Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch, Prif Weinidog. Mae tlodi digidol yn fater sy'n bwysig iawn i mi. Rwy'n credu y daethpwyd â'r gwir oblygiadau i'r brif ffrwd yn sicr yn ystod y pandemig, pan oedden ni'n dibynnu ar bob peth digidol i gysylltu â'n gilydd yn ystod y cyfyngiadau symud, neu'n defnyddio offer digidol i weithio gartref neu'r ysgol. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n parhau i weld ei effaith nawr yn ystod yr argyfwng costau byw, gan fod cymaint o'r cymorth a'r adnoddau y mae angen i bobl gael gafael arnyn nhw ar-lein, ac mae pobl yn cael eu heithrio oherwydd y costau gan ein bod ni'n gwybod wrth i gyllidebau fynd yn dynn, ei bod yn debygol mai band eang fydd y peth sy'n cael ei ddiffodd mewn cartrefi. Ar un adeg, roedd y dybiaeth hon fod band eang a thechnoleg ddigidol yn foethusrwydd, ond y gwir yw ei fod yn anghenraid, ac i rai pobl maen nhw ar eu colled oherwydd diffyg modd.
Gwn fod mynd i'r afael ag allgáu digidol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rwy'n falch o weld yn y strategaeth ddigidol i Gymru bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â'r Gynghrair Tlodi Digidol i roi terfyn ar dlodi digidol erbyn 2030, ac mewn partneriaeth â'r Good Things Foundation ar y fenter cronfa ddata genedlaethol sy'n darparu data symudol, negeseuon testun a galwadau am ddim i bobl mewn angen.
Rwyf i hefyd wedi bod mewn cysylltiad â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, a chwmni band eang yng Nghymru, Ogi, sy'n darparu band eang cyflym ar draws Porthcawl—[Torri ar draws.] —a Chaerffili i weld a oes unrhyw le i ddarparu WiFi mewn canolfannau cynnes ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyflwyno'r canolfannau cynnes ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? Pa asesiad a wnaed i weld a allwn ni ymgorffori mynediad at fand eang cyflym yn y canolfannau hynny i greu'r etifeddiaeth honno o fynediad i'n cymunedau?