11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 5:45, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddim ond dweud ein bod ni yn wir yn gytûn yn hyn o beth, Gweinidog? Hoffwn ddweud o'r cychwyn cyntaf bod gan y Bil Esgyll Siarcod gefnogaeth lawn ein grŵp. Tynnu esgyll siarcod yw un o'r bygythiadau mwyaf i gadwraeth siarcod. Amcangyfrifir y lladdir tua 97 miliwn o siarcod bob blwyddyn yn fyd-eang gan yr arfer yma. A gyda syndod, hyd yn oed i mi, y dysgais am faint o esgyll siarcod y daethpwyd â nhw i borthladdoedd o amgylch y DU. Mae'r asesiad brysbennu rheoleiddiol wedi nodi 125 o borthladdoedd ar draws y DU sydd wedi trin siarcod a morgwn, gydag Aberdaugleddau ac Abertawe yn y 10 porthladd uchaf, gyda 219 o laniadau gwerth £59,641 a £20,708 yn y drefn honno. Ers 2018, mae cofnodion yn dangos bod y DU wedi allforio uchafswm o 12 tunnell o esgyll siarcod, gwerth £216,000, yn bennaf i Sbaen a gwledydd eraill yn Ewrop.

Mae cymal 1 yn gwahardd mewnforio ac allforio esgyll siarcod, rhannau o esgyll siarcod, neu bethau sy'n eu cynnwys i mewn neu o'r Deyrnas Unedig, ar ôl iddyn nhw gael mynediad i Brydain Fawr neu adael Prydain Fawr. Fel yr ydych chi wedi datgan yn gywir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, mae'r Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn anfon neges allweddol bod tynnu esgyll siarcod yn annerbyniol a'n bod ni, yma yng Nghymru, i gyd eisiau ymbellhau oddi wrtho. Oni ddylem gefnogi'r ddeddfwriaeth hon, gan gofio nad oes Mesur Senedd tebyg wedi'i gynllunio yn y tymor byr na'r tymor canolig, byddai Cymru yn y sefyllfa ryfedd pryd gellid targedu ein porthladdoedd ar gyfer mewnforion, a dosbarthu ymlaen i weddill y DU, ac mae hynny'n eithaf anodd ei atal.

Mae cymal 2 yn mynd i'r afael ag anghyfiawnder ac yn darparu datrysiad synnwyr cyffredin. Ac rwy'n gobeithio y bydd hyd yn oed Plaid Cymru'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol nad yw'r gwaharddiad ar dynnu esgyll siarcod o dan y rheoliad tynnu esgyll siarcod yn berthnasol i longau pysgota nad ydynt o'r DU nac o'r UE yn nyfroedd morol y DU. Mae'r ddeddfwriaeth yn enghraifft wych o gydweithio cadarnhaol gan AS o Gymru, Christina Rees, a DEFRA. Nid yw'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gweld unrhyw reswm dros wrthwynebu i'r Senedd gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol i ni i gyd fel Aelodau yma gefnogi hyn heddiw i helpu i anfon neges glir nad yw'r Senedd hon sydd gan Gymru yn cefnogi tynnu esgyll siarcod, ac na wnaiff hi hynny. Diolch.