Tlodi Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:15, 17 Ionawr 2023

Llywydd, eleni rydyn ni’n darparu cymorth gwerth £1.6 biliwn drwy raglenni sy’n diogelu cartrefi difreintiedig. Yn benodol, rydyn ni’n rhoi cymorth i gartrefi yng nghefn gwlad nad ydyn nhw ar y grid, buddsoddi mewn mentrau bwyd cymunedol a darparu canolfannau clyd. Mae hyn yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd talu costau bwyd a chadw’n gynnes.