Tlodi Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:16, 17 Ionawr 2023

Diolch yn fawr iawn. Yn ôl Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae tlodi gwledig yn aml yn cael ei guddio o dan yr wyneb gan gyfoeth cymharol ein hardaloedd gwledig ni, a gan ddiwylliant o hunan-ddibyniaeth. Fel y dywedais i yn nadl Plaid Cymru ar dlodi plant cyn gwyliau'r Nadolig, mae aelwydydd ar draws y canolbarth a'r gorllewin yn fwy agored i dlodi oherwydd nifer o ffactorau fel incwm is na'r cyfartaledd, hefyd diffyg mynediad at wasanaethau a thrafnidiaeth gyhoeddus, lefelau anghymesur o dlodi tanwydd a thlodi bwyd, rhenti uwch a diffyg tai fforddiadwy.

Nawr, rydym ni'n gwybod bod y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig fel arfer yn gwario rhyw 10 i 20 y cant yn fwy ar nwyddau a gwasanaethau bob dydd, o gymharu â rhai sydd yn byw mewn ardaloedd trefol. O ganlyniad, mae amddifadedd ar gynnydd yn ein cymunedau ni, gyda phump allan o'r chwe awdurdod lleol sydd â'r lefelau uchaf o dlodi plant yn yr ardaloedd gwledig yng Nghymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi felly fod cymunedau gwledig yn wynebu heriau unigryw, ac a yw e'n barod i ymrwymo i gynnal ymchwil pellach i'r mater er mwyn datblygu strategaeth i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi gwledig?