag y bydd mewn mannau eraill. Ond, mae'r pecyn achub ac adfer yr ydym ni wedi ei roi ar waith gyda'r maes awyr, gyda'r rhai sy'n gyfrifol am ei ddyfodol, wedi'i gynllunio'n bendant i wneud Maes Awyr Caerdydd yn hunan-gynaliadwy ac yn broffidiol ar gyfer y dyfodol. A phan glywaf Aelodau'n gweiddi, 'Byth' i hynny, dyna'r union fath o sylw yr oeddwn i'n ei olygu pan ddywedais i, pryd bynnag y byddwn ni'n sôn am ddyfodol llwyddiannus i'r maes awyr yma, bod Aelodau Ceidwadol yn ymyrryd i fwrw amheuaeth ar ei allu i fod yn rhan lwyddiannus o economi Cymru.