Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 17 Ionawr 2023.
Llywydd, mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn flaenoriaeth cyfiawnder cymdeithasol ac anghydraddoldeb i'r Llywodraeth. Mae ein rhaglen cynhwysiant ac iechyd digidol, Cymunedau Digidol Cymru, yn cefnogi sefydliadau ar draws pob cymuned a sector i helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall digidol eu cynnig. Mae dros 125,200 o bobl wedi derbyn cymorth ar gyfer sgiliau digidol sylfaenol, ysgogiad a hyder.