Mercher, 18 Ionawr 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Dyma ni yn cychwyn ar y cyfarfod y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf heddiw fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n blaenoriaethu ymyriadau i ddileu tlodi tanwydd o fewn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24? OQ58945
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid llywodraeth leol am sut y gallant gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ58962
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu awdurdodau lleol i hyrwyddo iechyd y cyhoedd? OQ58963
4. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y cyllid sydd ei angen i gyflawni eu hymrwymiadau newid hinsawdd? OQ58967
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch y disgwyliad eu bod yn cynnal gwasanaethau cyhoeddus anstatudol yn dilyn cyllideb 2022-23? OQ58968
6. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidogion eraill ynghylch cyllido mesurau iechyd ataliol ar draws y Llywodraeth? OQ58961
7. Pa asesiad ariannol y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddull awdurdodau lleol o fuddsoddi mewn arlwyo ysgolion? OQ58952
8. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chynghorau yn rhanbarth Canol De Cymru ynglŷn â dyfodol gwasanaethau anstatudol yn sgil yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu? OQ58953
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i’r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru yn gyfeillgar i bryfed peillio? OQ58955
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad clefydau mewn da byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58965
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
3. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i helpu i reoli tir comin yn Nwyrain De Cymru? OQ58943
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch defnyddio addasu genetig planhigion ar gyfer atafaelu carbon? OQ58948
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wella'r seilwaith gwyrdd trefol yng Ngwent? OQ58964
6. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru'n ymgymryd â hwy i leihau'r boblogaeth cathbysgod yn sir Ddinbych? OQ58949
7. Sut fydd y Llywodraeth yn mesur llwyddiant Bil Amaethyddiaeth (Cymru) 2022? OQ58966
9. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu sector diwydiant amaethyddol bywiog? OQ58946
10. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu rhywogaethau bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad? OQ58941
11. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd am sut y gall amaethwyr gyfrannu at y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni yn Arfon? OQ58969
12. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o iechyd y diwydiant wyau yng Nghymru? OQ58957
Eitem 3 sydd nesaf, a'r cwestiwn amserol yw hwnnw. Mae'r cwestiwn i'w ofyn gan James Evans, and to be answered, i'w ateb, gan y Gweinidog addysg. James Evans.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ddisgwyliadau ynghylch ei gyfarfodydd gydag undebau llafur yr athrawon yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran osgoi cau ysgolion? TQ711
Dwi wedi cytuno i bwynt o drefn, ac, i gyflwyno'r pwynt o drefn yna, Heledd Fychan.
Datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Mae'r unig ddatganiad heddiw gan Sioned Williams.
Eitem 5 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr...
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: ynni adnewyddadwy ar y môr. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Eitem 7 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru, rheoli'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd gwladol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Felly, un bleidlais yn unig sydd y prynhawn yma, a'r bleidlais honno ar y ddadl sydd newydd ei chynnal, sef y ddadl ar eitem 7, dadl Plaid Cymru ar reoli'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Dwi'n...
Mae'r ddadl fer heddiw gan Janet Finch-Saunders.
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gynnal a chadw priffyrdd wrth benderfynu'r setliad awdurdod lleol eleni?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia