Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch eto, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethon ni gyflwyno ein hadroddiad ar femorandwm Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil Esgyll Siarcod y bore 'ma ac fe ddaethon ni i ddau gasgliad yn ein hadroddiad. Fe wnaethon ni ddau argymhelliad i Lywodraeth Cymru.
Cytunwyd ag asesiad y Gweinidog bod angen cydsyniad y Senedd ar gymalau 1, 2 a 3(5) y Bil. Ond nodwn fod Llywodraeth Cymru o'r farn nad oes angen i weddill yr is-gymalau yng nghymal 3—yn ymwneud â graddau tiriogaethol y Bil, cwmpas y rheoliadau sydd i'w gwneud o dano, a'i deitl—gael cydsyniad y Senedd gan eu bod yn gymalau nad ydyn nhw'n weithredol. Gweinidog, rydyn ni'n cymryd y farn, os yw cymalau o'r fath yn ymwneud â chymalau eraill yn y Bil sydd angen cydsyniad, yna dylid gofyn am gydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn hefyd. Dyma'r argymhelliad cyntaf i ni ei wneud yn ein hadroddiad.
Mae ein hail argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i rannu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y bydd yn rhan ohono gyda Llywodraeth y DU ar y pwerau cychwyn yng nghymal 3 y Bil. Nawr, nodwn fod y Gweinidog yn fodlon i'r Ysgrifennydd Gwladol gadw'r pwerau hyn yn ôl, felly byddai'n ddefnyddiol i weld manylion sut a phryd y cânt eu defnyddio. Felly, gobeithiwn y gellir darparu ar gyfer hynny. Rydyn ni hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn fodlon i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ar gyfer darpariaethau arbed a throsiannol mewn maes datganoledig, yn rhinwedd y pwerau yng nghymal 3 y Bil, ac mae'r Gweinidog wedi esbonio hyn.
Felly, yn olaf, fe ddaethon ni i'r casgliad, pe bai Llywodraeth Cymru eisiau deddfu ym maes lles anifeiliaid yn y dyfodol, y dylai wneud hynny drwy gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd. Mae hon yn ddadl safonol sydd gennym. Rydyn ni'n cydnabod bod gan y Bil sy'n ddarostyngedig i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw ddiben penodol iawn. Ond ers i Lywodraeth Cymru nodi lles anifeiliaid fel un o'i blaenoriaethau, dylai gymryd cyfrifoldeb am gyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol y mae'n ystyried yn angenrheidiol i'r diben hwnnw yng Nghymru, yn y Senedd.
Ac, a gaf i ddweud, wrth gloi, fel cyn-Weinidog y DU a waharddodd y chwe llong olaf yn y DU a fu'n tynnu esgyll siarcod, fy mod i'n canmol y cydsyniad hwn?