Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:30, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Hyd yn oed cyn y cynnydd diweddar yn y cap ar brisiau tanwydd, gwyddom fod bron i hanner yr holl aelwydydd yn wynebu risg o fynd i dlodi tanwydd, ac rwy’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau, fel fi, wedi gweld cynnydd yn nifer yr etholwyr sy'n cysylltu â hwy mewn dirfawr angen cyngor a chymorth. Mae ymyriadau Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gefnogi cymunedau fel Cwm Cynon, ond yn wyneb methiant Llywodraeth y DU i ddiwygio’r farchnad ynni ffaeledig, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd diogelu'r teuluoedd a'r plant sy'n wynebu'r risg fwyaf o fynd i dlodi tanwydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth er gwaethaf pwysau cyllidebol ehangach?