Mynediad at Feddygfeydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:23, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi gyda phryder am newyddion bod dwy wahanol feddygfa yn fy rhanbarth i ar fin cau. Roedd Canolfan Feddygol Aber yn bwriadu cau ei meddygfa ym Medwas, a fyddai'n golygu bod cleifion ym Medwas, Tretomas a Machen yn gorfod mynd i Abertridwr neu Lanbradach, ac ni fyddai'r rheini'n deithiau rhwydd, os nad oes gennych chi gar, yn enwedig os ydych chi'n sâl a ddim yn teimlo y gallwch chi ymdopi â thaith hir. Rwyf i hefyd wedi clywed bod Practis Grŵp Crucywel wedi gwneud cais i gau eu meddygfa gangen yng Ngilwern.

Rwy'n pryderu am batrwm pryderus yma—yng Nghaerffili, yn sicr. Mae meddygfeydd Penyrheol, Parc Lansbury a Gilfach wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf; mae'n ymddangos bod y stori yr un fath ar draws y rhanbarth. A allwch chi werthfawrogi, Prif Weinidog, pam mae cymaint o bobl yn poeni y bydd cau'r meddygfeydd hyn yn arwain yn anochel at dryblith i gleifion, amseroedd aros hwy, a mwy o bwysau ar feddygon teulu? A beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud, os gwelwch yn dda, i gynghori byrddau iechyd ynghylch yr angen i wella a pheidio â gwaethygu profiad y claf? Oherwydd, siawns nad yw o fudd i neb fod cymaint o feddygfeydd o bosib yn cau.