Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn rhan gyntaf tymor y Senedd hon, rydyn ni wrthi'n cytuno ar gytundebau newydd, diwygiedig gyda phob un o'r pedair cangen o ofal sylfaenol ledled Cymru. Ein blaenoriaeth yw sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r contractau hynny i gleifion, o ran mynediad, cynaliadwyedd gwasanaethau ac ansawdd gofal.