– Senedd Cymru am 2:51 pm ar 17 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar lifogydd, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Dros yr wythnos ddiwethaf, mae glaw trwm parhaus wedi effeithio ar Gymru. Mewn rhai mannau, fe welsom ni dros chwe wythnos o law yn ystod pythefnos cyntaf y flwyddyn. Disgynnodd hwnnw ar dir a oedd eisoes yn ddirlawn, gan gynyddu dŵr ar yr wyneb, gan arwain at lefelau uchel iawn yn yr afonydd ledled Cymru. Ers dydd Mercher, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 50 o rybuddion llifogydd a 95 rhybudd llifogydd. Dyna fwy o dystiolaeth eto bod ein tywydd ni'n mynd yn fwyfwy cyfnewidiol ac oherwydd newid hinsawdd y mae hynny. Mae digwyddiadau glaw yn mynd yn fwy difrifol a dwys, ac maen nhw'n digwydd yn fwy rheolaidd.
Yn anffodus, rydym ni wedi cael adroddiadau bod llifogydd wedi effeithio ar 84 o dai, yn ogystal ag effeithiau ar y rheilffyrdd a'r ffyrdd. Mae llifogydd yn brofiad dirdynnol i drigolion, perchnogion busnesau a chymunedau yn gyffredinol, ond yn enwedig felly i berchnogion tai sydd wedi gweld eu cartrefi yn gorlifo â dŵr. Mae fy meddyliau, a meddyliau fy nghydweithwyr, gyda phawb yr effeithiwyd arnyn nhw. O dan y fath amgylchiadau, rwy'n erfyn ar berchnogion tai i wirio eu hyswiriant eto ac ymchwilio i'r risg o lifogydd i'w tŷ. Fe wyddom ni fod lefelau dealltwriaeth a pharodrwydd yn amrywio yn fawr ymysg ein cymunedau. Mae hi'n bwysig bod pob preswylydd yn gwybod ble i gael gafael ar wybodaeth am lifogydd, fel tudalennau gwe 'gweld eich risg llifogydd' Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'n hawdurdodau rheoli risg i gynyddu ymwybyddiaeth am lifogydd.
Ond er bod effeithiau wedi bod, fe ddylem ni gadw mewn cof y gallai'r llifogydd fod waeth o lawer heb ymdrechion y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, staff CNC, asiantaethau trafnidiaeth, a gwirfoddolwyr. Mae hi'n hawdd anghofio weithiau, ond mae ein seilwaith ni i gyd yn ddibynnol ar bobl i'w gynnal a'i gadw'n weithredol, yn enwedig yn ystod y tywydd garw. Heb eu hymdrechion nhw, fe allai'r effeithiau i'n cymunedau ni fod yn llawer gwaeth. Ar ran y Llywodraeth, rwyf i am ddiolch o galon i bawb a helpodd yn yr ymateb i'r digwyddiadau diweddar.
Ond mae hi'n bwysig cofio hefyd nad ymateb i lifogydd yn unig mae'r awdurdodau rheoli risg. Maen nhw'n gweithio trwy'r amser i wella ein seilwaith rheoli perygl llifogydd, gan fuddsoddi mewn cynlluniau newydd a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru, gan weithio yn barhaus i rymuso ein hasedau hanesyddol ni. Mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin hefyd ag etifeddiaeth ein treftadaeth lofaol, megis tomenni glo segur, yn wyneb perygl cynyddol newid hinsawdd.
Yn ystod y tymor Seneddol blaenorol, fe fuddsoddodd Llywodraeth Cymru £390 miliwn mewn rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn wedi helpu i leihau'r risg o lifogydd i dros 47,000 o dai, drwy greu a rheoli seilwaith a fyddai wedi cael ei brofi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fe fyddwn ni'n ymdrechu bob amser i wneud rhagor. Mae gan ein rhaglen lywodraethu nod eglur ac uchelgeisiol: fe fyddwn ni'n darparu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd i dros 45,000 o gartrefi yng Nghymru. Nid tasg rwydd fydd honno, ac mae angen buddsoddiad sylweddol ynddi. Wrth i ni geisio cyrraedd y nod hwn, rwy'n falch o gadarnhau bod ein rhaglen rheoli risg arfordirol yn parhau i gyflawni ar gyflymder. Mae gennym ni bum cynllun arfordirol sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ym Mhorthcawl, Bae Colwyn, Bae Penrhyn, Aberdyfi a'r Mwmbwls. Dyfarnwyd cyllid adeiladu i ddau gynllun arall yn y Rhyl a Phrestatyn, sef cyfanswm o £92 miliwn, ac fe fyddwn ni'n gweld chwe chynllun arall yn nesáu at y gwaith adeiladu dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys Caerdydd, Aberaeron a Bae Hirael.
Nid dim ond buddsoddi mewn cynlluniau mawr yr ydym ni. Eleni, fe dderbyniodd ein grant gwaith ar raddfa fach 90 o wahanol geisiadau, sef cyfanswm o £3.8 miliwn. Mae'r cynllun yn rhoi arian i awdurdodau lleol fynd i'r afael â phroblemau llifogydd sydd o faint llai, a mwy ar wahân. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd 3,100 o dai yn elwa ar y cyllid grant hwn. Rydym ni'n cynyddu ein buddsoddiad mewn rheoli risg llifogydd naturiol hefyd. Un o'n rhaglenni ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth oedd darparu atebion ar sail y byd naturiol ym mhob un o brif ddalgylchoedd yr afonydd. Rydym ni'n buddsoddi mwy na £3 miliwn trwy ein rhaglen rheoli llifogydd yn naturiol, wrth i ni geisio defnyddio prosesau naturiol i storio, arafu ac ymdreiddio dyfroedd llifogydd i leihau perygl llifogydd. Rydym ni'n amcangyfrif y bydd hynny o fudd i tua 800 o dai, gan ddarparu buddion llawer ehangach hefyd megis gwell ansawdd dŵr, cynefinoedd bywyd gwyllt a rheoli tir mewn ffyrdd amgen.
O ran diogelwch tomenni glo, rydym yn parhau i ddarparu rhaglen waith ar y cyd â'n partneriaid. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth newydd yn ystod y Senedd hon i sefydlu dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomenni segur ledled Cymru. Fe fydd hyn yn helpu i ddiogelu cymunedau a sicrhau bod pobl yn gallu teimlo yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Rydym ni'n parhau i gomisiynu'r Awdurdod Glo i archwilio tomenni glo segur ystyriaeth uwch. Mae'r bumed rownd o arolygiadau ar y gweill ar hyn o bryd. Mae gennym ni raglen ariannu ar waith i gefnogi awdurdodau lleol i wneud unrhyw waith cynnal a chadw a chyfalaf a nodwyd o'r rhaglen arolygu. Er enghraifft, mae ein cyllid ni'n cefnogi gwaith adfer tipiau Rhondda Cynon Taf ar domen Pendyrus. Ac wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei fod wedi dechrau ar y gwaith o wella rheolaeth draeniad dŵr wyneb yn nhomen Aberllechau.
Ac nid ydym ni'n llaesu dwylo. Er ein bod ni'n buddsoddi mewn cynlluniau llifogydd newydd yn gyson, rydym ni'n gwybod ei bod hi'n rhaid i ni ddysgu oddi wrth bob achos o lifogydd. Mae hyn oherwydd ein bod ni'n ceisio gwella ein ffyrdd ni o weithio trwy'r amser. Mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Mr Martin Buckle, wedi bwrw ymlaen â dau wahanol adolygiad rhagnodol ar gyfer ein strategaeth genedlaethol i reoli perygl llifogydd ac arfordirol. Roedd yr adolygiad cyntaf o'r farn fod heriau o ran adnoddau yn wynebu ein hawdurdodau rheoli risg ni. Roedd yr adolygiad yn canfod bod y sector rheoli risg llifogydd, er gwaethaf buddsoddiad parhaus, yn gweld bwlch o ran sgiliau. Roedd y bwlch sgiliau hwn yn amlwg yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ynglŷn â sut y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor i ddatblygu dewisiadau i fynd i'r afael â'r her hon.
Roedd ail adolygiad y pwyllgor ynghylch ddeddfwriaeth bresennol sy'n rhoi sail i'n polisi rheoli perygl llifogydd ni. Mae natur eithafol stormydd 2020-21 wedi cynyddu'r ddadl ynghylch cyflawni, yn enwedig o ran swyddogaethau a chyfrifoldebau. Rwy'n cydnabod bod y ddeddfwriaeth ynglŷn â rheoli risg llifogydd yn gadarn, ond nid yw hi'n berffaith. Rwyf i am barhau i weithio gyda'r pwyllgor ar unrhyw welliannau posibl y gellir eu gwneud nhw wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r heriau a achosir gan newid hinsawdd.
Llywydd, mae hon wedi bod yn wythnos heriol i'r holl bobl a mudiadau sy'n gweithio i'n cadw ni'n ddiogel rhag llifogydd, ond yn arbennig i'r deiliaid tai a'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n meddwl amdanyn nhw ar hyn o bryd. Diolch.
Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda.
Nid yw Cymru, wrth gwrs, ar ei phen ei hun yn cael ei tharo yn galed iawn wrth i newid hinsawdd barhau i waethygu, ac mae hynny, i bob pwrpas, yn achosi llawer o'r problemau y gwnaethoch chi eu crybwyll o ran llifogydd. Dim ond wythnos diwethaf, ar un noson yn unig, fe gyhoeddwyd cyfanswm o 27 o rybuddion llifogydd a 43 o rybuddion llifogydd wrth i gaeau orlifo gan gau llawer o'n ffyrdd. Fel dywedodd Dr Paul Jennings ddydd Sul,
'Mae ein ffyrdd, rheilffyrdd a'n haneddiadau ni'n echrydus o annigonol i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau ni'.
Ni ellir amau'r buddsoddiad sylweddol sydd wedi bod. Rhwng 2016 a 2021, fe fuddsoddodd Llywodraeth Cymru £390 miliwn i helpu i reoli'r perygl o lifogydd, a'r flwyddyn ariannol hon mae hi'n wir fod cyllid refeniw ar gyfer rheoli risg llifogydd a refeniw dŵr BEL wedi cynyddu tua £12 miliwn, tra bod cyllid cyfalaf wedi cynyddu £21 miliwn. Er hynny, mae Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, wedi dweud yn blaen iawn fod angen buddsoddiad mwy cynaliadwy erbyn hyn, gan fod yr ymateb i ddigwyddiadau llifogydd bellach yn cael effaith ddinistriol yn uniongyrchol ar adnoddau'r cynghorau. Mae hyn wedi gwneud y gost o beidio â gwneud y buddsoddiad hwnnw'n amlwg iawn. Cafodd dros 20 o dai eu gorlifo, yn anffodus, oherwydd ceuffos yn methu ag ymdopi â swm y dŵr, oherwydd malurion a gafodd eu golchi i lawr o'r mynyddoedd. Felly, mae'n hynny'n amlygu eu bod nhw'n dal i fod ag angen am y buddsoddiad hwnnw. Mae Rhondda yn enghraifft wych o'r sefyllfa sydd gennym ni yng Nghymru y mae angen ei gwyrdroi. Tra bod dros £14 miliwn wedi cael ei wario ar uwchraddio seilwaith yn Rhondda Cynon Taf ers storm Dennis yn 2020, mae £20 miliwn wedi cael ei wario ar atgyweirio ar ôl stormydd dros yr un cyfnod. Nawr, yn y pwyllgor newid hinsawdd, rydyn ni wedi gwneud hyn yn eglur iawn mewn sawl adroddiad. Fe ddylai Llywodraeth Cymru newid ei dull o ddyrannu refeniw ar gyfer awdurdodau lleol ac ystyried y perygl presennol o lifogydd a'r hyn a ragamcanir yn y dyfodol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi egluro y bydd dyraniad refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yn 2023-24 ar sail risg llifogydd ar hyn o bryd a risg a ragwelir?
Mae wyth mis wedi bod erbyn hyn ers cyhoeddiad adolygiad annibynnol o achosion llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2021. Yr Athro Elwen Evans KC sydd â'r gorchwyl o sefydlu canfyddiadau allweddol, rhannu pryderon, y gwersi a ddysgwyd, llwyddiannau ac arfer da, yn ogystal â nodi meysydd ar gyfer gwelliant. Felly, a yw'r Athro Evans wedi dweud pa bryd y daw'r adolygiad i ben, ac a yw hi wedi rhoi unrhyw argymhellion rhagarweiniol i Senedd Cymru eu hystyried nawr? Yn ddiamau, fe geir gwersi y gallwn ni i gyd ddysgu ohonyn nhw a mesurau y mae'n rhaid i bob un ohonom ni gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb amdanyn nhw. Eto i gyd, mae angen i ni gael gweld yr adolygiad hwnnw.
Mae gennym ni gannoedd o gyrsiau dŵr cyffredin ledled Cymru lle nad oes gan berchnogion glannau afon syniad o gwbl beth yw eu cyfrifoldebau nhw'n unigol. Yn wir, yn fy etholaeth fy hun, mae darnau o dir ar lan yr afon heb unrhyw berchnogion dynodedig o gwbl. Felly, fe gaiff cyfrifoldebau am lannau afonydd eu hanwybyddu. Mae perygl o anwybyddu llednentydd a nentydd. Ond, fel gwyddom ni yn Aberconwy, fe allai'r rhain fod yn achosi rhai llifogydd gwir ddinistriol. Felly, pa gamau a fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau y bydd pob perchennog glannau afon yn cael ei nodi a'u bod nhw'n gwybod beth yw eu dyletswyddau a bod eu dyletswyddau'n cael eu cynnal?
Yn olaf, fel gwyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £4.25 miliwn ar Fferm Gilestone. Gyda dewrder, fe wnaeth fy nghyd-Aelod yn y Senedd James Evans ffilmio tystiolaeth uniongyrchol o'r safle mewn storm, sydd yn dangos ei fod bron yn llwyr dan ddŵr erbyn hyn. Felly, Gweinidog, a wnewch chi esbonio sut ar wyneb y ddaear y gall hi fod yn ddiogel i Lywodraeth Cymru gynnal digwyddiadau yno ac, yn eich gwaith chi o'i gaffael—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, gyda'r Gweinidog yr wyf i'n siarad, nid gyda'r Dirprwy. Ac a ystyriwyd y perygl o lifogydd ar unrhyw adeg cyn i chi wneud buddsoddiad o'r fath. Diolch, Llywydd.
Diolch i chi, Janet. Felly, o ran materion y gyllideb, fe allaf ddweud wrthych chi fod effaith y buddsoddiadau a wnaethom ni wedi bod yn sylweddol iawn. Er enghraifft, yn ystod y glaw trwm diweddaraf, roedd yr amddiffynfeydd llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, yn atal llifogydd i dros 800 o gartrefi. Yn ddiweddar, ar eu pennau eu hunain, gwnaeth cynlluniau amddiffyn Park Lane, Aberdâr, a Nant y Pentre leihau'r risg i dros 320 o dai, a rhoddodd yr amddiffynfeydd yn Rhydyfelin, Abercynon ac Aberpennar amddiffyniad i 133, 123 a 144 o dai yn y drefn honno. Cynorthwyodd y llifddorau hefyd wrth leihau'r risg i eiddo yn Stryd Edward yn Ystrad Mynach a nifer o rai eraill. Fe fyddwn ni'n buddsoddi dros £71 miliwn mewn rheoli peryglon o lifogydd ac arfordirol eleni, sef y swm blynyddol mwyaf erioed, ac mae cyfanswm y gyllideb gyfalaf tair blynedd o £102 miliwn yn ein galluogi ni i gynllunio ein buddsoddiad ni'n well.
Ond, diwedd y gân, Janet, yw pe na fyddai raid i ni dalu am raglen ddiogelwch y tomenni glo, sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, fe fyddai gennym ni gannoedd lawer o filiynau o bunnoedd yn rhagor. Felly, y peth gorau y gallech chi ei wneud i'ch etholwyr a phobl Cymru yw cael y Llywodraeth ar lefel y DU, sy'n cael ei rhedeg gan eich plaid chi, i wneud ei dyletswyddau gwirioneddol ddifrifol—gwirioneddol ddifrifol—o ran ei rhwymedigaethau i amddiffyn holl bobl y DU rhag anawsterau oherwydd peryglon tomenni glo. Mae'r tomenni glo hyn yn waddol ein gorffennol diwydiannol cyffredin ni, nid i Lywodraeth ddatganoledig Cymru. Gwarth o beth yw nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud felly, ac rwy'n rhyfeddu atoch yn ddweud wrthyf i y dylem ni symud cyllideb o rywle arall pan fo'n rhaid i ni dalu am raglen y dylai Llywodraeth y DU fod yn talu amdani yn gwbl amlwg. Felly, nid wyf i am gymryd unrhyw wersi oddi wrthych chi ynglŷn â sut i lunio cyllidebau, ar gyfer hyn nac unrhyw beth arall.
O ran yr ymholiadau, mae hynny'n rhan o'n cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru. Mae honno'n sgwrs sy'n parhau. Mae'n rhaid i Elwen Evans allu cwblhau ei hymchwiliad wrth iddo fynd rhagddo. Yn ddiamau, fe fydd llefarydd Plaid Cymru yn awyddus i ymhelaethu eto ar hynny, Llywydd, felly ni fyddaf i'n manylu ar hynny o gwbl.
Wel, amseru da. Heledd Fychan.
Diolch Llywydd. Rwy'n croesawu datganiad heddiw gan y Gweinidog, ac yn arbennig, rwy'n meddwl am bob un sydd wedi dioddef difrod yn sgil lifogydd. I unrhyw rai ohonom ni sydd wedi gweld hynny'n uniongyrchol, mae'n beth cwbl ddinistriol. Ac, mae yna bobl y mae hyn wedi digwydd iddyn nhw dro ar ôl tro. Wythnos diwethaf, effeithiwyd ar ddau dŷ yn fy rhanbarth i ddwy waith—ddydd Iau a dydd Sadwrn—ac mae hynny'n gwbl anrheithiol. Felly, rwy'n credu bod pob un o'r datganiadau a wnaf i heddiw yn cael eu gwneud gyda'r bobl hynny mewn cof nad ydyn nhw'n gallu cysgu nawr bob tro mae hi'n glawio yn drwm—am y pryder hwnnw. A'r busnesau hynny hefyd nad ydyn nhw'n gallu cael yswiriant, a thrigolion nad ydynt yn gallu fforddio yswiriant, i bob pwrpas, er gwaethaf Flood Re a chynlluniau o'r fath.
Fe hoffwn i ofyn nifer o gwestiynau, os gwelwch chi'n dda, Gweinidog, oherwydd fel rydym ni wedi dweud, mater yw hwn a fydd yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Nid rhywbeth yw hyn sy'n peri pryder i'r dyfodol, ond tystiolaeth o newid hinsawdd a'i effaith nawr. Ac mae'n rhaid i ni wneud mwy, rwy'n credu, i gefnogi'r rhai sy'n byw mewn cymunedau sydd mewn perygl.
Roeddech chi'n cyfeirio at yr adolygiad annibynnol yn hytrach na'r ymchwiliad. Mae yna wahaniaeth; fe wnes i frwydro yn galed iawn am ymchwiliad, ond roeddwn i'n falch ein bod ni wedi gallu sicrhau adolygiad o leiaf. Ond fe hoffwn i gael eglurder, Gweinidog, o ran sut y bydd cynrychiolwyr etholedig yn gallu cyflwyno tystiolaeth o ran yr adolygiad hwnnw. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hanfodol bod y gwaith yn symud yn ei flaen, ac rwy'n gwybod am gymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw unwaith eto. Wrth gwrs, fe fydd rhai o'r rhain a gafodd eu effeithio'n ofnadwy yn 2020 a 2021 yn awyddus i gyflwyno tystiolaeth fwy diweddar, yn enwedig pan fo gwaith wedi bod, ond hwnnw efallai heb fod yn llwyddiant.
Yn ail, fe hoffwn i ofyn—. Yn dilyn llifogydd dinistriol 2020, fe bwysleisiodd eich rhagflaenydd yr angen am sgwrs genedlaethol a bod mwy o gefnogaeth ar gael i gymunedau allu bod yn fwy cadarn. Fe hoffwn i ofyn: ble mae'r gefnogaeth uniongyrchol honno? Oherwydd profiad cymunedau yr wyf i wedi bod yn siarad â nhw ledled Cymru yw ei bod, am y tro, i raddau helaeth, yn gyfrifoldeb arnyn nhw, lle mae gennych chi bobl sy'n rhagweithiol iawn neu sydd ag arbenigedd yn y maes hwn, sy'n gallu arwain hynny wrth wirfoddoli. Fe geir rhai cynlluniau effeithiol iawn ar waith gyda grwpiau sy'n gweithredu o ran llifogydd, ond mewn rhai cymunedau sy'n fwy agored i niwed efallai nad yw'r arbenigedd hwnnw yno, maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gadael yn amddifad o'r cymorth hwnnw. A rhywbeth a gafodd ei amau ar y pryd oedd, ydym, rydym ni'n cytuno bod angen sgwrs genedlaethol, ond na fyddwn ni'n gallu diogelu pob cartref a busnes, yn anffodus, ond sut mae cael y sgwrs genedlaethol honno, a phwy sy'n mynd i arwain y sgwrs honno? Oherwydd ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid yw honno wedi digwydd, ac rwyf i o'r farn fod angen honno arnom ni ar fyrder.
Mae ein plaid ni wedi cyfeirio o'r blaen at yr angen am fforwm llifogydd Cymru pan welwn ni fforwm llifogydd cenedlaethol yn Lloegr, a fforwm llifogydd yn yr Alban, a'r hyn y maen nhw'n ei wneud yw mynd i gymunedau i helpu i sefydlu pethau fel grwpiau gweithredu llifogydd a darparu ymateb brys fel hyn ar lawr gwlad. Mae hynny'n cynnwys cwnsela, cefnogaeth a chyngor ynghylch tai a phob math o bethau eraill, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei weld hefyd nawr efallai mewn llawer o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn 2020 a 2021 yw'r effaith, oherwydd na chafodd cartrefi pobl eu sychu yn briodol; nid oedd pobl yn gallu fforddio hynny oherwydd nad oedd ganddyn nhw yswiriant, ac mae hynny'n creu problemau iechyd enfawr o ran clefydau anadlol. Felly, mae'r angen hwnnw, rwy'n credu, ar lawr gwlad i fod ag ymateb sy'n uniongyrchol. Felly, fe hoffwn i wybod am y sefyllfa o ran y sgwrs genedlaethol honno, pwy fydd yn arwain honno, a sut fydd honno'n hwyluso'r cadernid hwnnw wedyn. Oherwydd rwyf i o'r farn nad yw ailadrodd 'mae angen i gymunedau fod yn fwy cadarn' mewn gwirionedd yn eu helpu nhw o ran bod yn fwy cadarn, ac nid wyf i'n credu y byddai'n cymryd llawer o gyllid o ran y gefnogaeth honno.
Pwynt arall yr hoffwn ei godi yw'r hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato o ran bwlch sgiliau, ac fe gafodd hynny ei bwysleisio hefyd gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd cyn y Nadolig. Yn bryderus iawn, roedd yr adroddiad hwnnw'n dweud nad yw rhai awdurdodau lleol hyd yn oed yn gallu cyflwyno ceisiadau am y cyllid sydd ar gael, oherwydd nad oes ganddyn nhw'r staff na'r arbenigedd i ddatblygu'r ceisiadau hynny. Roedd Archwilio Cymru yn pwysleisio, felly—peth anghyffredin iawn i'w ddweud yn y Senedd—nad mater o ran diffyg cyllid ar gael yw hwn; mae'r arian ar gael, ond nid yw awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am yr arian oherwydd y bwlch sgiliau. Ac yn bryderus hefyd, nid yw pob awdurdod lleol ledled Cymru yn gallu gweithredu'r cynlluniau ychwaith, sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu manteisio ar y cyllid trwy'r cytundeb cydweithredu. Felly, sut rydym ni am fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yr ydych chi'n cyfeirio ato yma? Ond, pan fyddwn ni'n cael ein diweddaru yn y Senedd, ac a ydym ni'n sicr bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru'r niferoedd o staff i ymdrin â llifogydd? Roedden nhw'n crybwyll, ar ôl llifogydd 2020, bod angen o leiaf 70 aelod arall o staff eto. A oes sicrwydd gennym ni fod y staff ganddyn nhw yn eu lle, a sut fyddwn ni'n sicrhau ein bod nhw'n gwneud popeth posibl i sicrhau nad oes neb yn profi llifogydd yn ddiangen? Diolch.
Diolch, Heledd. Dim ond o ran yr adolygiad, a oedd yn rhan o'r drafodaeth a fu rhyngom ni, fe geir nifer o wahanol fathau o adolygiad yn digwydd ar hyn o bryd. Fe gyfeiriais i at y ddau gan y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, er enghraifft. Felly, mae adolygiad yr Athro Elwen Evans KC yn dilyn patrwm darnau eraill o waith sy'n digwydd, felly dim ond ar gyfer tawelu meddyliau nad y bwriad yw i hwnnw gwmpasu popeth, ac fe wn i eich bod chi'n gwybod hynny.
Fe fydd hi'n ysgrifennu at gynrychiolwyr etholedig perthnasol yn gofyn iddyn nhw am fewnbwn ar gam priodol yn ei hadolygiad hi. Mae'n rhaid i ni ganiatáu iddi hi fwrw ymlaen, mae'r adolygiad yn annibynnol, yn amlwg, er iddo gael ei gomisiynu ar y cyd rhyngom ni yn unol â'r cytundeb cydweithredu. Rwy'n rhagweld na fydd hi'n cymryd llawer mwy i hwnnw ddod nawr, a mater iddi hi yw sut y bydd hi'n gwneud hynny, er bod y cylch gwaith yn eglur iawn ei bod hi'n ofynnol iddi wneud hynny. Fe fyddwn i'n synnu'n fawr yn wir pe na fyddai ardal y Rhondda yn rhan o'r adolygiad hwnnw, oherwydd yn amlwg dyna ble roedd llawer o'r llifogydd diweddar iawn, ac mae hwn yn adolygiad yr ydym ni'n awyddus i ddysgu gwersi ohono, nid dim ond o'r gorffennol yn unig, ond trwy'r amser. Rwy'n siŵr y bydd yna ardaloedd eraill yng Nghymru yr effeithiwyd arnyn nhw sawl gwaith y bydd angen eu trafod gyda chynrychiolwyr etholedig yn y mannau hynny. Felly, rwy'n rhagweld y bydd hynny'n digwydd yn fuan. Nid oes gennyf i ddyddiad gwirioneddol yma—wel, ni wn i am y dyddiad gwirioneddol, mater iddi hi yw hwnnw, ond, yn sicr fe drafodwyd hynny gyda'r Aelod dynodedig a minnau at y diben hwn, felly rwy'n siŵr bod yr adolygiad ar ei ffordd.
Yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw dysgu gwersi o'r setiau hynny o adolygiadau ynglŷn â sut mae pethau yn gweithio ar lawr gwlad a pha welliannau fydd eu hangen. Rydym ni'n gwybod y bydd angen gwelliannau, ni fyddem wedi gofyn am adolygiadau pe byddem ni'n credu bod popeth yn rhagorol. Felly, fe fyddwn ni'n dymuno edrych ar y rhain, pori drostyn nhw a chyflwyno cyfres o welliannau wedyn. Un o'r pethau yr ydym ni'n eu hystyried yw'r holl fater hwn o ymwybyddiaeth am lifogydd, felly, unwaith eto, fe hoffwn i roi teyrnged i'r bobl sydd wedi bod allan ym mhob tywydd ledled Cymru o bob un o'r gwasanaethau ymatebwyr, yn cynnwys CNC. Rwy'n credu ein bod ni'n anghofio rhywfaint o'r adnodd gwirioneddol a welwn ni yn yr afon, sef yr ymyrraeth, yn gofyn i'r bobl hyn fod allan yn sicrhau ei fod yn gweithio. Felly, fe hoffwn ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod anhawster eu hamodau gwaith.
Ond hefyd, peth torcalonnus yw cael llifogydd yn eich cartref, heb sôn am i'r peth ddigwydd ddwywaith mewn tridiau. Rydym ni'n llwyr gydnabod hynny, a dyna pam mae'r rhaglen fuddsoddi fawr hon gennym ni, ac, unwaith eto, mae gennym ni gytundeb yn y cytundeb cydweithredu i sefydlu'r rhaglen risg arfordirol—mae'n ddrwg gen i, rwyf wedi mynd yn grug yn sydyn, esgusodwch fi—ac mae hynny i'w groesawu yn fawr. Yr hyn sy'n dda iawn i'w weld, yn yr ymateb sy'n dod gan yr awdurdodau lleol y tro hwn, yw bod y tai a amddiffynnwyd wedi cael eu diogelu. Felly, nid yw hi fel pe bai hynny heb weithio, dim ond bod llifogydd yn gwaethygu, felly mae mwy o dai eto yn cael eu nodi mewn ardaloedd lle ceir llifogydd. Ond roedd y rhai a oedd mewn perygl y tro diwethaf ac a gafodd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi cael eu diogelu, felly mae hynny'n rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano, er, fel rydym ni'n ei weld, mae newid hinsawdd yn cyflymu, felly mae angen i ni ehangu'r rhaglen hon.
Nid oes gennyf i unrhyw broblem o gwbl gyda'r awgrym ynglŷn ag edrych ar grwpiau gweithredu llifogydd, dim ond dweud ein bod ni'n aros am ganlyniadau'r adolygiad ar gyfer mynd trwyddyn nhw, ac rwy'n siŵr y bydd hwnnw'n un o'r pethau y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth iddyn nhw. Mae'r bwlch sgiliau yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei ystyried hefyd, fel yswiriant. Fe wnaeth Vaughan Gething a minnau gyfarfod i drafod materion yswiriant, yn enwedig yswiriant masnachol, yn ddiweddar iawn. Rwy'n credu efallai mai ddoe oedd hi, ond mae fy synnwyr i o amser yn ofnadwy, efallai mai echdoe oedd hi—wel, nid echdoe a fyddai hi chwaith, felly mae'n debyg mai dydd Llun neu ddydd Gwener oedd hi, beth bynnag am hynny. Rydym ni am fynd at Lywodraeth y DU i drafod sefydlu cynllun tebyg ar gyfer busnesau, er y byddai hynny'n fwy cymhleth ar gyfer eiddo masnachol. Rwy'n pesychu yn sydyn, heb wybod pam. [Torri ar draws.] Felly, rwy'n rhannu eich pryderon chi ac yn awyddus i'ch sicrhau chi ein bod ni'n gwneud yr hyn y gwnaethoch chi ofyn yn ei gylch. Mae'n ddrwg gen i.
Diolch i chi am y datganiad hwn, Gweinidog. Ym mis Rhagfyr, lansiodd y Groes Goch ei adroddiad newydd, 'Every time it rains', a oedd yn tynnu sylw at yr angen i wneud mwy i gefnogi cymunedau i baratoi yn well ar gyfer llifogydd ac adfer ohonyn nhw. Mae'r adroddiad yn codi sawl pwynt, ond y mwyaf pryderus yn fy marn i oedd y canfyddiadau bod ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ymhlith y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yn isel, fel rydych chi wedi sôn, Gweinidog. Mae diffyg ymwybyddiaeth yn effeithio ar lawer o aelwydydd o ran bod ag yswiriant llifogydd sy'n annigonol ac yn arwain pobl i ddiffyg ymwybyddiaeth o'r camau y gallan nhw eu cymryd i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf bosibl.
Mae gan rai cymunedau, fel Pentref Afon yn fy etholaeth i, grwpiau o wirfoddolwyr llifogydd, sy'n helpu i dynnu sylw trigolion at berygl llifogydd, a chysylltu ag awdurdodau ar rwystrau mewn afonydd a rhoi gwybodaeth ynglŷn â'r hyn i'w wneud gyda phethau gwerthfawr, ymhlith llawer o bethau eraill. Rydym ni wedi gweld, dros y blynyddoedd diwethaf, bod llifogydd a thywydd eithafol yn dod yn gynyddol arferol, ac fe all y gost emosiynol ac ariannol ar ôl digwyddiad dinistriol fod yn enbydus, felly fe ellid rhoi'r adnoddau mewn sefyllfa well o ran meithrin cadernid yn y man cychwynnol. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru yn gwybod beth i'w wneud i baratoi ar gyfer llifogydd? Rydych chi wedi sôn am yr adolygiad, ond beth arall y gellir ei wneud i annog grwpiau llifogydd gwirfoddol i ehangu er mwyn cynnwys mwy o gymunedau sydd mewn perygl erbyn hyn?
Diolch i chi, Jayne. Fe fyddaf i'n cwrdd â'r Groes Goch Brydeinig yn fuan iawn i drafod eu hadroddiad gyda nhw; mae gennym ni ddiddordeb mawr yn y canfyddiadau. Ac yn wir, mae gennym ni ddiddordeb mewn gweithio gyda phob grŵp yn iawn ledled Cymru sydd â rhywbeth i'w ychwanegu at y cynllun gweithredu hwn, mewn gwirionedd, oherwydd nid oes unrhyw ddadl gan unrhyw un ohonom ni ynglŷn â'r angen i ni wneud hyn mor gyflym â phosibl, ac mae angen i ni ddefnyddio pob un ysgogiad sydd gennym i sicrhau bod pobl mor ymwybodol o lifogydd ag y gallan nhw fod, a'u bod nhw, os ydyn nhw'n cael llifogydd, yn deall yn union beth i'w wneud i adfer mor gyflym â phosib a phwy i ofyn iddyn nhw am gefnogaeth. Ond mae angen i hynny fod yn digwydd hefyd—. Cyn gynted ag y byddwch chi'n gwybod eich bod chi mewn tŷ sydd mewn perygl o lifogydd, mae angen i chi allu deall beth fydd angen iddo ddigwydd er mwyn bod â'r amddiffyniadau y mae eu hangen arnoch chi. Felly, rwy'n cytuno â chi'n gyfan gwbl. Fe fyddaf i'n cyfarfod â nhw'n fuan i drafod y mater. Fe fyddaf i'n fwy na pharod i drafod y cyfarfod hwnnw gyda chi pan fydd hwnnw wedi bod.
Gweinidog, mae'r llifogydd sydd, unwaith eto, wedi dinistrio bywydau pobl nid yn unig yn difrodi carpedi a phapur wal. Pan fydd dŵr budr yn cael ei lanhau i ffwrdd, nid staeniau ffisegol yn unig sydd ar ôl. Mae pobl yn cael eu gadael gydag archoll, maen nhw'n ofnus ac yn ansicr o'r hyn a ddaw yn sgil y glaw trwm nesaf. Rydym ni wedi clywed eisoes gan Jayne Bryant bod adroddiad y Groes Goch, 'Every time it rains', yn sôn am yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon llifogydd. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i chi.
Fe hoffwn i bwyso arnoch chi, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â'r pha gymorth seicolegol a gaiff ei gynnig i bobl sydd wedi dioddef llifogydd unwaith eto. Fe wn am o leiaf un stryd yn fy rhanbarth i lle cafodd llifogydd eu hachosi gan yr un rheswm ag yn gynnar yn 2020: ceuffos wedi blocio. Os bydd yr un peth yn parhau i ddigwydd, sut all y trigolion hyn ymddiried y bydd eu tai nhw'n ddiogel yn y dyfodol? Ac yn olaf, pa wasanaethau cwnsela a fydd ar gael mewn ysgolion mewn ardaloedd a effeithiwyd, os gwelwch chi'n dda, oherwydd mae plant bach iawn yn arbennig yn canfod y digwyddiadau hyn yn wirioneddol andwyol iawn? Diolch i chi.
Diolch i chi, Delyth. Mae hynny'n gwbl gywir. Rwyf i wedi cyfarfod yn bersonol gyda nifer o'r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae hi'n gwbl gywir eu bod nhw wedi cael eu dylanwadu mewn ffordd ddifrifol iawn. Dywedodd un teulu wrthyf i fod eu plentyn tair oed yn bryderus iawn bob tro yr oedd hi'n bwrw glaw hyd yn oed yn arferol am eu bod nhw wedi cael llifogydd ac roedd hi'n poeni am hynny. Felly, mae hi'n broblem wirioneddol.
Y peth cyntaf i'w wneud yw sicrhau ein bod ni'n llwyddo i gael rhaglen ar waith sy'n ehangu amddiffyniad rhag llifogydd i dai, er mwyn lleihau'r perygl o hynny gymaint ag y gallwn ni. Fe fyddaf yn sicr o siarad â'm cydweithiwr Jeremy Miles ynglŷn â gwneud rhywbeth yn yr ysgolion mewn ardaloedd a gafodd eu heffeithio yn arbennig—rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da iawn, sef trafod yn union sut mae'r plant yn teimlo ynghylch hyn a'r hyn a ellir ei wneud. Felly, rwy'n sicr yn hapus iawn i wneud hynny.
Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru gennym ni—fe ddylwn i fod wedi sôn amdano'n gynharach—sydd hefyd yn edrych ar hyn o safbwynt cadernid ar gyfer seilwaith. Ond mae seilwaith yn cynnwys seilwaith cymdeithasol hefyd, felly fe fydd hi'n dda iawn gennyf i gael gwybod beth fydden nhw'n ei gynnig. Rydym ni'n ymwybodol iawn o effeithiau hyn yn gymdeithasol a chymunedol. Nid, fel y dywedwch chi, am garpedi ac ati yw hyn, er y gall hynny fod yn ddinistriol iawn. Mae hyn yn sicr yn ymwneud ag effaith seicolegol cael eich amddifadu o ymdeimlad o gartref, felly rydym ni'n sicr yn amgyffred hynny.
Rwyf i wedi ymweld â nifer o gartrefi sydd wedi gweld llifogydd ac mae pobl wedi rhoi marc bach ar y wal i ddangos i le y cyrhaeddodd, am fod hynny wedi cael cymaint o effaith arnyn nhw. Felly, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, Delyth, ac rwy'n credu ein bod ni wir yn awyddus i weithio gyda'n cymunedau i wneud yn siŵr (a) eu bod nhw mor gadarn â phosibl, a (b) bod y broses adfer mor gyflym â phosibl. Ac rwyf i wedi sôn eisoes y byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud rhywbeth am y sefyllfa o ran yswiriant. Mae yswiriant Flood Re ar gael ar gyfer tai domestig, ond, mewn gwirionedd, mae terfyn amser yn hynny o beth, felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod rhaglen arall yn ei lle. Ac fel y dywedais i, nid yw eiddo masnachol yn cael ei gynnwys yn hynny ar hyn o bryd, ac fe geir amrywiaeth o faterion sy'n peri anhawster ynglŷn â hynny. Ond ni ddylai hynny fod yn amhosib ei oresgyn, ac felly rydym ni wedi gofyn am gyfarfodydd gyda'r sector yswiriant ynglŷn â dulliau o wneud hynny, ar y cyd â Llywodraeth y DU, oherwydd, a dweud y gwir, nid yw'r farchnad yn ddigon eang yng Nghymru i ni allu bod ag unrhyw ddylanwad, felly fe wnawn ni weithio gyda nhw i sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi cynllun addas ar waith. Yn y cyfamser, rydym ni wedi gofyn i'n hawdurdodau lleol asesu'r difrod i fusnesau lleol a gweithio gyda nhw i wneud yn siŵr y gallan nhw gael eu hadfer.
Gweinidog, dros y penwythnos mewn ardaloedd yn Nwyrain Casnewydd, fel Llanwern, Langstone a St Julians, gwelwyd llifogydd ac nid digwyddiad anghyffredin mohonyn nhw'n anffodus, sydd wedi mynd yn fwy tebygol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o drigolion a busnesau yn cysylltu â mi a'm swyddfa i. Un o'r materion yr ydych chi'n siŵr o fod yn gyfarwydd â nhw, Gweinidog, yw canfod pwy sy'n gyfrifol a phwy sy'n atebol am lifogydd o ran defnydd tir a rheoli tir, ac yn aml iawn mae hi'n anodd i berchnogion tai a busnesau wneud hynny. Ar y naill law Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â chyfrifoldeb, neu Ddŵr Cymru o bosibl, neu Network Rail, yr awdurdodau lleol, datblygwyr preifat, a tybed, Gweinidog, a oes unrhyw beth yr ydych chi'n ei ystyried o ran dod â sefydliadau sydd â chyfrifoldebau o bosibl at ei gilydd mewn amgylchiadau fel hyn i ddarganfod pwy sy'n gyfrifol, oherwydd mae honno'n sefyllfa sy'n parhau, nid digwyddiad untro, ac mae angen datrys hyn i'r dyfodol.
Un mater arall, Gweinidog—fe wnaethoch chi sôn am y defnydd o'r amgylchedd naturiol, sy'n rhagorol yn fy marn i ac mae angen gwneud hynny'n fwy eang. Rydym ni wedi gweld rhai ymdrechion i reoli arwynebau caled mewn ardaloedd trefol—rhai deiliaid tai ac eraill—a ydych chi'n ystyried unrhyw rai eraill, fel bydd cyfran lai o'r arwynebau caled hyn sy'n caniatáu i'r dŵr redeg i ffwrdd yn syth, yn hytrach na'i amsugno, ei gadw a'i ollwng dros amser hir?
Diolch, John. Rwy'n cytuno bod hwn yn ddarlun cymhleth, os hoffech chi, o ran pwy sy'n gyfrifol am beth. Ond, mewn gwirionedd, os ydych chi'n ddeiliaid tŷ sydd â phrofiad o lifogydd, fe ddylech chi gysylltu â'ch awdurdod lleol, ac fe ddylen nhw fod yn berffaith alluog i'ch rhoi chi mewn cysylltiad ag unrhyw un arall, ond y nhw a fydd yn gyfrifol am 98 y cant o'r boblogaeth. Dim ond rhai mewn amgylchiadau arbennig iawn na fydd yn derbyn cymorth gan yr awdurdod lleol yn y lle cyntaf. Felly, yr awdurdod lleol yw'r man cychwyn yn bendant.
Mae angen i'r awdurdod lleol gysylltu gyda ni hefyd—rwy'n sylwi nad yw Casnewydd ar fy rhestr i, mae arnaf i ofn. Felly, mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod nhw'n cysylltu â ni sef yr awdurdod sy'n rheoli llifogydd i sicrhau eu bod nhw'n cymryd mantais o gymorth gan Lywodraeth Cymru hefyd, ac yn sicr fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny o'r pen arall yn yr achos hwn.
Y peth arall i'w ddweud yw ein bod ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl mor wydn â phosib yn y cyfnod o flaen y llifogydd, sef eu bod nhw'n deall lle i chwilio am rybuddion llifogydd a sut i sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth sydd ar ddod. Felly, yn amlwg, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer newyddion a newyddion teledu ac ati. Roedd adroddiadau tywydd yn ddigymhlethdod; heb i chi fod heb edrych ar unrhyw beth o gwbl, fe fyddech chi wedi gweld y rhain. Ond ni fyddech chi wedi gwybod ble i edrych o reidrwydd ar gyfer gweld a fyddai eich stryd chi eich hun yn cael ei heffeithio arni, ac felly rwy'n cytuno â chi bod angen i ni wneud llawer mwy i wneud yn siŵr bod pobl yn deall sut i gael y rhybuddion hynny. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r awdurdodau lleol i wneud yn siŵr y gallwn gael system rybuddio ar waith ar gyfer tai sy'n cael eu heffeithio arnyn nhw. Mae hwnnw'n anhawster, oherwydd ni ellir dianc rhag y ffaith fod yr effaith hon yn mynd ar led.
Felly, rwy'n falch iawn fod y gwaith a wnaethom ni eisoes mewn cymunedau a oedd yn cael llifogydd wedi gweithio, maen nhw'n cael eu hamddiffyn, ond fe allwch chi weld bod newid hinsawdd yn cyflymu. Mae'r rhain wedi bod yn ddigwyddiadau tywydd eithafol, ac rydym ni i gyd yn cofio ein bod ni wedi cael yr haf sychaf a welsom ni erioed, felly mae'r dŵr hwn yn effeithio ar dir a aeth yn orlawn o ddŵr yn sydyn. Mae honno'n broblem wirioneddol o ran sut mae'r tir yn ymateb i effaith dŵr fel hyn. Dim ond dechrau deall ein hunain ydym ni mewn gwirionedd o ran rai o'r effeithiau hynny i beth o'n tir. Felly, fe fydd angen i ni weithio gyda'n poblogaethau i wneud yn siŵr ein bod ni'n rheoli hynny, ac rwyf i wedi cyfeirio eisoes at nifer o'r adolygiadau sy'n digwydd—oherwydd ein bod ni wedi gweld hyn yn dod, mae adolygiadau hyn yn digwydd gennym ni, felly mae angen i ni gael y rhain nawr, a chasgliadau'r rhain, fel gallwn ni weithio drwyddyn nhw.
Os oes gennych achosion neilltuol iawn, John, o etholwyr, ysgrifennwch ataf i a gadewch i mi wybod. Efallai y bydd amgylchiadau neilltuol y gallwn ni fynd i'r afael â nhw mewn ffordd fwy penodol.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, a'r buddsoddiad mewn amddiffyn arfordirol yn y gogledd hefyd, sy'n sylweddol. Mae llifogydd, fel glaw, yn effeithio ar seilwaith ein priffyrdd ni, ein ffyrdd ni, ein pontydd a'n palmentydd ni, ac rydym ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn y gogledd, gyda thirlithriadau yn sir y Fflint, Trecelyn a Phont Llanerch sydd wedi costio miliynau i'w hadfer. Mae glaw trwm yn golchi gwasanaethau priffyrdd i ffwrdd, yn achosi tyllau yn y ffyrdd a blocio'r cwteri, sy'n hunllefus i awdurdodau lleol, fel gwnaethoch chi sôn, a thrigolion fel ei gilydd. Fe gefais i fy siomi o weld bod y gronfa ffyrdd cydnerth, a oedd yn £20 miliwn, wedi cael ei thorri i ddim erbyn hyn yn y gyllideb ddrafft. Fe welais fod £20 miliwn wedi mynd i lywodraeth leol erbyn hyn ar gyfer datgarboneiddio, ac rwy'n meddwl tybed ai'r un cyllid yw hwnnw, wedi cael ei symud. A hefyd a fyddech chi'n ystyried tamaid o'r gronfa drafnidiaeth leol i'w defnyddio o bosib ar gyfer awdurdodau lleol ar gyfer gwytnwch? Diolch i chi.
Dydw i ddim yn rhy siŵr pa gyllideb rydych chi'n cyfeirio ati yn y fan yna, Carolyn, mae gen i ofn. Felly mae yna gyllideb benodol iawn i reoli llifogydd, ac mae hi wedi'i chlustnodi ar gyfer rheoli llifogydd ar gyfer CNC. Mae awdurdodau lleol yn ei chael fel rhan o'r grant cynnal refeniw, ond mae disgwyl iddyn nhw roi rhaglen ar waith. Felly, rwy'n hapus i drafod y manylion gyda chi yn y fan yna. Ond nid yw'n gymysgedd o gyllidebau—mae'n gyllideb benodol iawn.
Roeddwn i eisiau dweud—mewn gwirionedd, mewn ymateb i John Griffiths yn ogystal ag i chi—mae eisoes ar waith yng Nghymru yr angen i gael caniatâd cynllunio i osod palmant dros eich gardd flaen, mewn gwirionedd. Mae hyn yn cael ei anwybyddu'n eang, mae'n rhaid i mi ddweud, ac rwy'n bwriadu atgoffa awdurdodau lleol bod hynny'n wir. Ac rwy'n credu bod angen i ni gael rhaglen o ymwybyddiaeth a rhybuddio fel bod pobl yn deall beth fydd yn digwydd os byddan nhw'n gwneud eu gerddi blaen yn anathraidd. Mae Joyce Watson wedi bod yn sôn am hyn ers blynyddoedd bellach, ond rwy'n credu ei fod yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg bod angen i bobl ddeall eu cyfraniad eu hunain i rai o'r pethau sy'n digwydd yn lleol iddyn nhw. Os ydych chi'n atal eich gardd rhag gallu amsugno dŵr, mae'r dŵr hwnnw'n arllwys yn syth i mewn i'r gwteri, ac yn mynd ag unrhyw beth y mae'n ei godi ar hyd y ffordd gydag ef, ac mae'n achosi'r math o flociau yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw. Felly, rwy'n credu bod angen i bobl fod yn ymwybodol o hynny. Os ydych chi eisiau parcio car ar eich gardd flaen a dyna beth yw ei bwrpas, mae yna lawer o arwynebau athraidd sy'n gwbl briodol ar gyfer hynny, ac sy'n caniatáu i ryw fath o fioamrywiaeth ffynnu hefyd. Does dim angen rhoi palmant caled arni.
Ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol, Carolyn, i ddeall beth fydd effaith ehangach y llifogydd a'r tywydd eithafol rydyn ni wedi'u cael. Nid yw hyn, yn anffodus, yn mynd i fod yn ddigwyddiad ynysig. Gwyddom mai llynedd oedd y flwyddyn gynhesaf ar gofnod. Mae hefyd yn prysur ddod y gaeaf gwlypaf ar gofnod. Felly, mae gen i ofn bod hwn yn fesur go iawn o'r cyfnod yr ydym ni'n byw ynddo, a bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddod yn llawer mwy cydnerth, yn ein perthynas ac yn ein hymateb.
Diolch i'r Gweinidog.